12
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 12 MAWRTH - EBRILL 2013 Ffasiwn o Goleg Sir Gâr Cynlluniau gradd newydd
www.sirgar.gov.uk
Radio Beca ar y ffordd
YN ystod 2013 mi fydd pobol Sir Gâr yn dilyn ôl traed cyffrous Merched Beca. Rhiw 150 o flynyddoedd ar ôl yr
Mae cyn-fyfyriwr ffasiwn o Goleg Sir Gâr yn dychwelyd i'r coleg yn rhinwedd ei swydd fel rheolwr datblygu busnes rhyngwladol yn River Island, i lansio brîff byw unigryw ar gyfer y myfyrwyr cyfredol, gyda chyfle i ennill gwobr, sef lleoliad gwaith am fis ym mhencadlys y cwmni yn Llundain. Bu Claire Gaffey, cyn-fyfyriwr ffasiwn ar gampws Ffynnon Job y coleg yng
Nghaerfyrddin, yn astudio yn gynnar yn y 1990au, ac ers hynny mae wedi gweithio yn Llundain i gwmnïau megis House of Fraser a Marks and Spencer. Mae'r gystadleuaeth yn galw am ddylunio deunydd siop haul ar gyfer marchnad ryngwladol. Bydd yn cynnwys gwisgoedd nofio ac ategolion, ond bydd angen ei deilwra i leoliad daearyddol y farchnad. Bydd River Island yn dewis tri myfyriwr, a fydd yn eu barn hwy wedi ateb y
brîff orau, i deithio i Lundain i gyflwyno eu syniadau i Claire a phrynwr ffasiwn River Island.
Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig rhychwant newydd o raddau is-raddedig yn y Dyniaethau ar ei champws yn Llambed o fis Medi. Bydd y graddau newydd yn caniatáu i
fyfyrwyr astudio
modiwlau Addysg gyda phynciau megis Saesneg, Hanes, Anthropoleg, Archaeoleg, Y Clasuron a Chrefydd. Dywed Dr Mirjam Plantinga, Deon Cyfadran y Dyniaethau, “Anelir y graddau cyd-anrhydedd a chyfun at y myfyrwyr hynny sy’n dymuno mynd i addysgu neu i yrfa sy’n gysylltiedig ag addysg lle mae gofyn iddynt feddu ar sgiliau i’w galluogi i ddehongli’r
pynciau hyn yn effeithiol i eraill. I’r sawl sydd eisiau mynd i addysgu, bydd y modiwlau addysg yn gosod
sail gadarn i’r cwrs Tystysgrif Addysg Ȏlraddedig a gall myfyrwyr llwyddiannus ymgeisio iddynt drwy Metropolitan Abertawe”. Yn ychwanegol, cynigir rhaglenni Astudiaethau
Crefydd
ymgyrch er lles y pobl cyffredin, bydd Radio Beca yn newid pethau er lles y Cymry – a phawb sydd am fod yn rhan o fwrlwm y diwylliant Cymra’g, o ba bynnag cefndir y’n nhw. Yn ystod yr haf mi fydd Radio Beca
ac
Astudiaethau Islamaidd ar y campws yng Nghaerfyrddin o fis Medi a fydd yn ychwanegol at y cwrs cyfrwng Cymraeg BA Crefydd, Cymdeithas a Diwylliant. Gellir cael mwy o wybodaeth drwy gysylltu â
lleoedd@ydds.ac.uk neu 0300 500 1822 neu
www.ydds.ac.uk.
yn dechrau darlledu i bob rhan o Sir Gâr, gogledd Sir Benfro a Cheredigion. Mi fydd nabod Radio Beca yn hawdd. Cymra’g fydd yr iaith - yr un Gymra’g a fyddwch chi a fi’n ei ddefnyddio bob dydd. Ma’ hynny oherwydd ma’ nid rhyw griw ddethol o bobol
‘broffesiynol’
fydd yn
darlledu ond unrhyw un sydd am gyfrannu at greu dyfodol llewyrchus i’n cymdogaethau Cymra’g a phawb sy’n byw ynddynt. Gwybodaeth bellach am Radio Beca
ar gael gan eich eich Menter Iaith leol.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22