This page contains a Flash digital edition of a book.
www.sirgar.gov.uk


Llwyddiant i Ysgolion Sir Gâr


Hoffai GTACGC longyfarch yr holl ysgolion yn Sir Gâr a fu’n cyfranogi yng Nghwis Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan. Bu Ysgol Bro Myrddin, Glan y Môr,


Coedcae, Pantycelyn, St Michaels, St John Lloyd a Dyffryn Taf yn cyfranogi yn y cwis dwyieithog, a oedd yn cynnwys 6 rownd:


1 Camddefnyddio Cyffuriau a Sylweddau – yn seiliedig ar Lyfryn Llywodraeth Cymru ‘Yr hyn ddylet ti’i wybod’


2 Ymddygiad Cymdeithasol a’r Gymuned, yn seiliedig ar Reolau’r Ffordd Fawr a llyfryn y Gwasanaeth Tân ‘Ffeithiau am Dân’


3 Rownd arsylwi – yn seiliedig ar raglun ffilm


4 Her Iechyd Cymru 5 Oedran yn y Gyfraith


6 Diogelwch Personol, yn seiliedig ar Reolau’r Ffordd Fawr a’r daflen Diogelwch ar y Rhyngrwyd


Rhoddodd y digwyddiad gyfle i’r


disgyblion i ddysgu am beryglon cyffuriau a sylweddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.


Roedd yn


canolbwyntio hefyd ar addysg, o ran diogelwch personol, lleihau llosgi bwriadol, ysgolion iach a diogelwch ar y ffordd. Dywedodd y Rheolwr Ardal Jim Cameron: “Roedd y digwyddiad yn enghraifft wych o’r ysbryd tîm mae pobl ifanc yn medru cyflawni”.


NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 12 MAWRTH - EBRILL 2013 Gwario miloedd ar ddatblygiadau lleol


Dros y tair blynedd nesaf, bwriedir gwario bron £181 miliwn ar ddatblygiadau ledled Sir Gaerfyrddin. Mae'r rhaglen uchelgeisiol yn rhan


o raglen gyfalaf y Cyngor Sir ac mae'n cynnwys parhaus


yng nghanol


Rhydaman a Llanelli ynghyd â safle cyflogaeth Dwyrain Cross Hands. Bydd oddeutu £200,000 yn cael ei


wario ar wella hawliau tramwy, a bydd y buddsoddiad enfawr mewn ysgolion yn parhau drwy'r Rhaglen Moderneiddio Addysg


gyda


chynlluniau i wario bron £100 miliwn. Mae'n cynnwys cwblhau adeilad newydd yn Ysgol y Ffwrnes, ystafelloedd newid yn Ysgol Glan y Môr, ysgolion newydd ym Mhorth Tywyn, Seaside a Chwm Tywi a gwaith adnewyddu yn Nyffryn Aman. Mae'r cynigion yn cynnwys cyllid


gwerth dros £90 miliwn dros y tair blynedd sy'n cynnwys grantiau Ewropeaidd a rhai Llywodraeth Cymru yn bennaf. Bydd angen adolygu'r rhaglen os bydd unrhyw gyllid yn cael ei dynnu'n ôl. Mae rhaglen gyfalaf y cyngor yn


cefnogi cwmnïau adeiladu lleol ac yn diogelu cannoedd o swyddi yn ogystal â nifer o brentisiaethau. Meddai'r


Cynghorydd Jeff


Edmunds, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Sir Gaerfyrddin dros Adnoddau: “Mae ein rhaglen gyfalaf


yn gam cadarnhaol o ran cadw swyddi lleol ac ysgogi'r economi yn ystod y dirwasgiad hwn.”


