www.sirgar.gov.uk Lansio masnach deg
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 12 MAWRTH - EBRILL 2013
19
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi
Sant wedi
interniaethau dan faner ac
Adnoddau (INSPIRE). Cyflwynwyd y cyfleodd gan Jane
Davidson, Cyfarwyddwr INSPIRE a’r cyn Weinidog dros yr Amgylchedd a
lansio y
Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi
Effeithiolrwydd
Chynaliadwyedd mewn Fforwm Cynaladwyedd yn y Brifysgol. Bydd y naw interniaeth yn canolbwyntio
ar a'r
Cynaliadwyedd - ac maent ar gael i fyfyrwyr yn y Drindod Dewi Sant a Metropolitan Abertawe.
cynnig, a
gweithgarwch - Effaith Werdd, Masnach Deg
dri maes Fforwm
Bydd y myfyrwyr llwyddiannus yn datblygu,
chyflawni digwyddiadau’n prosiectau
hyrwyddo a
gysylltiedig
â chynaliadwyedd, gan wneud gwahaniaeth i’r Brifysgol ac i'r gymuned ehangach, tra byddant ar yr un pryd yn datblygu eu sgiliau eu hunain.
Adeiladau o ansawdd uchel
Mae deg o brosiectau adeiladu - gan amrywio o fflatiau un ystafell wely mewn hen fragdy yn Llanelli i uned penderfyniadau clinigol yn Ysbyty Cyffredinol De-orllewin Cymru - wedi cael eu cydnabod yn seremoni Gwobrau Rhagoriaeth Rheoli Adeiladu Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin 2013. Dywedodd Dave Gilbert, y Cyfarwyddwr Adfywio: “Rydym yn llwyddo i gyrraedd safonau
gwych o ran y gwaith adeiladu mewn prosiectau newydd ledled y sir. Mae hyn yn destun edmygedd gan lawer ac yn denu clod cenedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”
Yr enillwyr eleni yw: Estyniad a newidiadau perthnasol i 37 Lôn Penyfai, Llanelli Addasiad Preswyl - The Warehouse, Heol yr Hen Orsaf, Caerfyrddin Datblygiad Preswyl Newydd - 2-10 preswylfa, Llys y Foryd, Heol yr Orsaf, Cydweli. Datblygiad Preswyl Newydd â mwy na 10 uned - 15 preswylfa, Heathfields, Cwmgwili. Y Prosiect Tai Cymdeithasol Fforddiadwy Gorau - Bragdy Buckley, Stryd Thomas, Llanelli.
Yr Adeilad Gofal Iechyd Cymunedol Gorau - Yr Uned Penderfyniadau Clinigol, Ysbyty Cyffredinol De-orllewin Cymru, Caerfyrddin
Yr Adeilad Addysgu Gorau - Yr adeilad dysgu newydd (gofalu am anifeiliaid bychain), Coleg Sir Gâr, Campws Pibwr-lwyd, Caerfyrddin Y Prosiect Masnachol Bach Gorau (hyd at £5 miliwn), a'r Prosiect Cynaliadwy Gorau - Adeiladu swyddfeydd newydd, Y Cei, Caerfyrddin.
Y Bartneriaeth Orau - Y gwaith a wnaed yn Ysbyty Cyffredinol De-orllewin Cymru, Glangwili, ac yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli: Yr Uned Penderfyniadau Clinigol newydd yng Nglangwili.
Yn meddwl dychwelyd i waith neu hyfforddiant ond yn cael trafferth dod o hyd i ofal plant sy’n ateb eich anghenion?
Gallwch gael gwybodaeth am y ddarpariaeth gofrestredig sydd ar gael nawr drwy wneud un galwad ffôn…
01267 246555 •
www.fis.carmarthenshire.gov.uk
Tir Sir Gâr yn yr amgueddfa
MAE drama newydd – Tir Sir Gâr – yn cael ei pherfformio gan Theatr Genedlaethol
Cymru yn
Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn Abergwili. Mae'r ddrama hon gan y cwmni
theatr genedlaethol drwy gyfrwng y Gymraeg yn adrodd hanes teulu fferm sy'n gorfod ystyried dyfodol y fferm pan gaiff y tad ei daro'n wael. Ysgrifennwyd y ddrama gan yr
awdur Roger Williams, sy'n hanu'n wreiddiol o Gaerfyrddin, ac fe'i hysbrydolwyd gan ymweliad â'r amgueddfa yn Abergwili. Tir Sir Gâr: Ebrill 15-20 a 22 - 27 I gael tocynnau, cyrchwch y wefan ganlynol: 0845 226 3510
www.theatrausirgar.co.uk
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22