www.sirgar.gov.uk
NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 2 Gorffennaf - Medi 2011 Anrhydeddu rhoddwyr organau a’u teuluoedd
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn anrhydeddu rhoddwyr organau a’u teuluoedd am roi bywyd i eraill. Bydd placiau diolchgarwch yn cael eu dadorchuddio, gan
arweinwyr iechyd a theuluoedd a fu’n ymwneud â rhoi organau, yn ystod Wythnos Genedlaethol Trawsblannu ym mis Gorffennaf ac wedi hynny. Meddai Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, Chris Martin: “Ingol yw
dadorchuddio’r placiau hyn yn ystod Wythnos Genedlaethol Trawsblannu. Yn eu heiliadau olaf, mae rhoddwyr organau a’u teuluoedd wedi rhoi rhodd o fywyd a does dim modd pwysleisio cymaint mae eu dewrder wedi trawsnewid bywydau eraill.” Mae Pwyllgor Rhoi Organau pwrpasol gan Fwrdd Iechyd
Hywel Dda, yn ogystal â dau nyrs arbenigol sy’n gweithio ledled Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro i gynyddu’r cyfraddau rhoi organau ac, yn y pen draw, gwella ac achub rhagor o fywydau. Eglura’r nyrsys arbenigol, Steve Maycock a Phil Walton:
“Gobeithio y bydd y placiau hyn nid yn unig yn fodd o ddiolch i’r rheini a fu eisoes yn rhan o roi organau, ond y byddan nhw hefyd yn gwneud pobl eraill yn fwy ymwybodol o roi organau.” Thema’r wythnos ymwybyddiaeth genedlaethol eleni yw -
Peidiwch ag oedi! Ei nod yw tynnu sylw at sefyllfa'r 7,500 o bobl sydd wrthi’n aros am drawsblaniad organ yn y DU. Meddai Cadeirydd Pwyllgor Rhoi Organau Bwrdd Iechyd
Hywel Dda, Jane Jeffs: “Mae Wythnos Trawsblannu yn achlysur priodol i bawb feddwl am y bobl hynny sy’n dibynnu ar drawsblaniad organ, sef eu hunig obaith am fywyd, ac
ystyried cofrestru i fod yn rhoddwr organau o ganlyniad.’ I ymuno â Chofrestr Rhoi Organau’r GIG a rhoi rhodd o
fywyd, ffoniwch 0300 123 23 23 neu ewch i
www.organdonation.nhs.uk Fel llawer o bobl, nid oedd Carol Gwizdak, a’i gŵr Julian,
erioed wedi ystyried rhoi organau, cyn i Julian fynd yn sâl ar fyr rybudd. Fodd bynnag, pan ddaeth i’r amlwg yn anffodus na fyddai
Julian byth yn gwella, cafodd Mrs Gwizdak a’i mab y cyfle i drafod rhoi organau ag un o’r nyrsys arbenigol. Ar ôl siarad am y broses, penderfynwyd mynd amdani, gan ddeall yn llwyr y gwahaniaeth aruthrol y gallai hyn ei wneud i fywydau pobl eraill.
Lansio clybiau dydd newydd
Meddai Mrs Gwizdak, “Roedd y cymorth a gawson ni gan y nyrsys arbenigol yn
rhyfeddol. Roedden nhw’n hynod o deimladwy a phroffesiynol. Roeddech chi’n gwybod bob cam o’r ffordd beth oedd yn digwydd a doeddech chi byth yn teimlo dan bwysau.” Bu farw Julian ym mis Rhagfyr 2010 yn 59 oed. Ers iddo
farw, mae’r cydlynwyr trawsblannu wedi cadw mewn cysylltiad ac aethant i ymweld â’r teulu chwe wythnos yn ddiweddarach. Roeddent yn gallu rhoi gwybod bod pedwar o bobl a’u teuluoedd wedi elwa ar y rhodd a chyfleu’r gwahaniaeth enfawr yr oedd hyn wedi’i wneud i’w bywydau.
3
LANSIWYD amryw o Glybiau Dydd newydd ar gyfer pobl hŷn yn Sir Gaerfyrddin. Mae gwirfoddolwyr cymunedol a grwpiau
elusennol bellach yn gyfrifol am bum clwb yr arferai’r Cyngor eu cynnal. Mae hyn yn dilyn adolygiad o’r gwasanaethau
dydd yn Sir Gaerfyrddin. Canfu’r arolwg fod nifer mawr o leoedd gwag yn y clybiau yr oedd y Cyngor yn eu cynnal. Drwy drosglwyddo’r cyfryw gyfleusterau i’r sector annibynnol, mae’r Cyngor wedi gallu dargyfeirio £400,000 o adnoddau i feysydd lle’r oedd mwy o’u hangen, megis gofal cartref a gofal i rai â dementia. Mae’r Cyngor wedi gweithio’n agos gyda’r gwirfoddolwyr i lansio’r clybiau newydd, gan olygu
nad oes neb wedi colli ei ddarpariaeth clwb dydd. Mae aelodau o hen Glwb Dydd Caemaen yn Llanelli wedi ymuno ag o leiaf ddau glwb newydd. Ym Mhontyberem, mae aelodau hen Glwb Dydd Gwendraeth wedi ymuno â chlwb newydd Cynllun Tai Gwarchod Nant-y-glo, ac mae preswylwyr yn Ystradowen bellach yn cynnal clwb yn y neuadd gymuned leol. Erbyn hyn mae aelodau hen glwb Noddfa Teilo
wedi ymgartrefu mewn clwb newydd y mae Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched ( WRVS) yn ei gynnal ar safle Cynllun Tai Gwarchod Maes Elfryn, ac mae aelodau o hen glwb Dyffryn Teifi wedi ymuno â chlwb newydd a lansiwyd gan Age Cymru.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20