This page contains a Flash digital edition of a book.
14


NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 12 MAWRTH - EBRILL 2013 Calon Iechyd Lleol


Bydd Tŷ Hywel yn eich helpu chi i aros yn iach


Mae adnodd ar lein newydd - Tŷ Hywel - wedi’i lansio i gefnogi pobl leol i gael bywydau iachach, mwynhau ansawdd bywyd gwell a byw’n hirach. Yn Nhŷ Hywel mae’r ystafelloedd yn llawn o awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gwneud newidiadau bach iachus i’ch ffordd o fyw.


Am y tro cyntaf mae hefyd yn darparu man ganolog ar gyfer holl gyngor Dydd Mercher Iach. Mae thema benodol i bob ystafell gan gynnwys bwyta’n iach, iechyd rhywiol, iechyd meddwl ac alcohol. Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda: “Mae Dydd Mercher Iach yn cynnig camau syml sy’n dangos sut y gall newidiadau bach arwain at effeithiau mawr gydag amser.


“Mae canolfan adnoddau ar lein Tŷ Hywel yn cefnogi Dydd Mercher Iach a 10 addewid y Bwrdd Iechyd i helpu pobl i ychwanegu bywyd at eu blynyddoedd a blynyddoedd at eu bywydau.” I ymweld â Thŷ Hywel ewch i www.bihyweldda.cymru.nhs.uk/dydd- mercher-iach. I gael rhagor o wybodaeth am 10 addewid y Bwrdd Iechyd ewch i www.bihyweldda.cymru.nhs.uk/10addewid


Wyddech chi, yn ardal Hywel Dda, fod 59% o bobl dros eu pwysau a bod 22% yn ordew? Yn ôl gwaith ymchwil, mae diffyg gweithgarwch corfforol rheolaidd a bwyta bwyd sy’n uchel ei galorïau yn cyfrannu at olygu bod unigolion dros eu pwysau ac yn ordew.


Yn ardal Hywel Dda, dim ond 39% o’r boblogaeth oedolion sy’n bwyta o leiaf bum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Beth am ystyried: • Brecwast: ychwanegwch ffrwythau at eich grawnfwyd neu yfwch sudd ffrwythau


• Cinio: bwytwch salad ar yr ochr neu gael pryd i lysfwytawyr fel tsili llysiau


• Swper: bwytwch ddau ddogn o lysiau gyda’ch pryd


Mis Mawrth yw Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Brostad a bydd Grŵp Canser y Brostad Gorllewin Cymru’n cynnal stondinau gwybodaeth mewn ysbytai lleol. Byddant yn Ysbyty Tywysog Philip (Cyntedd Cleifion Allanol) ddydd Llun 11 Mawrth ac yn Ysbyty Glangwili (Cyntedd Cleifion Allanol) ddydd Mawrth 19 Mawrth. I gysylltu â Grŵp Canser y Brostad Gorllewin Cymru, ffoniwch ei linell gymorth gyfrinachol: 01559 363154 neu 01834 831442 ac ewch i www.westwalesprostatecancer.org.uk.


www.sirgar.gov.uk


Wyddech chi fod gweithgarwch corfforol rheolaidd yn helpu i gadw eich pwysau i lawr, yn gwella’ch iechyd meddwl, ac yn helpu i atal clefyd y galon, canser a diabetes?


Dylai oedolion geisio bod yn egnïol bob dydd. Dros gyfnod o wythnos dylid gwneud o leiaf ddwy awr a hanner o weithgarwch cymedrol am gyfnodau o 10 munud neu fwy, er enghraifft 30 munud o leiaf bum diwrnod yr wythnos.


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22