www.sirgar.gov.uk Ymddiddori mewn Iechyd
NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 2 Gorffennaf - Medi 2011
13 Ariannu’r dyfodol
MAE 14 o bobl ifanc wedi bod yn dilyn menter Getting into Health a drefnwyd ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ac Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru, y fenter gyntaf o’i bath yn y GIG yng Nghymru. Roedd “Getting into Health with Hywel Dda” yn
targedu pobl ifanc 18-25 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant ar hyn o bryd. Ymunodd y grŵp â thimau ysbyty, a thros gyfnod o 5 wythnos cawsant gyfleoedd i wella eu gwaith tîm a’u sgiliau cyfathrebu, datblygu sgiliau yn y gweithle, cyflawni hyfforddiant wedi ei achredu, a gwella eu CV â lleoliad gwaith 11 diwrnod. Meddai Linda Williams, Cyfarwyddwr Sirol Hywel Dda
yn Sir Gaerfyrddin: “Mae ein staff wedi eu croesawu nhw i gyd, ac mae’n drist eu gweld nhw’n mynd, ond rydyn ni’n gobeithio bydd digon o gyfleoedd yn y dyfodol iddyn nhw ddychwelyd i Hywel Dda fel aelodau gwerthfawr o staff.” Meddai Zak Richardson, a gymerodd ran yn y cynllun:
“Rydw i wedi gweithio gyda chynifer o bobl eithriadol. Rydw i eisiau diolch i bawb oedd yn ymwneud â threfnu Getting into Health.” Meddai Ian Thomas, Rheolwr y Rhaglen yn
Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru: “Mae wedi bod yn brofiad gwych i bawb, ac mae wedi helpu i herio barn pobl am bobl ifanc.”
Myfyrwyr yn glanhau
CWESTIWN: Sut mae troi £1 filiwn yn £14 miliwn? Ateb: Ei fuddsoddi mewn prosiectau cymunedol yn Sir Gaerfyrddin. Mae is-adran adfywio cymunedol y
cyngor wedi denu £12.8 miliwn mewn ariannu allanol ar gyfer 371 o wahanol brosiectau gydag arian cyfatebol o £1.3 miliwn gan y Cyngor. Mae’r is-adran wedi creu neu
gynorthwyo 80 o fentrau, wedi creu neu ddiogelu 72 o swyddi, wedi helpu neu gynghori 864 o grwpiau cymunedol, ac wedi gwella 107 o gyfleusterau yn y gymuned. Mae hefyd wedi helpu 299 o bobl gyda materion yn ymwneud â dyledion a budd-daliadau, ac wedi mynd i’r afael â dyledion aelwydydd oedd yn werth
dros £1 filiwn. Mae’r prosiectau’n amrywio o
sefydlu siopau cymunedol, gwella mynediad i TG a band eang, gwasanaeth cydweithredol sy’n dosbarthu bwyd, darparu cyfleusterau cymunedol, i helpu pobl i ddychwelyd i’r gwaith. Mae’r arian wedi dod trwy Gynllun
Datblygu Gwledig Cymru 2007-13, rhaglen Cymunedau’n Gyntaf, rhaglenni Cyllid Ewropeaidd megis Cymunedau sy’n Cydweithio a nifer o ffynonellau eraill. Meddai aelod y bwrdd gweithredol
dros adfywio a hamdden, y Cyng. Clive Scourfield: “Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn denu cyllid sylweddol ar adeg o doriadau er mwyn helpu ein cymunedau lleol.”
Gŵyl Fwyd Blas Tywi
Dewch draw i Barc Dinefwr, Llandeilo ar 10 ac 11 Medi i ymuno yn hwyl Blas Tywi. Gŵyl fwyd gymunedol a drefnir gan Fenter Bro Dinefwr yw Blas Tywi gyda’r prif ffocws ar ddathlu a hyrwyddo cynnyrch lleol yn ogystal â hybu hanes, diwylliant a thirwedd Dyffryn
Tywi. Mae
Cyngh Philip Hughes, Bwrdd gweithredol yr amgylchedd, Richard Workman, Cyfarwyddwr gwasanaethau technegol a swyddogion y cyngor Sharon Griffiths a Tina Brice gyda myfyrwyr Drindod Dewi Sant
MAE myfyrwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin wedi bod yn helpu i lanhau'r gymuned. Trefnodd Undeb y Myfyrwyr
sesiwn codi sbwriel ar y strydoedd yng nghyffiniau Ffordd y Coleg gerllaw'r campws. Aeth 27 o fyfyrwyr ati yn eu hamser sbâr gan lenwi 10 bag o sbwriel, ac roedd modd ailgylchu'r rhan fwyaf ohono. Dywedodd Hannah Nash, Is- lywydd Undeb y Myfyrwyr: “Aethon
ni i un o gyfarfodydd PACT ac roedden ni am ddangos bod myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn meddwl am eu cymuned leol ac ein bod yn barod i wirfoddoli er mwyn ei gwella. Rydyn ni'n gobeithio taw cam cyntaf yn unig oedd hwn ac y gallwn ni gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau eraill. Fe hoffen ni wirfoddoli gyda thimau chwaraeon lleol ac yn yr ysgolion hefyd". Bu i Is-adran Gwasanaethau Stryd y Cyngor gyflenwi ffyn codi sbwriel,
menig, a chrysau-T i'r myfyrwyr, ynghyd â rhoi cyfarwyddyd iddynt ynghylch iechyd a diogelwch fel rhan o'i hymgyrch 'Byddwch Wyrdd a Byddwch Lân'. Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rydyn ni am annog a helpu cymunedau i wella ansawdd eu hamgylchedd lleol. Trwy weithio gyda'n gilydd gallwn ni wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r ardal rydym yn byw ynddi."
uchafbwyntiau’r penwythnos yn cynnwys arddangosfeydd gan y cogyddion enwog Anthony Evans, Nerys Howell a Daniel Williams yn ogystal â sesiwn goginio gyda sêr lleol a rownd derfynol ‘Ar y Fwydlen’. Ar gyfer y plant bydd gweithdai
coginio, jambori gyda Martin Geraint (Cegin Twts), sesiwn stori ac ymweliadau gan Sam Tân, Sali Mali a Holi Hana. Bydd llwyfan perfformio hefyd yn rhan o’r Ŵyl lle bydd
Aelwyd Llyn y Fan, Band Arian Rhydaman, Côr Sainteilo, Ysgol Gymraeg Teilo Sant, Ysgol Tre-gib a dawnswyr yn diddanu. Mae dros 30 o gynhyrchwyr bwyd
lleol eisoes wedi archebu lle yn y digwyddiad felly mae’n argoeli bod yn benwythnos i'w gofio. Yn ogystal â’r holl weithgareddau uchod, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnal Diwrnodau Treftadaeth Agored, sy’n golygu mynediad am ddim i Ddinefwr drwy’r penwythnos. Bydd mynediad i Blas Tywi yn £3 gyda phlant oedran cynradd am ddim a bydd y ddau ddiwrnod yn dechrau am 10am. Cefnogwyd y digwyddiad gan Lywodraeth Cymru. Am fanylion pellach, cysylltwch â Menter Bro Dinefwr ar (01558) 825336 neu
post@blastywi.org.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20