Buddsoddiad o £21m i ysgol Dyffryn Aman


Triathlon Dyffryn Amman Rasus Y Maer Caerfyrddin Triathlon Sprint Llanelli Triathlon Mor Pendine


Ebrill 21ain Mai 6ed Mai 19eg


Mehefin 15fed


Ras 10k Llanelli Elusen John Hartson Mehefin 30ain Triathlon Pwll Llanymddyfri Ras 10k Gwyl Myrddin


Triathlon Pellter Safonol Llanelli


£5,000 wedi ei rhoi allan o Elw Rasus 2012 i’r Gymuned Lleol Diolch i Chi


Gorffennaf 21ain Awst 11eg Medi 1af


MAE £21 miliwn wedi cael ei fuddsoddi yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman, ac mae'r gwaith bron wedi ei gwblhau. Mae'r buddsoddiad yn cwmpasu datblygiad ac iddo bedwar cam, er mwyn


hwyluso creu ysgol ddwyieithog Categori 2B. Caiff y gwaith ei wneud gan y contractwyr lleol, TRJ, ac mae'n cynnwys estyniad newydd, adnewyddu un o'r adeiladau presennol a chodi dau adeilad newydd. Mae'r estyniad yn cynnwys ystafell gyffredin i'r chweched dosbarth, llyfrgell newydd, ystafelloedd gwaith i'r staff, ystafelloedd gwyddoniaeth, a derbynfa. Mae cyfleuster Anghenion Addysgol Arbennig sy'n cynnwys ystafell therapi,


Elusen Swyddogol am 2013 yw Elusen John Hartson


ystafell ar gyfer archwiliadau meddygol a chyfleusterau hylendid yn un o'r adeiladau newydd. Yn ogystal bydd y disgyblion yn elwa ar dri chae newydd a llain griced, ynghyd ag ystafelloedd newid a chawodydd newydd. Mae'r gwaith yn cael ei wneud drwy Raglen Moderneiddio Addysg Cyngor


Sir Caerfyrddin. Nod y rhaglen yw sicrhau bod pob plentyn yn y sir yn defnyddio adeiladau a chyfleusterau modern o safon.


buddsoddiad trefi


Atal twyll


budd-daliadau Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i sefyll yn gadarn yn erbyn pawb sy'n twyllo ynghylch budd- daliadau. Os byddwch chi'n amau bod


rhywun yn hawlio budd-dal trwy dwyll,


cysylltwch â'r Adain


Ymchwilio i Fudd-daliadau drwy ffonio 0800 801116 neu defnyddiwch y dewis rhoi gwybod ar-lein ar fewnrwyd y cyngor. Gofynnir i chi roi cymaint o wybodaeth â phosibl wrth atgyfeirio achos. Bydd pob hysbysiad yn cael ei drin yn gyfrinachol.


3


Tŷ Iach Hywel Dda


Mae adnodd ar lein newydd - Tŷ Hywel - wedi’i lansio i gefnogi pobl leol i gael bywydau iachach. Mae hyn yn rhan o 10 addewid a


chynllun Dydd Mercher Iach Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy’n rhoi syniadau ac awgrymiadau wythnosol ar sut y gallwn ni i gyd wneud newidiadau i’n iechyd


sy’n berthnasol


chyraeddadwy. I ymweld â Thŷ Hywel ewch i www.bihyweldda.cymru.nhs.uk/dydd -mercher-iach neu droi i dudalen 14.


Sgiliau Digidol


Dechreuodd y prosiect Cadw mewn Cysylltiad (KITe) gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr ym mis Medi. Mae KITe yn cynnig cymorth i bobl


hŷn sydd eisiau dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiaduron a'r rhyngrwyd drwy gynnig dosbarthiadau, gweithdai, clybiau a hyfforddiant un-i-un. Yn ogystal, mae cyrsiau byr a chlybiau ar gyfer y sawl sydd â diddordeb mewn cyfryngau digidol


(ffotograffau,


straeon digidol, recordio sain, fideos). I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â CAVS drwy ffonio 01267 245555.


Diogelu eich sied


A hithau’n dymor y Gwanwyn, mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynghori deiliaid tai i ddilyn rhai camau syml ar gyfer diogelu eu siediau gardd. “Mae siediau gardd yn aml yn


dargedau hawdd i droseddwyr,” meddai’r Arolygydd Eric Evans. “Mae hyn o bryder mawr i’r heddlu gan fod modd atal dwyn o siediau drwy gymryd camau diogelwch rhesymol. Rydym yn annog pobl i osod cloeon o ansawdd da ar bob sied gardd a hefyd i farcio’u heiddo gan ddefnyddio pennau uwchfioled, paent neu ysgythru.”


a


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22