This page contains a Flash digital edition of a book.
www.sirgar.gov.uk


NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 12 MAWRTH - EBRILL 2013


Hamdden yn Sir Gaerfyrddin Mynediad am ddim i 5


Mae pum lle ar gael am ddim yn ras feiciau’r SOSBAN a gynhelir ddydd Sul, Mai 12fed. Mae County Cycles yn cynnig


talu’r ff ïoedd ar ran pum darllenydd lwcus sy’n dymuno cymryd rhan yn y digwyddiad elusennol hwn. Mae’r cwmni’n trefnu dau


ddigwyddiad Sportive bob blwyddyn i godi arian at elusen – yn wreiddiol roedd y SOSBAN i fenywod yn unig, ond eleni mae mwy o bobl ifanc yn cael eu hannog i gymryd rhan, felly gall plant gofrestru am hanner pris. Bydd yr holl elw eleni yn mynd i Ysbyty’r Tywysog Philip. Y Sportive arall yw Reid


Myrddin (Merlin Ride) – y nod yw cael 1000 o bobl yn cymryd rhan eleni – bydd elw o’r digwyddiad hwn yn mynd i’r Ambiwlans Awyr, Macmillan, Canser y Prostad a Thŷ Hafan. I gael rhagor o fanylion, ewch i County Cycles ar Facebook.


Bydd y pum person cyntaf sy’n ffonio County Cycles ar 01269 845656 neu 07875060815 yn gallu hawlio mynediad am ddim i’r ras.


Matt y beiciwr mynydd Enduro ar ben ei ddigon


Matthew Page, y beiciwr mynydd, wnaeth ennill gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yn Sir Gaerfyrddin - ar y pedwerydd cynnig.


Roedd Matthew ymhlith llu o sêr disglair byd y campau yn Sir Gaerfyrddin a ddaeth i Westy Parc y Strade i ddathlu gorchestion chwaraeon y sir yn y 15fed noson wobrwyo flynyddol.


Ymhlith yr enillwyr eraill oedd: Chwaraewraig Ifanc y Flwyddyn: Amy Roberts, beicio;


Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn: Scott Davies, beicio; Gwirfoddolwr y Flwyddyn: Carl Daniels, pêl-rwyd;


Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn: Nathan Jones, athletau;


Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol y Flwyddyn: Susy Evans, karate;


Hyfforddwr Perfformiad o Safon Uchel y Flwyddyn: John Evans, polo dŵr; Chwaraewr Anabl y Flwyddyn: Michael Beynon, athletau;


Y beiciwr mynydd Matthew Page, enillydd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yn Sir Gaerfyrddin


Chwaraewraig Anabl y Flwyddyn, Claire Williams, athletau; Tîm Ifanc y Flwyddyn: Tîm Rygbi Dynion Coleg Sir Gâr; Tîm y Flwyddyn: Clwb Criced Rhydaman; Gwobr Goffa Ryan Jones am wasanaeth eithriadol i Chwaraeon: Roy Adams, athletau.


Martin Clunes – Llywydd Cymdeithas Ceffylau Prydain yn cyflwyno'r wobr fynediad genedlaethol i Eirian James, Rheolwr Mynediad a Hamdden yng Nghefn Gwlad (y Gwasanaeth Hamdden a Chwaraeon) Cyngor Sir Caerfyrddin.


Mae ymddiriedolwyr Cymdeithas Ceffylau Prydain wedi dyfarnu ei Gwobr Fynediad Genedlaethol o fri i Gyngor Sir Caerfyrddin am wasanaeth


ardderchog gan


awdurdod lleol sy'n darparu gwasanaethau marchogaeth lefel uwch. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn


Neuadd Saddlers, Gutter Lane, Llundain. Cyflwynwyd y wobr gan yr actor Martin Clunes, Llywydd Cymdeithas Ceffylau Prydain “i'r awdurdod lleol mwyaf gweithredol o ran agor llwybrau marchogaeth”.


Mae'r Cyngor hefyd wedi derbyn dwy wobr


Gymdeithas yn y gorffennol: “Good Guys”


a


Gwerthfawrogiad”. Cyflawnwyd hyn wrth i'r Cyngor gydweithio'n agos


ranbarthol gan y “Thystysgrif


â grwpiau


marchogaeth a swyddogion y Gymdeithas i ddarparu llwybrau oddi ar y ffordd gyda chymorth ariannol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Llywodraeth Cymru, Rhaglen Calon ac Enaid y Cymoedd, Cymoedd y Gorllewin a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.


Croeso i gerddwyr


Mae Croeso i Gerddwyr yn Llanymddyfri gan taw'r dref hon yw'r gyntaf yn Sir Gaerfyrddin i'w chymeradwyo'n swyddogol gan y cynllun hwn. Mae cael bod yn aelod o'r cynllun yn hwb i dwristiaeth yn y sir. Yn ogystal


mae'n anogaeth i drefi eraill gyflwyno cais am yr un statws. Cafodd y grŵp gefnogaeth eang gan y gymuned, ac mae'r busnesau lleol yn hyrwyddo'r statws hwn eisoes. Bydd y lansio swyddogol yn digwydd yng Ngwesty'r Castell yn gynnar yn y


gwanwyn, pryd y cynhelir rhaglen o deithiau cerdded. Gweler www.walkersarewelcome.org.uk neu e-bostio glyn.glen@btinternet.com i gael rhagor o wybodaeth.


I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau a’r gweithgareddau yn Sir Gâr gweler www.darganfodsirgar.com


Sir yn ennill gwobr o fri


15


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22