www.sirgar.gov.uk
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 12 MAWRTH - EBRILL 2013 Sefydliad Y Rowan
Cefnogi Annibyniaeth Trwy Ddewis
www.therowan.org
Ydych chi'n gallu darparu gwasanaeth tymor byr (dros dro) i ofalwr / cynorthwyydd personol sydd ar wyliau blynyddol? Neu ydych chi'n gallu helpu allan ar fyr rybudd os yw gofalwr / cynorthwyydd personol yn ffonio yn sâl?
O dan y cynllun Taliadau Uniongyrchol, mae cyflogwyr yn trefnu eu darpariaeth gofal eu hunain a ariennir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn golygu pan fydd eu gweithwyr yn absennol o'u swydd am gyfnodau o wyliau blynyddol neu salwch gall y cyflogwyr gysylltu â phobl â'r ddealltwriaeth y gall y swydd dros dro cael eu derbyn neu eu gwrthod yn yr un modd.
Os oes gennych chi amser sbâr ac nad ydych am fod yn ymrwymedig dros dymor hir i waith parhaol, yna gall fod yn Cynorthwy-ydd Personol Rhyddhad yn ddelfrydol i chi.
Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch e-bost i ni ar
3WC.PARegister@
therowan.org i roi eich manylion a gallwn eich cynnwys ar ein rhestr o enwau pobl sy’n fodlon i ni gysylltu ar fyr rybudd.
Fel arall, gallwch chwilio am swyddi Cynorthwy-ydd Personol Rhyddhad ar
http://www.therowan.org/pacarmarthenshire. Yn ogystal â swyddi rhyddhad, mae yna hefyd lawer o swyddi parhaol am ofalwyr, cymdeithion a chynorthwywyr personol. Gallwch wneud cais ar-lein lle welwch ddisgrifiadau swydd lawn, manylebau person a ffurflenni cais.
Nodwch, nid Sefydliad y Rowan fydd eich cyflogwr, rydym yn sefydliad sy'n cefnogi pobl sy'n cael eu cyflogwyr o dan y cynllun Taliadau Uniongyrchol (Llywodraeth Cymru a menter awdurdodau lleol a sefydlwyd gyntaf yn 1997).
Amcanu Ltd, Porth Tywyn
Peiriannydd Technegol / Dylunio Mecanyddol - Rydym yn chwilio am rywun brwdfrydig ac egnïol sydd â'r gallu i ddylunio a rheoli prosiect.
Yn ddelfrydol bydd gan ddeiliad y swydd brofiad o 'Autodesk Inventor' yn ogystal â Gweithgynhyrchu trwy Gymorth Cyfrifiadur (CAM), ond nid yw hyn yn hanfodol mewn unrhyw ystyr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â chwmni sydd wedi hen ennill ei blwyf ac sy'n un o brif gwmnïau'r byd o ran adeiladwaith atal sŵn. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar sawl cynnyrch gwahanol o'r camau cysyniadol hyd at y gwaith gweithgynhyrchu, a bydd ganddo/ganddi ddylanwad gwirioneddol ar y cynnyrch y mae'r cwmni'n ei greu ar gyfer ein cwsmeriaid.
Os hoffech weithio gyda chwmni lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol, cyflwynwch gais yn awr!
NR Evans Distribution, Cross Hands Gosodwr/Technegydd Cerbydau Nwyddau Trwm
Mae'n rhaid bod ymgeiswyr yn gymwys yn y maes hwn ac wedi cael profiad blaenorol o'r math hwn o waith.
Byddai meddu ar drwydded Cerbydau Nwyddau Trwm Dosbarth 1 o fantais. Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd allu cydymffurfio â therfynau amser caeth, bod yn rhan o rota o weithwyr sydd ar alwad i ymdrin â'n cerbydau os byddant yn torri i lawr, a chyflawni gwaith arall o bosibl pan fo'r angen.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar y penwythnos ac yn ôl patrwm gwaith sifft, ynghyd â mynd allan yn ystod y nos i ymateb i alwadau.
Cyfleoedd Prentisiaethau
Bellach mae Rhaglen ‘Barod am Waith' Cyngor Sir Caerfyrddin wedi'i llunio, ac mae'n cynnig cyfleoedd pwysig yn yr Awdurdod Lleol o ran profiad gwaith, prentisiaethau, a datblygu graddedigion.
Fel rhan o'r rhaglen rydym yn falch o gael cynnig y 5 prentisiaeth isod.
Gweinyddu Busnes - Adnoddau Dynol (ardal Caerfyrddin) x 2 - 017336
Gweinyddu Busnes - Twristiaeth a Marchnata x 2 (ardal Llanelli)
Technegydd Cerbydau Modur x 1 (Uned Cynnal a Chadw, Depo Cillefwr)
Bydd y prentisiaid yn treulio deunaw mis ar leoliad yn un o'r chwe adran. Yn ychwanegol at hynny, byddant yn cael cefnogaeth gan y tîm Dysgu a Datblygu Corfforaethol.
Gan fod angen gwahanol sgiliau a gallu ar gyfer pob swydd, sicrhewch eich bod yn bwrw golwg ar y Disgrifiad Swydd a'r Fanyleb Person sy'n benodol ar gyfer yr un rydych yn gwneud cais amdani.
I fod yn gymwys mae'n rhaid eich bod yn 16 oed neu'n hŷn ac ni ddylech feddu ar radd na chymhwyster cyfwerth (lefel 6) yn y maes dan sylw.
Bydd £138.97 yr wythnos yn daladwy i Brentisiaid yn ystod 12 mis cyntaf eu Prentisiaeth, beth bynnag fo'u hoed.
Neu cysylltwch ag Un Sir Gâr drwy ffonio 0800 9173 408 neu edrych ar
www.unsirgar.co.uk i gael cyngor.
Dyddiad Cau : 22ain Mawrth, 2013.
21
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22