14 NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 2 Gorffennaf - Medi 2011 Hamdden yn Sir Gâr Adolygiad hamdden Clybiau chwarae Peli yn y Parc
BYDD Menter Cwm Gwendraeth yn cynnal dau glwb chwarae haf yn Ysgol Cross Hands ac Ysgol y Castell, Cydweli, yn cychwyn ar 25 Gorffennaf. Bydd y clybiau yn cynnig lle diogel i
blant i gael hwyl yn ystod gwyliau’r haf ac yn help mawr i rieni sy’n gweithio yn ogystal â rhoi cyfle i blant i ddod o hyd i ffrindiau newydd. Bydd gweithgareddau llawn hwyl a
sbri yn cynnwys celf a chrefft, coginio, chwaraeon a dawns. Bydd y clybiau dwyieithog ar agor i
MAE swyddogion hamdden wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chynghorwyr fel rhan o grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu sut rheolir amrywiol gyfleusterau hamdden. Mae canolfannau hamdden yn ganolog i fywyd cymunedol y sir, gan ddod â phobl at ei gilydd i fyw, gweithio, ymweld a mwynhau, a sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr yn byw bywydau iachach, hapusach a mwy ffyniannus. Gan gydnabod y gwerthoedd hyn, mae’r grŵp wedi bod yn gweithio’n galed i asesu effaith y dirwasgiad ar y lleoliadau hyn, ac i sicrhau bod y cyfleusterau’n dal i weithredu mor effeithiol ac effeithlon â phosib yn y dyfodol. Mae tueddiadau defnydd, oriau agor, costau ynni a llif incwm i
gyd wedi derbyn sylw, a chytunwyd ar nifer o gamau cadarnhaol i sicrhau dyfodol tymor hir y cyfleusterau. Mae’r adolygiad yn ategu’r gwaith
sy’n cael ei wneud gan yr adran hamdden i
sicrhau bod
cyfleusterau’n cael eu gweithredu mor effeithlon â phosib er mwyn darparu gwerth am arian i’r trethdalwr. O ystyried defnydd ysgolion o
lawer o’r safleoedd, ffigurau’r gost y defnyddiwr a chymarebau adferiad gweithredol – gan gymharu gwariant ac incwm – gwelir bod cyfleusterau hamdden Sir Gaerfyrddin yn cymharu’n ffafriol â chyfleusterau tebyg, hyd yn oed rhai yn y sector masnachol.
Bwrlwm i’r Plant yr haf hwn
OS YDYCHwrthi’n chwilio am ffyrdd i ddiddanu eich plant, 8–11 oed, yn ystod gwyliau’r haf, clwb bwrlwm canolfannau hamdden Sir Gaerfyrddin yw’r ateb i chi. Gall y plant roi cynnig ar chwarae tennis bwrdd, nofio, caiacio, trampolinio,
chwarae polo dŵr a llu o weithgareddau eraill sy’n llawer o hwyl ac yn ymarfer corff ac sydd hefyd yn eu hannog i gael diddordebau newydd. Gellir archebu diwrnodau unigol neu wythnosau cyfan yn ôl eich gofynion. Argymhellwn eich bod yn archebu’n fuan i osgoi cael eich siomi. I gael
gwybod rhagor, cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol neu ewch i
www.actifsirgar.co.uk
blant dros y sir. Oriau Clwb Cross Hands yw 8.30yb tan 5.30yh, pum diwrnod yr wythnos gyda’r sesiwn olaf ar 19 Awst, ac oriau Clwb y Castell yw 9yb tan 5yh, pedwar diwrnod yr wythnos, gyda’r sesiwn olaf ar 18 Awst. Y ffi yw £12.50 y plentyn y dydd a
bydd angen iddynt ddod â phecyn bwyd gyda nhw. Am ragor o fanylion cysylltwch â
Meinir neu Nerys yn Swyddfa Menter Cwm Gwendraeth ar 01269 871600.
www.sirgar.gov.uk
Sffera yw’r peth mwya difyr i’w wneud â bryn a phêl anferth sbonciog. Yn yr atyniad mawr newydd yma ym Mharc Gwledig Pen-bre rydych yn cael
eich clymu i mewn i’r bêl sbonciog – os ydych chi’n acwa-sffera, ychwanegir ambell fwcedaid o ddŵr yn ogystal – ac yna bant â chi yn sboncio am 30mya nes cyrraedd y gwaelod yn ddiogel. Cyffro chwyldroadol llawn adrenalin yw hwn, sydd hyd yn oed yn fwy o sbri gyda ffrind!
Antur yr Haf
MAE haf llawn gweithgareddau ar y ffordd gyda Gwasanaeth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, ac mae cynlluniau i gadw pobl ifanc yn brysur gyda llu o weithgareddau difyr a digwyddiadau awyr agored. Digwyddiad blynyddol yw ‘B in the
Park’ a fydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau mewn chwe pharc ar draws y sir. Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal ar ddydd Llun ar hyd gwyliau’r haf a byddan nhw ar gael am ddim i bob person ifanc. Byddan nhw’n cynnwys gweithgareddau chwaraeon, celf a chrefft, mannau ymdawelu a cherddoriaeth. I gael rhagor o wybodaeth,
cysylltwch â Rhys D Jones drwy ffonio 07880504130.
Mae rhaglen ‘Splash’ hefyd yn
darparu gweithgareddau diogel i bobl ifanc yn ystod yr haf. Bydd y gweithgareddau’n cael eu cynnal ar draws Sir Gaerfyrddin ac yn cynnwys: motocross, arfordira, hwylio, beicio mynydd, caiacio a syrffio.
Bydd rhaglen Splash yn parhau am
5 wythnos, gan gychwyn ar 18 Gorffennaf a gorffen ar 28 Awst. I gael rhagor o wybodaeth,
cysylltwch â chlybiau ieuenctid lleol neu siaradwch â gweithwyr ieuenctid mewn ysgolion.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20