8
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 12 MAWRTH - EBRILL 2013
www.sirgar.gov.uk ASDA yn hael i fanciau bwyd Cynllun hawl i brynu
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn casglu barn rhagor o bobl ar ei gynlluniau i atal yr Hawl i Brynu. Mae'r awdurdod yn gofyn i
Lywodraeth Cymru am ganiatâd i atal y polisi sy'n caniatáu i denantiaid brynu tŷ cyngor neu gymdeithas tai. Lansiwyd ymgynghoriad y llynedd, ac yn awr bydd pobl yn cael cyfle olaf i leisio barn cyn i'r cais gael ei gyflwyno. Dywedodd
Robin Staines,
Pennaeth y Gwasanaethau Tai: “Mae nifer y teuluoedd sy'n chwilio am dai cyngor a chymdeithasau tai yn fwy na nifer y tai sydd gennym ar gael i'w
gosod. Yn Sir Gaerfyrddin yn benodol, mae prinder cartrefi fforddiadwy ar rent, a dyna pam rydym am atal yr Hawl i Brynu, gan y bydd hynny’n golygu bod modd i ni gadw ein stoc tai a chreu dyfodol mwy cynaliadwy.” Oes gennych chi farn i'w rhannu? Cysylltwch â Siân Stephens, Swyddog Caffael a Chontractio tai fforddiadwy, drwy ffonio 01554 899325 neu anfon e-bost
Tai@sirgar.gov.uk.
i Fel arall,
ysgrifennwch at Adran Tai Cyngor Sir Caerfyrddin, Tŷ Elwyn, Llanelli, SA15 3AP, erbyn 15 Ebrill, 2013.
Goleuadau disglair
Bu dwsinau o siopwyr yn Asda Llanelli yn rhoi yn hael i fanciau bwyd y dref. Llanwyd tri throli siopa mawr â
bwyd yr oedd mawr angen amdano ar gyfer pobl sydd mewn argyfwng emosiynol neu ariannol. Ymhlith yr eitemau a gasglwyd yn ystod yr ymgyrch
chwe awr roedd
grawnfwyd, coffi, tuniau, sudd oren a bisgedi. Mae'r banciau bwyd, yn Nhŷ
Myrtwydd a Chanolfan Antioch, yn sicrhau bod cymorth a chefnogaeth
ar gael i bobl yn ystod cyfnod o argyfwng. Meddai hyrwyddwr gwrthdlodi
Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cyng. Pam Palmer: “Fe hoffwn i ddiolch i bawb a roddodd mor hael i'r gwasanaeth hwn, y mae cymaint o angen amdano. Mae'r banciau bwyd yn ffynhonnell hanfodol i bobl mewn argyfwng, boed hynny oherwydd newidiadau i
fudd-
daliadau, colli swydd, oedi gyda thaliadau cyflog, dyled neu argyfwng personol. Mae mor bwysig bod y
banciau hyn yn cael eu cyflenwi ac nad ydynt yn rhedeg allan o fwyd, felly mae pob cyfraniad yn helpu.” Mae amrywiol ffynonellau lleol yn
cyfrannu bwyd, yn cynnwys ysgolion,
archfarchnadoedd,
busnesau a'r cyhoedd. Dylai pobl y mae angen cymorth
arnynt ar frys gysylltu â'u gweithiwr cymunedol,
canolfan
ymwelydd iechyd, canolfan waith neu weithiwr achos gwasanaethau cymdeithasol.
deulu, Cafodd myfyrwyr theatr
dechnegol ar gampws y Graig, Coleg Sir Gâr afael ar y systemau goleuo safon ddiwydiannol gorau sydd ar gael a ddefnyddir ar y teledu, mewn cyngherddau roc ac mewn theatrau. Bu cwmnïau blaenllaw’r diwydiant
sy’n cyflenwi effeithiau goleuo arloesol i rai o ddigwyddiadau adloniant mwyaf y byd yn ymweld â myfyrwyr er mwyn eu helpu i ddysgu am dechnolegau newydd. Fe wnaeth
y digwyddiad hwn ddarparu cyfle i’r myfyrwyr brofi cyfarpar gan Avolite, Robe UK a Gwasanaethau Technegol T&M a oedd yn cynnwys desgiau goleuo sy’n gweithredu systemau goleuo symudol a statig yn electronig. Yn rhan o’r arddangosfa roedd cyfarpar sy’n defnyddio hidlyddion a delweddau creadigol ar gyfer technegau taflunio golau, a ddefnyddir gan sioeau teledu poblogaidd megis Strictly Come Dancing.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22