www.sirgar.gov.uk
NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 2 Gorffennaf - Medi 2011 Llinell gofal Cynllun Bywiogi
MAE gwasanaeth Llinell Gofal Sir Gaerfyrddin yn helpu mwy na 31,500 o breswylwyr hŷn ac agored i niwed ar draws Cymru. Nod y gwasanaeth sydd ar gael bob
awr o’r dydd a’r nos, bob diwrnod o’r flwyddyn, yw rhoi tawelwch meddwl i bobl a rhoi cymorth iddynt pan fo’i angen. Mae’n cynnig gwasanaeth monitro a chymorth i bobl hŷn ac i bobl ag anableddau er mwyn iddynt fyw’n ddiogel ac yn annibynnol. Bydd cwsmeriaid yn gwisgo larwm
gwddf ac arno fotwm y gallant ei wasgu sy’n cysylltu’n ddi-wifr â’r ganolfan larymau. Hefyd gellir gosod cortynnau/llinynnau i’w tynnu a botymau ar ddrysau er mwyn iddynt allu rhoi gwybod i’r ganolfan os cânt argyfwng meddygol neu godwm, os digwydd tân neu os bydd rhywun yn eu cartref yn ddiwahoddiad neu os byddant yn wynebu unrhyw fygythiad arall. Mae’r staff yn ymdrin â mwy na 500,000 o alwadau y flwyddyn gan
ddefnyddio’r offer monitro larymau. Cysylltwyd â’r gwasanaethau brys yn sgil oddeutu 4,000 o’r galwadau hyn. Am y drydedd flwyddyn o’r bron,
mae Sir Gaerfyrddin wedi ennill achrediad gan Gymdeithas y Gwasanaethau Tele-ofal am ei gwasanaethau monitro. Mae ymateb y cwsmeriaid yn gadarnhaol iawn. Cynhelir arolygon cyson i holi pobl a ymdriniwyd â’u galwad yn brydlon, beth oedd eu barn am y gwasanaeth ar y cyfan, ac a fyddent yn argymell y gwasanaeth i gyfaill. Mae’r canlyniadau’n gyson uchel sef 98% neu’n uwch. FFEITHIAU A FFIGURAU YNGHYLCH LLINELL GOFAL: • Rhaid ymateb i 97.5% o’r galwadau cyn pen 60 eiliad.
• Ymatebir i 99% o’r holl alwadau cyn pen 180 eiliad.
• Mae Sir Gaerfyrddin yn cyrraedd y targedau hyn ac yn rhagori arnynt yn gyson i ennill yr achrediad.
MAE Bywiogi, sef cynllun cadw’n heini sy’n cyfeirio pobl at ganolfannau hamdden a neuaddau cymuned Sir Gaerfyrddin yn arbed bywydau ac yn gwella ffitrwydd pobl ar draws y sir. Amcanion y cynllun, a gynlluniwyd
ar gyfer pobl hŷn, yw gostwng nifer y rhai sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd coronaidd y galon a chynyddu nifer y rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol rheolaidd. Cafodd Diane Prosser o Lanelli ei
chyfeirio gan ei bod yn ddiabetig ac yn cymryd meddyginiaeth ar bresgripsiwn, bob dydd, i reoli ei chyflwr. Ers iddi ddechrau ar y cynllun naw mis yn ôl, mae hi wedi llwyddo i gael canlyniadau rhyfeddol, gan golli bron chwe stôn, ac o ganlyniad mae ei meddyg teulu wedi penderfynu y gall Diane roi’r gorau i gymryd y feddyginiaeth diabetes bellach. Mae cynllun Bywiogi yn berthnasol
i nifer mawr o gyflyrau meddygol clinigol. Mae’r sesiynau ymarfer corff yn cael eu cynnal mewn canolfannau hamdden ac mewn nifer o fannau cynnal cymunedol. Mae tâl bach ond
mae Llywodraeth Cymru’n rhoi cymhorthdal mawr i’r cynllun hefyd. Mae tâl aelodaeth o £10 am 16 wythnos ac mae pob sesiwn ymarfer corff yn costio £1.50. Dylai unrhyw rai sydd â diddordeb
mewn bod yn rhan o’r cynllun drafod hynny â gweithiwr proffesiynol ym maes iechyd, megis meddyg teulu neu nyrs y practis, a fydd yn eu cyfeirio os ydynt o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny. I gael rhagor o wybodaeth,
ffoniwch 01269 590266 neu ewch i
www.sirgar.gov.uk
TEULUOEDD yw’r diweddaraf i elwa o Gyngor a Chymorth Sir Gâr, cynllun sy’n rhoi cyngor i bobl ar ddyled, budd-daliadau a materion defnyddwyr. Targedir themâu allweddol ar hyd y
flwyddyn i sicrhau bod pobl o bob oed yn gallu cyrchu help sy’n berthnasol iddyn nhw, a’r haf yma, y thema yw teuluoedd. Mae asiantaethau’n cydweithio i ddarparu gwybodaeth a gweithgareddau sy’n ceisio grymuso rhieni i feithrin sgiliau a hyder, a dod yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddyn nhw gan ddarparwyr gwasanaethau lleol. Mae nifer o weithwyr proffesiynol
hefyd wrth law mewn amrywiol ddigwyddiadau i gynghori rhieni ar faterion megis gwaith a hyfforddiant, materion ariannol, sgiliau sylfaenol, gofal plant, cymorth i deuluoedd, iechyd a lles, a diogelwch plant. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01267 234567.
Gweddnewid cymuned
5
Cyfarfod Grŵp Cymunedol
MAE grŵp o bobl yn Llanelli wedi dod at ei gilydd i weddnewid eu cymuned. Sefydlodd Emma Davies a Hannah Oliver grŵp
cymunedol yn Danybanc a Llundain Fach i geisio annog y trigolion i gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau, ac i ddysgu sgiliau newydd. Ers iddyn nhw gychwyn arni yn yr haf llynedd, maen nhw wedi trefnu nifer o bethau fel dosbarthiadau yoga, digwyddiadau i blant, barbeciws i deuluoedd a theithiau i atyniadau fel Oakwood a Pharc Gwledig Pen-bre. Maen nhw wedi cael cefnogaeth gan
Gymunedau’n Gyntaf, sydd wedi eu helpu i gael hyd i arian, wedi rhoi help ac arweiniad, a mynediad i gyrsiau yn y Ganolfan Gymunedol. Meddai Emma: “Doedd dim enw da iawn gan yr
ardal, ond mae pethau yn wir wedi newid. Roedd yr heddlu’n arfer bod yma drwy’r amser, ond
dydyn ni ddim yn eu gweld nhw nawr, heblaw am PC Steve Kettle sy’n gweithio gyda ni yn y grŵp. Mae mwy o deimlad o gymuned yn yr ardal, mae pobl yn dod i nabod ei gilydd yn well, ac yn dod ymlaen â’i gilydd. Mae plant yr ardal wedi bod yn rhan o nifer o
weithgareddau a theithiau, ac maen nhw wedi helpu i ddatblygu’r prosiectau cymunedol. Y prosiect mawr nesa fydd gwelliannau i’r parc. Mae Hannah, sydd â phump o blant, wedi dilyn cyrsiau cyfrifiadurol y mae hi’n gobeithio fydd yn ei helpu i ddychwelyd i’r gwaith. Meddai: “Mae wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i’m bywyd i ac i’r plant.” Mae Emma a Hannah yn hapus i rannu o’u
profiad a rhoi cyngor i unrhyw un sydd am sefydlu grŵp cymunedol yn yr ardal. Cysylltwch ag Emma ar 01554 750949.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20