www.sirgar.gov.uk
Angen diffoddwyr tân ar alwad
Ar hyn o bryd, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wrthi’n recriwtio diffoddwyr tân ar alwad ar draws Sir Gaerfyrddin, ac yn enwedig yn Llandeilo. Mae swyddi gwag ar gael hefyd ym
Mhont-iets, Rhydaman, Llandysul, Llanymddyfri, Cydweli a Hendy- gwyn ar Daf, felly os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth a helpu i ddiogelu eich cymuned leol, yna dyma’r cyfle perffaith i chi! Trwy ddod yn ddiffoddwr tân ar
alwad, byddwch yn ymateb i argyfyngau yn eich ardal chi, a byddwch yn gweithio gyda’r gymuned i
roi cyngor
ddiogelwch. Dywedodd Pennaeth Ardal Reoli
Sirol Gaerfyrddin, Rob Quin: "Rydym ni’n holi aelodau o’r gymuned i weld a fyddent yn ystyried bod ar gael i ymateb i argyfyngau, yn enwedig yn ystod y dydd ac yn Llandeilo. "Byddwch yn derbyn yr holl
hyfforddiant a chymorth sydd angen i fynd i’r afael â gwrthdrawiadau ar y
Rhaglenni gradd rhan- amser
Mae Coleg Sir Gâr wedi cyflwyno rhaglenni gradd ran-amser newydd i'w ddarpariaeth addysg uwch gyfredol. Mewn partneriaeth â'r Drindod
Dewi Sant, mae dau gwrs newydd yn cael eu cynnig, sef BA mewn Cwnsela a BSc (Anrh) mewn Ymddygiad a Lles Anifeiliaid, sydd yn aros i gael ei ddilysu. Mae'r cwrs hwn yn gyfle i ehangu gwybodaeth am egwyddorion gwyddonol gwaelodol etholeg, ymddygiad a ffisioleg anifeiliaid, a chymhwyso hynny i'w lles a'u cadwraeth. Mae hefyd yn radd atodol, sydd yn cynnig mynediad uniongyrchol i fodiwlau lefel chwech ar gyfer ymgeiswyr priodol. Rhaglen hyblyg yw'r cwrs cwnsela
sy'n cynnig ystod o fodiwlau megis Gweithio
gyda Persbectifau Niwroseicoleg
Thrawma, a
Thueddiadau Cyfredol ym maes Cwnsela. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01554 748179 neu anfonwch e-bost i
enquiries@colegsirgar.ac.uk
ar
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 12 MAWRTH - EBRILL 2013
7
Pryder am wasanaethau bysiau
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diwygio'r sector bysiau yng Nghymru. Bydd y cyllid i wasanaethau bws
ledled Cymru yn gostwng tua 25% o fis Ebrill, 2013. Ar hyn o bryd, ni all awdurdodau
lleol noddi
gwasanaethau ond lle nad yw'r sector preifat neu fasnachol yn barod i wneud hynny. Yn ôl y Cyng. Colin Evans, aelod
bwrdd gweithredol y sir dros drafnidiaeth: “Bydd hyn yn her gan fod toriadau
i'r gyllideb refeniw a'r grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Lleol y bu awdurdodau yn ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn llwybrau a
gwasanaethau yn y gorffennol.” Mae'r ad-daliad treth tanwydd a
delir i weithredwyr ar hyn o bryd hefyd yn cael ei dorri a'i ddiwygio. Mae'r Cyngor,
ynghyd ag
awdurdodau eraill ar draws y rhanbarth, yn adolygu ei holl wasanaethau, a byddai'n croesawu barn ynghylch pa wasanaethau ddylai fod yn flaenoriaeth. Anfonwch e-bost neu ysgrifennwch at: Adran y Gwasanaethau Technegol, Is-adran Trafnidiaeth a Pheirianneg, Parc Myrddin, Caerfyrddin. SA31 1HQ . publictransport@carmarthenshire.
gov.uk
Astudio dramor
Bydd pum myfyriwr o Ewrop yn astudio ar gyfer Lefel A yng Ngholeg Sir Gâr fel rhan o'u rhaglen astudio dramor. Mae'r myfyrwyr, sydd yn 16 oed yn unig, wedi teithio o'r Almaen, yr Eidal a
ffordd ac i ddiffodd tanau. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.” Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn ddiffoddwr tân ar
alwad, yn enwedig yn ystod y dydd, ffonio’r tîm recriwtio yn GTACGC ar 01267 242636 i gael mwy o wybodaeth.
