12 NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 2 Gorffennaf - Medi 2011
Datganiad polisi ar yr iaith Gymraeg
MAE’R ‘Datganiad polisi ar yr iaith Gymraeg’ wedi cael ei lansio yn Sir Gaerfyrddin dros yr wythnosau diwethaf. Lansiwyd yn rhan o Ŵyl Hwyl Llandybie, Gŵyl Fwyd Castell Newydd Emlyn a Mabolgampau Meithrin Cwm Gwendraeth ym mharc Pontyberem. Paratowyd y ddogfen gan Grŵp Partneriaeth Mentrau Sir Gâr sy’n
cynnwys Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cyngor Sir Caerfyrddin, Menter Bro Dinefwr, Menter Cwm Gwendraeth a Menter Gorllewin Sir Gâr sy’n hyrwyddo, cefnogi a sicrhau defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd Sir Gâr. Y weledigaeth yw gweld sefydliadau a mudiadau’r sir yn cydweithio
gyda’i gilydd a chyda pobl y sir, o bob cefndir i hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Mae partneriaethau Strategaeth Gymunedol Integredig Sir Gâr wedi ymrwymo i nodau’r datganiad polisi hwn. Pump nod uchelgeisiol y ddogfen yw: • Cynyddu’r niferoedd a chanrannau sy’n siarad, deall, darllen ac ysgrifennu Cymraeg
• Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a chodi hyder siaradwyr Cymraeg • Cynyddu’r cyfleoedd i ddysgu a hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg • Cynnal a datblygu cymunedau a rhwydweithiau hyfyw o siaradwyr Cymraeg
• Datblygu a hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg a gweithleoedd dwyieithog.
Darllenwch y ddogfen ar
www.partneriaethsirgaerfyrddin.org.uk neu am ragor o wybodaeth ffoniwch 01267 224008 neu e-bostiwch
IaithGymraeg@sirgar.gov.uk
Llun: Ashley Thomas o Ffair-fach, sy’n fyfyriwr yng Ngholeg Sir Gâr
Mae myfyriwr 18 oed o Ffair-fach yn prysur wneud enw iddo’i hun fel ateb Cymru i’r enwog Bill Gates. Mae Ashley Thomas, sy’n astudio
ar gyfer Diploma Cenedlaethol mewn TG yng Ngholeg Sir Gâr, wedi cael ei ddewis i gystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth UKSkills, ar ôl ennill aur yn rownd derfynol Cymru, a gynhaliwyd yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd yn awr yn mynd i’r rownd derfynol genedlaethol, a gallai gael lle yn Sgwad y Deyrnas Unedig ar gyfer digwyddiad WorldSkills yn 2013.
Meddai Jeff Cuthbert, y Dirprwy
Weinidog dros Sgiliau: “Mae hyn yn gyfle gwych i genhedlaeth newydd o bobl dalentog a medrus mewn llawer o wahanol alwedigaethau ddangos eu doniau. Mae’n ysbrydoli uchelgais ac yn gosod meincnod heriol sy’n annog y darlithwyr a’r hyfforddwyr, yn ogystal â’r hyfforddeion eu hunain, i ymdrechu i fod ymhlith y goreuon. Bydd y sgiliau lefel uchel hyn yn helpu i gyflawni amcan Llywodraeth Cymru, sef economi gref, sy’n cael ei gyrru gan fusnesau hynod gystadleuol.”
Cystadleuaeth WorldSkills
www.sirgar.gov.uk
Newidiadau traffig
MAE rheoliadau traffig newydd wedi’u
cyflwyno yng
Nghaerfyrddin i ddiogelu siopwyr a’r rhai sydd mas yn y dref a hefyd er mwyn denu rhagor o bobl i ymweld ag ardaloedd siopa hŷn y dref. Mae gwahardd gyrru yn ystod y nos
ym mis Mehefin yn Heol y Brenin wedi diogelu’r rhai sy’n gadael tafarndai a chlybiau ac mae wedi bod yn hwb i economi’r nos. Dan fenter arall i annog rhagor o bobl i ymweld â Heol y Brenin, Heol y Frenhines a Maes Nott, bydd pob traffig yn cael ei wahardd rhwng 10am a 4pm ar bedwar dydd Sadwrn ym mis Awst ar 6ed, 13eg, 20fed a’r 27ain. Bydd yn golygu y gellir cynnal
adloniant stryd a bydd yn gyfle i siopwyr grwydro’r hen ran hon o dref Caerfyrddin sy’n creu gwedd newydd iddi ei hun er mwyn denu’r llu o siopwyr sy’n heidio i Gaerfyrddin. Er mwyn rhoi rhagor o gyfleoedd i
siopwyr, gwellwyd yr arwyddion, cynyddwyd nifer y lleoedd parcio tymor byr a sefydlwyd rhagor o feysydd parcio ‘talu ac arddangos’ ar draws y sir.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20