16
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 12 MAWRTH - EBRILL 2013
Prosiect Phoenix i ysgolion y Sir
www.sirgar.gov.uk Gwobrau Dug Caeredin
Yn ddiweddar, cynhaliodd Tîm Diogelwch yn y Gymuned Ardal Reoli Sirol Gaerfyrddin ddau Gwrs Phoenix yng Ngorsaf Dân Llanelli. Roedd y cyrsiau pum diwrnod yn cynnwys ymgeiswyr o Ysgol Gyfun Bryngwyn, Llanelli ac Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman. Caiff Prosiect Phoenix ei gynnal gan GTACGC ac mae’n cael ei gynnal mewn
amryw o ysgolion cyfun yn y Sir. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar wella bywydau’r bobl ifanc sy’n cyfranogi, trwy feithrin hyder, datblygu sgiliau bywyd defnyddiol a’u haddysgu ym meysydd dinasyddiaeth a gwaith tîm. Mae’r cwrs yn anelu hefyd at ddarparu’r bobl ifanc â modelau rôl y
Gwasanaeth Tân, a fydd yn cyfeirio eu hegni at wasanaethu’r cymunedau lle maent yn byw a gwella’r berthynas rhyngddyn nhw, y gymuned a’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae’r manteision eraill yn cynnwys tywys pobl ifanc i ffwrdd oddi wrth ffug
alwadau ac atal anafiadau perthynol i dân, gwrthdrawiadau ar y ffordd, troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Prifysgol yn cefnogi Masnach Deg!
MAE bobl
ifanc wedi cael
cydnabyddiaeth mewn noson wobrwyo nodedig am ennill Gwobrau Dug Caeredin. Trefnwyd y noson gan y Gwasanaeth
Ieuenctid, sy'n
gweithredu Trwydded Gwobr Dug Caeredin ar gyfer Sir Gaerfyrddin, a gwobrwywyd y rhai a oedd wedi llwyddo i ennill gwobrau Efydd ac Arian. Dywedodd Hannah Thomas,
disgybl blwyddyn 11 o Ysgol Dyffryn Taf, a oedd yn derbyn ei medal Efydd: “Mae cyflawni'r Wobr wedi bod yn brofiad anhygoel. Doeddwn i ddim yn sylweddoli faint o waith fyddai'r cyfan, a'i fod yn golygu mwy na'r alldaith yn unig, ond mae wedi bod yn brofiad da. Rwy' wedi dechrau gweithio tuag at fy Ngwobr Arian eisoes." I gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli ac am fod yn Arweinydd,
cysylltwch ag Alison Owen-Yeates drwy ffonio 01267 246679. Pobl ifanc o Gaerfyrddin sydd wedi
cael eu Gwobrau Dug Caeredin yng nghwmni'r siaradwraig wadd, Sarah Outen. Pobl ifanc o Lanelli sydd wedi cael
eu Gwobrau Dug Caeredin yng nghwmni'r siaradwraig wadd, Sarah Outen.
Llwybrau cerdded a beicio ddiogel
Mae cynllun i ddarparu llwybrau cerdded a beicio diogel gwerth £558,000 yn ardal Pen-bre bron wedi ei gwblhau. Mae arwyddion adborth i yrwyr
eisoes wedi cyfrannu'n sylweddol at arafu'r traffig sy'n mynd drwy'r pentref prysur. Cwmpas aruthrol y 13 elfen sy'n rhan o'r cynllun yw gwella mynediad i Ysgol Gynradd Pen-bre, y llyfrgell, Eglwys St Illtyd, Parc Gwledig Pen-bre, Cwrs Golff Ashburnham, Llwybr Arfordirol y Mileniwm, Heol y Mynydd a llwybr beicio a llwybr troed Camlas Pen- bre. Bydd is-adran trafnidiaeth a
Ymwelodd plant Ysgol y Dderwen ac Ysgol Llys Hywel â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant er mwyn dathlu Pythnefnos Masnach Deg. Croesawyd Mrs
Sandra Joseph, cynhyrchydd bananas o St Lucia i son am sut mae cynnal busnes drwy egwyddorion Masnach Deg yn buddio cymunedau’r ynys. Dywed Sandra “Heb ymyrraeth Masnach Deg byddem yn colli’r frwydr. Mae Masnach Deg yn rhoi’r siawns gorau i ni, ein dewis, ein dyfodol”. Soniodd y Parch Ainsely Griffiths, a
drefnodd y digwyddiad, am y ffordd y mae’r Brifysgol wedi cefnogi Masnach Deg er 2009 drwy hyrwyddo a sicrhau bod cynnyrch Masnach Deg ar gael ar y campws. Ychwanegodd Jane Davidson, Cyfarwyddwr
INSPIRE, “Mae’r
Brifysgol yn falch o gael cefnogi ethos Masnach Deg ac mae wedi’i hymrwymo tuag at werthu a hyrwyddo cynnyrch sydd wedi’u masnachu mewn ffordd deg ac i addysgu staff a myfyrwyr am Fasnach Deg”.
pheirianneg y cyngor yn cwblhau'r gwaith erbyn mis Ebrill, ar y cyd â chynllun cysylltiadau Cerdded a Beicio'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Meddai'r Cyng. Colin Evans, yr
aelod o fwrdd gweithredol y sir dros drafnidiaeth
a pheirianneg:
“Datblygwyd y cynllun mewn partneriaeth agos ag ystod eang o bartneriaid cymunedol yn ardal Pen- bre. Mae dileu'r tagfeydd yn Heol Ashburnham yn elfen bwysig o'r cynllun, a hynny trwy gyflwyno terfyn 20mya, yn cynnwys llwyfan wedi'i godi, a man croesi y tu allan i'r ysgol, yr ardal chwarae a Gwesty
Ashburnham.” Cyflawnwyd mesurau gwella a
diogelwch ar draws Sgwâr Randall, Trenel, a hyd at fynedfa Parc Gwledig Pen-bre. Bydd gwell llwybr troed ar Heol y Mynydd, yn ogystal â ffrithiant ar yr arwyneb a gwell arwyddion yn rhybuddio am droeon.
Tîm trafnidiaeth Sir Gaerfyrddin
yw un o'r mwyaf llwyddiannus yng Nghymru o ran sicrhau grantiau ar gyfer darpariaeth llwybrau diogel. Maent yn gobeithio y bydd cynllun
uchelgeisiol tebyg ar gyfer Cydweli a Mynydd y Garreg yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru fis nesaf.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22