18
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 12 MAWRTH - EBRILL 2013
Darlledu cyfarfodydd y Cyngor yn fyw ar y we
Bydd cyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael eu darlledu’n fyw fel rhan o fenter e-lywodraeth sy’n ceisio gwella gwasanaethau i’r cyhoedd. Bydd modd gwylio’r cyfarfodydd ar ôl
iddynt ddigwydd ar wefan y cyngor sir. Mae disgwyl i’r prosiect peilot gostio rhyw £20,000 y flwyddyn, ac mae’n cael ei ariannu trwy grant gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cam hwn yn dilyn canfyddiadau
grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan y cyngor i edrych ar agenda e- lywodraeth, a sut gall technoleg newydd wella gwasanaethau i gwsmeriaid. Bydd y ffilmio yn digwydd yng
nghyfarfodydd y cyngor llawn, a’r bwriad yw darlledu’r lluniau yn fyw, heb eu golygu. Meddai’r Cyng. Kevin Madge,
Arweinydd y Cyngor: “Mae hyn yn rhan o’n hymrwymiad i lywodraethu agored a thryloyw, ac rwy’n gobeithio y bydd o ddiddordeb i bobl fydd yn medru gwylio trafodaethau wrth iddynt ddigwydd, a hefyd ar ôl y cyfarfodydd.” Mae’r cynllun peilot i fod i gychwyn yn
y dyfodol agos, ac mae dyddiad i’w bennu’n fuan.
Gitor Roberts gyda Ann Jones o San Clêr
Mae SCCH Guto Roberts yn gobeithio
lansio Cynllun
Gwarchod Cymdogaeth yn ardal Sanclêr. Yma, mae’n esbonio’r rhesymau pam. Rwy’n teimlo bod cynlluniau
Gwarchod Cymdogaeth yn bwysig iawn i gymunedau gan eu bod yn rhoi ymdeimlad o berchnogaeth i breswylwyr ac yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn chwarae rhan mewn diogelu’u cymuned. Gellir codi materion lleol sy’n
poeni aelodau o’r cyhoedd yn y cyfarfodydd hyn a’u trafod gydag
Diogelwch rhag tân aelodau’r sefydliadau sy’n
bresennol. Medrwn adolygu a diweddaru
patrymau trosedd lleol a hysbysu’r cyhoedd am nifer a mathau’r digwyddiadau sydd wedi digwydd. Er enghraifft, nifer y galwadau ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac yn y blaen. Defnyddir cyfarfodydd Gwarchod
Cymdogaeth er mwyn gwneud y cyhoedd yn ymwybodol o droseddau yn eu hardal nhw ac i dynnu sylw at unrhyw fentrau sydd ar waith gennym.
mae’r
Ar gyfer swyddogion Sanclêr, cynllun
Gwarchod
Cymdogaeth yn rhoi cyfle i ni eistedd lawr a chael ein hysbysu ynghylch unrhyw faterion a phryderon sydd gan y cyhoedd. Yn ogystal, mae
Gwarchod cymdogaeth newydd
www.sirgar.gov.uk
Torri perthi a choed
Atgoffir perchenogion tir beth yw eu cyfrifoldebau o ran cynnal a chadw perthi a choed sy'n tyfu ar hyd y briffordd. Mae ganddynt gyfrifoldeb o dan
Ddeddf Priffyrdd 1980 i docio perthi a choed sy'n cuddio arwyddion ffordd, ac sy'n tarfu ar yr hyn y mae defnyddwyr ffyrdd yn gallu ei weld. Hefyd mae'n rhaid iddynt sicrhau nad ydynt yn gadael dim tocion ar y ffyrdd a'r palmentydd ar ôl gwneud y gwaith tocio.
cynllun
Gwarchod Cymdogaeth yn gyfle gwych i breswylwyr lleol godi unrhyw bryderon sydd ganddynt â’r heddlu neu sefydliad arall. Trwy
fynychu cyfarfodydd
Gwarchod Cymdogaeth, medrwch ddysgu mwy am ba fentrau sydd yn cael eu cynnal.