Llwybrau porffor yn Sir Gâr
Gall plant chwarae cymaint ag y dymunant drwy brosiect Llwybrau Porffor, gyda chefnogaeth Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr. Mae gweithwyr chwarae yn teithio'r wlad gydag offer chwarae sy'n cynnwys rampiau sglefrio, offer chwaraeon, modelu sothach, syrcas, chwarae meddal a chrefftau. Mae Llwybrau Porffor ar gael yn y lleoliadau canlynol:
• Parc Porth Tywyn bob dydd Llun • Parc Penyfan, Bigyn, a Pharc y Brenin Siôr V, Castellnewydd Emlyn, bob yn ail ddydd Mawrth.
• Parc Maesglas, Llanymddyfri, a Pharc Heol Pantyffynnon, Rhydaman, bob yn ail ddydd Mercher.
• Parc Teras Russell, Caerfyrddin, bob dydd Iau • Canolfan Blant y Morfa, Llanelli, bob dydd Gwener I gael rhagor o wybodaeth, ewch i
www.purpleroutes.co.uk
Atgoffa pobl ifanc i ystyried eraill dros y Pasg
 hithau bron yn wyliau’r Pasg, mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i bobl ifainc ystyried sut y gallai eu gweithredoedd effeithio ar eraill, yn arbennig yr henoed. Mae’r clociau ar fin mynd ymlaen
awr, mae’r nosweithiau’n byrhau, a bydd mwy o blant yn gwneud y mwyaf o’r nosweithiau golau er mwyn chwarae allan yn yr awyr agored. “Y peth gwaethaf am hyn yw y gall eu hymddygiad effeithio ar bobl
oedrannus a’r rhai sy’n agored i niwed,” meddai’r Arolygydd Eric Evans. “Y cyfan rwy’n ei ofyn yw eich bod chi’n meddwl am eich cymdogion ac yn ystyried sut y bydd eich ymddygiad yn effeithio ar eraill. “Bydd timoedd plismona bro allan
mewn cymunedau ledled y sir yn ystod gwyliau’r Pasg, ac os fyddant yn dod ar draws unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol,
swyddogion yn gweithredu.” bydd
Denmarc i sicrhau cymhwyster a gydnabyddir yn y Deyrnas Unedig, ac i wella eu Saesneg. Meddai Glenn Jones, cyfarwyddwr Cymorth i Ddysgwyr yng Ngholeg Sir Gâr: “Nid
dyma’r tro cyntaf i ni groesawu myfyrwyr rhyngwladol, ond dyma’r tro cyntaf i fyfyrwyr tramor fod yn dilyn rhaglenni addysg bellach amser llawn sydd wedi eu hachredu yn y Deyrnas Unedig. “Maen nhw’n gwneud yn eithriadol o dda, yn enwedig o ystyried eu bod oddi cartref mor ifanc, ac mae’r staff a’r myfyrwyr yn mwynhau cael eu cwmni yn y coleg.”
A hoffe chi enwebu rhywun sydd yn gweithio i Cyngor Sir Gâr i
dderbyn cydnabyddiaeth yn ein gwobrau Gloyw blynyddol?
FFURFLEN ENWEBU Enwau'r sawl sy'n enwebu
............................................................................................. Rhif Ffôn a eich cyfeiriad
............................................................................................. ............................................................................................. .............................................................................................
Enw'r unigolion sy'n cael eu henwebu .............................................................................................
Manylion cyswllt (os ydych yn gwybod hyn) .............................................................................................
Y rheswm pam mae'r unigolyn hwn yn haeddu gwobr ............................................................................................. ............................................................................................. .............................................................................................
Llenwch y ffurflen a’i dychwelyd i’r Adain Gyfathrebu, Sir Gâr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP Dyddiad cau - 15 Ebrill 2013
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22