This page contains a Flash digital edition of a book.
www.sirgar.gov.uk


NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 2 Gorffennaf - Medi 2011 Mynd i’r afael â goryrru Llwyddiant i


MAE Heddlu Dyfed Powys yn cymryd camau pellach i fynd i’r afael â goryrru, sy’n fater allweddol i drigolion Sir Gaerfyrddin. Yn ôl swyddogion yr heddlu, mae pobl


sy’n dod i’r cyfarfodydd Partneriaid a Chymunedau Ynghyd a gynhelir ar draws y sir yn tynnu sylw at oryrru fel un o’u prif bryderon. Meddai’r Prif Arolygydd, Richard Lewis:


“Rydyn ni’n gwrando ar y pryderon hyn. Mae’r heddlu yn rheolaidd yn targedu’r ardaloedd rydyn ni’n cael gwybod amdanyn nhw. Yn ddiweddar, buon ni ar Heol Pentrepoeth yn Llanelli, oedd wedi cael ei hamlygu fel ardal lle mae goryrru wedi bod yn broblem i’r trigolion. “Arweiniodd hyn at gyflwyno 11 o


hysbysiadau tâl cosb, ac anfon 10 gyrrwr arall ar gyrsiau ymwybyddiaeth o gyflymdra. Bydd yr heddlu yn parhau i dargedu’r ardal hon, ac os yw trigolion yn pryderu am ardaloedd eraill, dylen nhw roi gwybod i ni, naill ai trwy ddod i’r cyfarfodydd PACT lleol neu trwy roi galwad i ni ar 101.” I gael gwybodaeth am gyfarfodydd PACT ewch i www.dyfed-powys.police.uk neu ffoniwch orsaf yr heddlu ar 101.


MAE darlithydd gwaith coed yng Ngholeg Sir Gâr wedi sicrhau swydd rheolwr gweithdai yn y gystadleuaeth sgiliau ryngwladol fwyaf sy’n cael ei chynnal yn y Deyrnas Unedig eleni. Bydd Mike Walters


o X yn treulio pythefnos yn gofalu am ochr gwaith coed cystadleuaeth WorldSkills, a gynhelir yn ExCeL yn Llundain ym mis Hydref. “Hon yw’r gystadleuaeth sgiliau byd-eang fwyaf yn y byd, felly mae’n gyfrifoldeb mawr gofalu bod gennym ni’r holl gyfarpar ar gyfer yr holl gystadleuwyr, a bod yr offer yn y gweithdai o’r safon uchaf,” meddai Mike. “Fe fues i’n cysgodi rheolwr arall mewn digwyddiad blaenorol yng Nghanada, felly mae gen i ryw syniad beth i’w ddisgwyl.” Mae’n bwriadu mynd â phrentisiaid o CCTAL Sir Gaerfyrddin i’w helpu, yn ogystal â Gareth Evans, cyn-fyfyriwr a ddewiswyd ar gyfer Sgwad y Deyrnas Unedig yn 2009. Aeth Mike ymlaen i ddweud: “Mae rhyw 1000 o gystadleuwyr eleni, yn cymryd rhan mewn nifer o feysydd sgiliau, ac rwy’n falch iawn o fod yn rhan o ddigwyddiad mor uchel ei broffil.”


17


ddarlithydd y Coleg


FFURFLEN ENWEBU


Enwau'r sawl sy'n enwebu ............................................................................................................


A hoffe chi enwebu rhywun sydd yn gweithio i Cyngor Sir Gâr i dderbyn cydnabyddiaeth yn ein gwobrau Gloyw blynyddol?


Bydd staff Cyngor Sir Caerfyrddin sy’n barod i fynd cam ymhellach a disgleirio yn cael eu dathlu yn ystod yr hydref gyda seremoni ‘gwobrau gloyw’ arbennig.


Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r cyngor wedi cyflawni llwyddiant sylweddol wrth gyflenwi gwasanaethau ardderchog. Mae ystod eang o wobrau oddi wrth gyrff allanol wedi cydnabod ein llwyddiant. Mae’r cyflawniadau hyn o ganlyniad i ymdrech ar y cyd i raddau helaeth, sy’n mynnu bod pob aelod o staff, ym mha swydd bynnag ac am ba mor hir bynnag y maen nhw wedi gweithio i’r Cyngor, yn gwneud eu gorau ddydd ar ôl dydd. Ymrwymiad a gwaith caled yr arwyr hyn nas canmolir yn aml sydd wedi galluogi’r Cyngor i gael ei ddangos fel model o arfer gorau ar sawl achlysur.


Roedd y digwyddiad hwn yn llwyddiant ysgubol y llynedd ac eleni rydym ni’n gobeithio adeiladu ar hyn. Bydd un o’r gwobrau yn cael ei dewis o blith yr enwebiadau a roddir gan ddarllenwyr Newyddion Cymuned. Gofynnir i’r darllenwyr lenwi’r ffurflen ganlynol a rhoi gwybod i ni am unigolion neu grŵp o staff sydd wedi gwella’n sylweddol neu ddarparu gwasanaeth rhagorol i chi neu’ch cymuned drwy weithio i Gyngor Sir Caerfyrddin.


Llenwch y ffurflen a’i dychwelyd i’r Adain Gyfathrebu, Cyngor Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP Dyddiad cau - 18 Awst 2011


Rhif Ffôn a eich cyfeiriad ............................................................................................................ ............................................................................................................ ............................................................................................................


Enw'r unigolion sy'n cael eu henwebu ............................................................................................................


Manylion cyswllt (os ydych yn gwybod hyn) ............................................................................................................


Y rheswm pam mae'r unigolyn hwn yn haeddu gwobr ............................................................................................................ ............................................................................................................ ............................................................................................................


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20