10
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 12 MAWRTH - EBRILL 2013
Y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwahardd yfed ar y stryd
BYDD yfed ar y stryd yn cael ei wahardd mewn rhan fawr o ganol tref Llanelli, o Fawrth 1af ymlaen, mewn ymgais i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anhrefn. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi
cytuno ar y Gorchymyn Man Cyhoeddus Dynodedig cyntaf yn Sir Gaerfyrddin a bydd yn cwmpasu ardal sy’n cynnwys Elli, Tŷ-isha a Glanymôr. Derbyniwyd cais gan Grŵp
Gweithredu Cymunedau Mwy Diogel yng Nglanymôr a Thŷ-isha a oedd yn gofyn i’r cyngor wneud Gorchymyn Yfed Alcohol mewn Mannau Cyhoeddus Dynodedig, dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001, mewn perthynas â rhannau o dref Llanelli, yn benodol Heol yr Orsaf a Maes-y-gors. Ystyriwyd y cynigion gan y
Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a’r cyngor sir ac roeddent wedi asesu lefelau yfed alcohol ac anhrefn yn yr ardal. Yn dilyn trafodaethau gyda phartneriaid, lluniwyd map a oedd yn ymestyn y tu hwnt i’r ardal y gwnaed y cais gwreiddiol mewn perthynas â hi. Cafodd y cynllun ei gymeradwyo
gan y bwrdd gweithredol a’r cyngor sir llawn, ar ôl dangos bod cefnogaeth
i ddefnyddio
Gorchymyn Man Cyhoeddus Dynodedig i ychwanegu at bwerau eraill i fynd i’r afael ag yfed gwrthgymdeithasol ac anhrefn mewn mannau cyhoeddus. Dywedodd Kate Thomas, Rheolwr
Diogelwch Cymunedol: “Dyma’r Gorchymyn Man Cyhoeddus Dynodedig
cyntaf yn Sir
Gaerfyrddin. Cafodd y cais am orchymyn ei gefnogi gan yr heddlu ac roedd tystiolaeth i gefnogi’r angen am Orchymyn o’r fath.” Mae dynodi parth yfed dan
reolaeth yn rhoi pŵer i’r heddlu fynnu nad yw person yn yfed alcohol a’u bod yn ildio unrhyw alcohol neu gynwysyddion alcohol (ac eithrio cynwysyddion wedi’u selio) sydd yn eu meddiant. Er nad yw yfed alcohol yn drosedd
mewn man dynodedig, bydd methiant i gydymffurfio â gofynion swyddog yr heddlu mewn perthynas ag yfed yn gyhoeddus neu ildio alcohol, heb esgus rhesymol, yn drosedd arestiadwy a gall arwain at ddirwy o hyd at £500. Nid yw’r broses yn gwahardd yfed
www.sirgar.gov.uk
Carmarthenshire Community Safety Partnership ˆ
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gar
Eich Partneriaeth Diogelwch Cymunedol
Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gaerfyrddin yn cynnwys aelodau uwch o Gyngor Sir Caerfyrddin, Heddlu Dyfed- Powys a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Ymddiriedolaeth Prawf Cymru a Thimau Troseddau Ieuenctid, a Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda. Ffurfiwyd y Bartneriaeth i wneud
Sir Gaerfyrddin yn lle mwy diogel fyth i fyw a gweithio ynddo, ac ymweld ag ef. Prif flaenoriaethau’r bartneriaeth
alcohol mewn man cyhoeddus lle caiff ei awdurdodi. Bydd arwyddion yn cael eu
Dim galw heb wahoddiad
Stopiwch a meddwl! - dyna'r neges gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gaerfyrddin ynghylch galwadau heb wahoddiad neu daflenni gan fasnachwyr. Mae Gwasanaeth Safonau Masnach y Cyngor a
Heddlu Dyfed-Powys wedi llunio ffug-daflen gan fasnachwr
twyllodrus er mwyn cynyddu
ymwybyddiaeth o'r problemau posibl a allai ddod i'ch rhan yn sgil ymwneud â masnachwyr twyllodrus sy'n cynnig gwneud gwelliannau neu waith cynnal a chadw yn eich cartref. Y neges yw meddwl yn ofalus cyn cytuno bod
rhywun yn gwneud gwaith ichi, yn enwedig os yw'r masnachwr wedi cysylltu heb wahoddiad. Dywedodd Roger Edmunds, y Rheolwr Safonau
Masnach: “Mae'r daflen yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i ddarpar gwsmeriaid a allai gael eu targedu gan fasnachwyr. Bydd y daflen yn cael ei dosbarthu gyda chymorth y Timau Plismona Bro.” Dywedodd y Cynghorydd Pam Palmer, yr Aelod o
Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol: “Gan fod y gwanwyn ar ein gwarthaf rydym yn bryderus y bydd masnachwyr twyllodrus yn dechrau targedu rhannau o Sir Gaerfyrddin unwaith eto. Rydym yn annog pobl y sir i fod yn wyliadwrus ac i fod yn effro i unrhyw ymddygiad amheus yn eu hardal, yn enwedig os oes ganddyn nhw gymdogion oedrannus neu fregus.” I gael rhagor o wybodaeth neu i roi gwybod am
rywun rydych yn amau ei fod yn fasnachwr twyllodrus, cysylltwch â Chyngor Sir Caerfyrddin drwy ffonio 01267 234567 neu â Heddlu Dyfed- Powys drwy ffonio 101 (ffoniwch 999 mewn argyfwng yn unig).
Ydych chi erioed wedi meddwl pwy yw’ch swyddog heddlu lleol, sut maen nhw’n edrych, a sut fedrwch chi gysylltu â nhw? Galwch heibio i’n gwefan
www.dyfed-powys.police.uk lle y mae modd i chi
chwilio amdanynt yn ôl yr ardal rydych chi’n byw. Y cyfan sydd angen i chi wneud yw clicio ar y dewis Eich Ardal Chi. Yn ogystal â manylion am eich swyddog heddlu lleol, mae’r tudalennau ar
gyfer eich ardal chi hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynghylch cyfarfodydd sydd ar fin cael eu cynnal fel eich bod chi’n medru mynd yno a chwrdd â’ch swyddogion lleol wyneb yn wyneb er mwyn trafod unrhyw faterion a allai fod yn eich poeni. Mae’r tudalennau gwe hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y blaenoriaethau
lleol ar gyfer eich cymdogaeth. Ac wrth gwrs, medrwch dal gysylltu â ni ar y rhif difrys 101.
harddangos yn yr ardal i gadarnhau bod Gorchymyn Man Cyhoeddus Dynodedig mewn grym.
yw ymdrin â’r canlynol: ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ofn troseddau, camddefnyddio sylweddau, cam-drin yn y cartref, byrgleriaeth, troseddau treisgar a chysylltiedig ag alcohol, troseddau cerbydau, a lleihau aildroseddu a goryrru.
Dod i adnabod eich tîm plismona bro
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22