This page contains a Flash digital edition of a book.
4


NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 12 MAWRTH - EBRILL 2013


Noson Agored Coleg Sir Gâr


Bydd gweddill nosweithiau agored Coleg Sir Gâr ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yn cael eu cynnal ar 20 Mawrth a 1 Gorffennaf. Mae mwyafrif y cyrsiau yn cychwyn


ym mis Medi, ac mae nosweithiau agored yn gyfle i bobl gael y wybodaeth mae ei hangen arnynt, p’un a ydynt yn ddysgwyr rhan amser, yn dysgu yn eu hamser hamdden, yn astudio ar gyfer gradd neu'n gadael yr ysgol. Cynhelir nosweithiau agored ar bob campws o 5.30-8pm.


Ymateb ar lonydd bach


Bu Pwmp Ymateb Gwledig (PYG) y Gwasanaeth allan ar ffyrdd Sir Gaerfyrddin yn ystod y cyfnodau o eira. Dywedodd Rob Quin, Pennaeth


Ardal Reoli Sirol Gaerfyrddin, “Mae galluoedd 4x4 y PYG yn ei alluogi i gyrraedd lonydd bach ac ardaloedd gwledig, a golygodd hyn y bu’n ddefnyddiol iawn yn ystod y tywydd gaeafol a gafwyd yn Sir Gaerfyrddin a rhannau eraill o ardal y Gwasanaeth yn ddiweddar”.


Treth y Cyngor am eleni


Bydd Treth y Cyngor am eleni yn cynyddu 3% sy'n golygu bydd cartref Band D ar gyfartaledd yn talu £979.70. Roedd yr holl bleidiau wedi cytuno


ar y gyllideb mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn. Cynigiodd Jeff Edmunds, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, y gyllideb a oedd yn cynnwys gosod arian nai ll ochr ar gyfer dwy fenter y mae grwpiau gorchwyl a gorffen yn edrych arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys £20,000 ar gyfer mentrau Cymraeg, a £50,000 ar gyfer unrhyw argymhellion sy'n cael eu hawgrymu gan y grŵp sy'n edrych ar effaith y diwygiadau lles. Mae hyn yn sgil ymgyrch effeithlonrwydd


enfawr gan


gynghorwyr a swyddogion i gadw'r cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn is na chwyddiant ac ar yr un pryd, arbed £7 miliwn a lleihau'r effaith ar wasanaethau llinell flaen. Yn ogystal, bydd buddsoddiad parhaus mewn ysgolion


drwy'r ar gyfer Rhaglen


Moderneiddio Addysg ac mewn tai cyngor drwy Safon Tai Sir Gaerfyrddin. Mae £4 miliwn ychwanegol


gofal


cymdeithasol er mwyn helpu pobl agored i niwed. Mae'r Cyngor yn gyfrifol am


ddarparu cannoedd o wasanaethau sy'n cynnwys gwastraff, priffyrdd, hamdden,


llyfrgelloedd,


amgueddfeydd, tai cyngor, addysg, gofal cymdeithasol, gwasanaethau plant a llawer o rai eraill.


ANOGIR tenantiaid ym mhob cwr o Sir Gaerfyrddin i fwynhau eu gerddi fel rhan o fuddsoddiad sylweddol mewn tai cyngor. Mae 'Creu Gardd Hardd' yn annog


tenantiaid i fanteisio i'r eithaf ar yr awyr agored, yn ogystal â rhoi cyfle iddynt fod yn rhan o'r gwaith mae'r cyngor yn ei wneud i atgyweirio ac i wella llwybrau fel rhan o raglen Safon Tai Sir Gaerfyrddin, lle buddsoddir £203 miliwn. Mae elfen gardd flaen a gardd gefn Safon Tai Sir Gaerfyrddin newydd ddechrau. Mae 12 o bobl eisoes wedi cael


hyfforddiant ar y safle gan gontractwyr, ac mae un ohonynt wedi dod o hyd i waith ers hynny gyda chwmni adeiladu lleol ac mae posibilrwydd cryf y bydd dau arall yn cael gwaith cyn bo hir. Yn ôl y Cyng. Tegwen Devichand,


yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai: “Yn ogystal ag adfywio tai mae gan Safon Tai Sir Gaerfyrddin gynifer o fanteision ychwanegol eraill, gan gynnwys iechyd a lles; creu cymunedau diogel, deniadol a


www.sirgar.gov.uk Creu Gardd Hardd


chynaliadwy; a chreu cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth. “Er taw prosiect newydd yw 'Creu


Gardd Hardd' rydym ni wedi cael sawl llwyddiant gwych eisoes. Yn y misoedd nesaf byddwn ni'n annog yr holl denantiaid i fwynhau eu


gerddi ac i fanteisio ar y lle sydd ganddyn nhw.” Mae'r Cyngor wedi ymuno â'r


cyflenwr, Travis and Perkins, er mwyn cynnig hyd at 50 y cant oddi ar gynnyrch garddio i denantiaid sy'n cael gwaith wedi'i wneud.


A ydych am fod yn gysylltiedig â hyn neu a ydych am gael rhagor o wybodaeth? Ffoniwch 01554 784608 neu anfonwch neges e-bost at: prideinyourpatch@sirgar.gov.uk


Cyngor a chymorth


Mae Cyngor a Chymorth Sir Gaerfyrddin (ASC) ar gael er mwyn helpu i ddarparu gwybodaeth a chyngor ynghylch amrywiaeth o faterion gan


gynnwys hawl i dderbyn budd-daliadau a chyngor ynghylch


rheoli dyledion. Mae Cyngor a Chefnogaeth Sir


Gaerfyrddin yn cynnwys mwy na 50 o sefydliadau sy'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod pawb y mae angen


cymorth arnynt yn cael y cymorth a'r cyngor mwyaf priodol sydd ar gael. Yn ogystal â dolenni i'ch cysylltu â


mudiadau sy'n bartneriaid i ASC, mae'r wefan hefyd yn cyfeirio ei defnyddwyr at dudalennau cynghori lle gallant gael help ynghylch materion sy'n cynnwys y Lwfans Gweini, Credydau Treth Gwaith, y Lwfans Byw i'r Anabl, cyflogaeth a hyfforddiant, a hyd yn oed prydau ysgol am ddim. Gall pobl fynd i


www.ascsirgar.co.uk er mwyn dysgu sut gallant leihau eu costau tanwydd drwy sicrhau bod eu cartrefi'n defnyddio ynni'n fwy effeithlon neu hyd yn oed i gael gwybod pwy sy'n gallu helpu os ydynt wedi cael arian gan fenthyciwr arian anghyfreithlon. Ffôn: 01267 234567 Allwn ni eich helpu heddiw?


Ymwelwch â: www.ascsirgar.co.uk


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22