18 NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 2 Gorffennaf - Medi 2011
www.sirgar.gov.uk Cyfle i’r cyhoedd bleidleisio dros gerflun artist
MAE artist o Sir Gaerfyrddin ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gerflunwaith Genedlaethol Broomhill yn y Deyrnas Unedig. Mae gwaith Lee Odishow, sy’n gweithio ar
gampws celf a dylunio Coleg Sir Gâr yng Nghaerfyrddin, lle cafodd radd BA anrhydedd mewn cerflunwaith, wedi cael ei arddangos ymhlith y 10 olaf yn y gystadleuaeth. Dewisir yr enillydd cyffredinol ym mis Medi gan banel beirniaid o artistiaid a cherflunwyr sy’n enwog yn rhyngwladol, a bydd gwaith yr enillydd yn dod yn rhan o Sefydliad Celf a Cherflunwaith Broomhill. “Dyma fy narn mawr cyntaf o waith awyr
Llun: Y Cerflunydd Lee Odishow
Lansio’r Strategaeth Gymunedol Integredig
MAE Strategaeth Gymunedol Integredig gyntaf Sir Gaerfyrddin, sy’n amlinellu’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol, yn cael ei lansio’n swyddogol. Cynhelir digwyddiad ym Mharc y Scarlets ar 14
Gorffennaf i lansio dogfen y Bwrdd Gwasanaethau Lleol. Mae aelodau’r BGLl – Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Cyngor Sir Caerfyrddin, Heddlu Dyfed Powys, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Coleg Sir Gâr, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin, Asiantaeth yr Amgylchedd, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru – wedi addo gweithio mewn partneriaeth er mwyn rhoi sylfaen gadarn i’r sir.
Bydd y cynnydd yn cael ei adolygu bob chwe mis,
a bydd yr holl bartneriaid yn atebol am eu canlyniadau a’u nodau. Mae’r strategaeth yn hygyrch i bawb, gyda fersiynau i blant ac i bobl ifanc. Mae’r strategaeth newydd, ar gyfer y cyfnod 2011
i 2016, wedi cael ei datblygu trwy ymgynghori â chymunedau lleol, sefydliadau a grwpiau eraill, ac mae’n gweithio i gyflawni’r weledigaeth y bydd “Sir Gaerfyrddin yn galluogi pobl i fyw bywydau iach a chyflawn trwy gydweithio i adeiladu cymunedau cryf, dwyieithog a chynaliadwy”. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i
www.partneriaethsirgar.org.
agored ar fy mhen fy hun, ac mae’n darlunio ffurf ffigurol o haearn bwrw, gyda gwead clai wedi ei ddwbio arno, a masg wyneb efydd, cromennol,” meddai Lee. Gall y cyhoedd weld gwaith Lee, o dan y teitl FISK, a phleidleisio drosto, yn
broomhillart.co.uk
Ty Golau yn disgleirio
TŶ-GOLAU yn disgleirio am flwyddyn arall. Mae elusen yn Llanelli yn dathlu ei phen- blwydd yn ddwy trwy ddewis enw newydd. Mae Tŷ-Golau, a elwid gynt yn Lighthouse, yn gweithredu o Eglwys Gymunedol Tŷ Gwyn, ar Heol Newydd, Llanelli. Cyfleuster iechyd a lles yw Tŷ Golau,
sydd yn darparu gweithgareddau therapiwtig i roi hwb i bobl hŷn, y mae gan lawer ohonynt ryw fath ar broblemau gyda’u cof. Ers ei lansio yn 2009, mae’r grŵp wedi ehangu i’r fath raddau fel bod ystod o weithgareddau ar gael bellach, yn cynnwys therapi atgofion, atgoffa o realaeth, cerddoriaeth a symud, garddio
dan do, celf a chrefft, sesiynau ymuno yn y canu a llawer mwy. Mae’r sesiynau yng ngofal gweithwyr proffesiynol, a thîm ymroddedig o gynorthwywyr. Meddai Janet Lewis, y Cyfarwyddwr
Clinigol: “Mae angen mawr am y cyfleuster yma, sydd wedi dod mor boblogaidd fel bod cynlluniau i agor y ganolfan ar ddiwrnod ychwanegol. Y nod, yn y dyfodol, fydd bod ar agor 5 niwrnod yr wythnos. Hefyd, mae croeso mawr i bobl hŷn ddod i’r sesiynau. Mae croeso cynnes hefyd i ofalwyr ymuno, neu ymlacio a chael paned o goffi tra bod y sesiwn yn cael ei chynnal.” I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Janet Lewis ar 01554 890896.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20