This page contains a Flash digital edition of a book.
www.sirgar.gov.uk


NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 12 MAWRTH - EBRILL 2013 Tudalen y Plant Babanod yn canu a nofio Cystadleuaeth


Cynigir dau docyn plentyn i Playking Llanelli i ddau enillydd lwcus y


gystadleuaeth liwio yn y rhifyn hwn!


Lliwiwch y llun a’i anfon i’r Uned Gyfathrebu, Neuadd y Sir,


Caerfyrddin, SA31 1JP erbyn dydd Gwener 19 Ebrill i gael cyfle i ennill y tocynnau.


Mae babanod yn cael eu hannog i ganu a nofio er mwyn meithrin hyder yn y dŵr yng Nghanolfan Hamdden Sir Gaerfyrddin. Yn ôl Becca Dawson, sy'n fam i Talulah, mae ei


merch fach yn edrych ymlaen yn aruthrol at y profiad bob wythnos. “Does dim ofn dŵr arni hi o gwbl, ac mae hi'n gweiddi'n gyffrous bob tro yr awn ni i'r pwll.” Mae rhaglen gweithgareddau dŵr y gwanwyn yn


cynnwys sesiynau i fabanod, gwersi i oedolion, a sesiynau nofio ac aqua fit sy'n addas i bawb, o dri mis oed i 90 oed. Yn ôl cydlynydd datblygu ansawdd Cyngor Sir


Caerfyrddin, David James, y nod yw sicrhau bod pobl yn fwy egnïol yn amlach, beth bynnag yw eu hoed.


Meddai: “O nofio i sboncen, mae rhywbeth i bawb. Mae'r sesiynau dŵr i fabanod yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin yn rhoi cyfle i rieni a babanod a phlant chwarae a chanu dan oruchwyliaeth yn y pwll, gan feithrin hyder a diogelwch yn y dŵr. Mae'r sesiynau i oedolion yn helpu i ddatblygu a gwella techneg nofio a ffitrwydd.” Mae llawer mwy ar gael yn y ganolfan hamdden


hefyd. Mae'r rhaglen iau yn cynnwys pêl-droed i blant bach, pêl-droed bach ac iau; hoci bach ac iau, badminton a sboncen i ddechreuwyr ac i wella. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch eich canolfan hamdden, neu anfonwch e-bost i hamdden@sirgar.gov.uk


Bizzy Bees yn y canolfannau hamdden


Eleni bydd rhaglen wych o weithgareddau i blant yn holl Ganolfannau Hamdden y cyngor yn Sir Gaerfyrddin yn ystod pythefnos gwyliau'r Pasg. Maent yn cynnwys canolfannau hamdden Dyffryn


Aman, Caerfyrddin, Llanelli, Castellnewydd Emlyn a Sanclêr a phwll nofio Llanymddyfri. Gallwch ddewis o blith gwersi nofio am


ddim, polo dŵr i rai bach, gwersi nofio yn y Gymraeg; caiacio; snorclo a darpar achubwyr bywydau. Mae gan yr holl athrawon gymwysterau UKCC. Mae rhaglen boblogaidd Bizzy Bees, sydd


ar gael bob dydd yn ystod yr wythnos, yn cynnig


amrywiaeth cyffrous o


weithgareddau a luniwyd i ennyn diddordeb mewn chwaraeon, addysg a


gweithgareddau artistig. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys golff, hoci, osgoi


peli, gemau cyfrwng Cymraeg, animeiddiadau, celf a chrefft, dawns stryd, chwaraeon racedi, sboncen, badminton, pêl-droed, karate, athletau, tenis a chriced.


Byddai'n ddoeth cadw lle mewn da bryd. Cysylltwch â:


Canolfan Hamdden Caerfyrddin Ffôn: (01267) 224700 Canolfan Hamdden Llanelli Ffôn: (01554) 774757 Canolfan Hamdden Dyffryn Aman Ffôn: 01269 594517


Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn Ffôn: (01267) 224731 Canolfan Hamdden Sanclêr Ffôn: 01994 231253


Enillwyr y gystadleuaeth liwio yn rhifyn diwethaf Newyddion Sir Gar oedd: Scarlet Lee o Dafen, 9 oed Noah Thomas o Lanelli, 7 oed


11


Mynediad am £1.99 yn unig ar unrhyw ddiwrnod Ysgol! Unrhyw oedran, unrhyw amser a chewch aros drwy’r dydd hyd at 7pm. Llai na hanner pris! £4.95 yw’r ffi mynediad arferol. Cynnig yn ddilys ar


ddiwrnodau Ysgol lleol un inog. Dewch a chynifer o blant ag y dymunwch.


Digwyddiadau Arbennig a Grwpiau Mamau a Phlant Bach


I gael rhagor o fanylion edrychwch ar: facebook.com/theplayking Ffôn: 01554 757808


E-bost: info@theplayking.com • Gwefan: www.theplayking.com


Talu unwaith


a chwarae drwy'r dydd!


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22