Erthygl Hysbysebu
Cynhadledd addysg uwch Gorllewin Cymru
Bydd Cynhadledd Addysg Uwch Gorllewin Cymru yn cael ei chynnal ar 17 Ebrill ar gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Bydd disgyblion Blwyddyn 12
ysgolion y rhanbarth yn mynychu’r digwyddiad a bydd dros 70 o brifysgolion yno i gynnig cyngor ynglŷn ag astudio yn eu sefydliadau. Dywed Dr Michelle Davies, swyddog cyswllt ysgolion y Brifysgol “Mae hwn yn ddigwyddiad pwysig iawn i rai sy’n ystyried mynd i’r Brifysgol ac y mae’n gyfle gwych i ymchwilio’r hyn y gall prifysgolion ei gynnig o ran rhaglenni,
ffordd o fyw ac
ANOGIR cynghorau tref a chymuned i gefnogi Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog yn Sir Gaerfyrddin. Datganiad o gefnogaeth ar y cyd yw'r Cyfamod i helpu aelodau a chyn- aelodau o'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd. Ei nod yw:
• Annog cymunedau i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hardaloedd, ac i'r gwrthwyneb;
• Hybu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o'r materion sy'n effeithio ar Gymuned y Lluoedd Arfog;
• Cydnabod a chofio'r aberth a wneir gan Gymuned y Lluoedd Arfog;
• Hyrwyddo gweithgareddau sy'n helpu aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog i integreiddio i fywyd lleol.
Mae Adran Diogelwch Rhag Tân yn y Gymuned Sir Gaerfyrddin wedi bod yn ymweld â llety gwarchod ar hyd a lled Sir Gaerfyrddin, i sicrhau bod y trigolion yn ddiogel rhag tân. Mae’r timau diogelwch wedi bod yn
ymweld â fflatiau, byngalos a thai mewn amlfeddiannaeth, i wirio’r mesurau atal tân a’r cyfarpar ac i roi cyngor i’r trigolion ar ddiogelwch. Yn ogystal, fe wnaethant gynnal Archwiliad Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref ym mhob adeilad. Mae llety gwarchod yn ffordd hollbwysig o alluogi aelodau hŷn o’r
gymuned a’r rhai sy’n agored i niwed i fyw’n annibynnol. Ceir cyfanswm o 1,579 o dai gwarchod yn Sir Gaerfyrddin, sy’n golygu bod y prosiect wedi cymryd chwe mis i’w gwblhau. Derbyniodd y Gwasanaeth Tân gymorth oddi wrth Gyngor Sir Gâr wrth gael mynediad at dros 80% o’r adeiladau yma. Roedd yr atborth oddi wrth y trigolion i gyd yn bositif, ac mae wedi profi’n ffynhonnell amhrisiadwy o wybodaeth i’r Gwasanaeth Tân, a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddechrau mwy o brosiectau tebyg mewn rhannau eraill o ardal y Gwasanaeth.
Mae grant o £30 miliwn ar gael ledled y Deyrnas Unedig i helpu prosiectau lleol sy'n atgyfnerthu'r cysylltiadau neu'r gyd-ddealltwriaeth rhwng aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog a'r gymuned ehangach. Gall unrhyw elfen o'r gymuned gyflwyno cais am gyllid, gan gynnwys grwpiau gwirfoddoli, elusennau neu gyrff cyhoeddus. Gellir cyflwyno ceisiadau am grantiau rhwng £100 a £250,000. Cysylltwyd â chynghorau tref a chymuned i weld a oedd unrhyw brosiectau addas yn eu hardaloedd hwy.
Gall unrhyw un sydd am ymuno â'r Cyfamod Cymunedol wneud hynny yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin; Theatr y Ffwrnes, Llanelli; neu Neuadd y Dref, Rhydaman. I gael rhagor o wybodaeth ewch
i:
www.armedforcescarmarthenshire.org.uk
ysgoloriaethau. Bydd hefyd gyfle i ddarganfod mwy am ariannu addysg brifysgol ac i fynychu seminarau ar bynciau o ddiddordeb”.
Swyn Bwyty Myrddin
I gael bwydlen Table d’hôte, ewch i Fwyty Myrddin; cyfleuster bwyty, seminarau a chyfarfodydd Coleg Sir Gâr yng Nghaerfyrddin. Mae cogyddion dan hyfforddiant yn
aros i weini bwyd danteithiol i chi mewn bwyty cwbl weithredol, ac maent yn mireinio eu sgiliau i gynnig profiad gastronomaidd. Mae bwyty Myrddin, sydd ar gael ar
gyfer digwyddiadau preifat, ar gampws Pibwr-lwyd, ac mae ar agor ar gyfer ymholiadau yn ystod y tymor ar ddydd Mercher a dydd Gwener o 9.15am-3pm ac ar ddydd Iau o 4-9pm 01554 748268 / 748250.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22