www.sirgar.gov.uk
NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 2 Gorffennaf - Medi 2011
9 Blas o Caerfyrddin
Mae Gŵyl Fwyd enfawr yn cael ei chynnal yng Nghaerfyrddin ddiwedd mis Gorffennaf, a bydd yno ddwsinau o stondinau, gweithgareddau, ac adloniant. Cynhelir y digwyddiad rhwng 9am a 5pm ddydd Mercher, Gorffennaf 27, ac fe’i trefnir gan y ‘Carmarthen
Journal’ ar y cyd â’r Cyngor Sir, y Cyngor Tref, Rhodfa’r Santes Catrin, Maes Myrddin, y Siambr Fasnach, busnesau, a sefydliadau eraill. Nod y digwyddiad yw hyrwyddo Caerfyrddin fel cyrchfan i siopwyr ac ymwelwyr, annog rhagor o bobl i ddod i ganol y dref, a chefnogi masnachwyr. Bydd y strydoedd yn llawn stondinau yn gwerthu bwyd a diod; o Heol y Brenin i Faes Nott a’r Clos Mawr, ac ym
Maes Myrddin, Heol Goch, a Rhodfa’r Santes Catrin. Bydd pabell fawr a bws goginio yn y Clos Mawr a bydd llwyfan yn Rhodfa’r Santes Catrin lle darperir adloniant drwy’r dydd, yng ngofal Radio Sir Gâr. Caiff helfa drysor ei chynnal yn y siopau yng nghanol y dref, ynghyd â chystadleuaeth gwisg ffansi hudol i’r plant.
Bydd yr adloniant yn cynnwys Opera Ieuenctid Caerfyrddin, y canwr Jimi Webb, bandiau lleol, grŵp dawnsio, paentwyr wynebau, a gweithgareddau eraill i’r plant.
Cyfle i ennill basged o nwyddau ym Marchnad Caerfyrddin!
Bydd Marchnad Caerfyrddin yn rhan ganolog o’r Ŵyl Fwyd a bydd arddangosiadau coginio’n digwydd yno
drwy gydol y dydd. Bydd pob cwsmer sy’n prynu rhywbeth yn y farchnad ar ddiwrnod yr ŵyl yn cael tocyn raffl a chaiff ei enw ei roi yn y raffl fawr. Bydd yr enillydd yn cael basged o nwyddau o’r farchnad.
MAE Cynllun Lleoli Oedolion Gorllewin Cymru, sef gwasanaeth sy’n darparu seibiannau byr a lleoliadau hirdymor ar gyfer pobl agored i niwed, yn dibynnu ar bobl sydd â lle yn eu bywydau a’u cartrefi i roi cymorth i unigolyn yn y gymuned. Mae Lleoli Oedolion, un o’r cynlluniau blaenllaw o’i fath ym Mhrydain, yn
Mae eich angen chi ar y cynllun lleoli oedolion
Dawnsio’i ffordd i Gaerdydd
MAE myfyrwraig o Bentywyn yn pacio ei sgidiau dawnsio ac ar ei ffordd i’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Mae Jordanna Moran, o Lanmilo, sydd ar hyn o bryd yn
cwblhau diploma cenedlaethol yn y celfyddydau perfformio yng Ngholeg Sir Gâr, wrth ei bodd ei bod wedi cael ei derbyn i’r ysgol ddrama enwog. “Roeddwn i’n gwybod bod angen i mi astudio perfformio
yn llawn amser i gael fy nerbyn i ysgol ddrama, a dyna pam dewisais i’r diploma cenedlaethol yng Ngholeg Sir Gâr,” meddai. “Rydyn ni wedi edrych ar gynifer o bethau, fel y theatr, ffilm, teledu a’r radio. Ar un adeg roeddwn i’n cymryd rhan mewn rhyw bedair sioe ar yr un pryd, ond fe roddodd y darlithwyr lwyth o help i mi, yn eu hamser eu hunain hefyd.” Mae Jordanna, sy’n 19 oed, hefyd wedi dysgu sgiliau
dawnsio cyfoes mewn bale, hip hop a jazz, a bu hynny o gymorth aruthrol iddi yn ei chlyweliad, oedd yn canolbwyntio ar symud. “Rydw i mor hapus a chyffrous – alla i ddim credu mod i’n wir yn mynd yno,” meddai.
creu cyfleoedd i bobl sy’n agored i niwed fod yn fwy annibynnol a chael bywyd teuluol go iawn. Mae’n rhoi taliadau hael, hyfforddiant a chymorth i sicrhau bod Gofalwyr Lleoli Oedolion yn cael cymaint o fudd â’r bobl y maent yn eu cefnogi. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01267 224200 neu ewch i
www.westwaps.org.uk
LLUN: Jordanna Moran
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20