20
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 12 MAWRTH - EBRILL 2013 Dewis Menter
The Dewis Menter team: Lesley Lewis, Tessa Peregrine and Barry Hale
MAE Dewis Menter yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd am ddim i bobl sydd am ddechrau eu busnes eu hunain. Hefyd mae'r prosiect yn helpu busnesau i glustnodi a gwireddu cyfleoedd i dyfu a datblygu. Ynghyd â chymorth un ag un gan y Swyddogion Datblygu Busnesau, Lesley Lewis a Barry Hale, mae gan y prosiect dîm o fentoriaid o'r amrywiol sectorau busnes ac mae'n cynnal digwyddiadau a gweithdai ar hyd a lled y Sir Gaerfyrddin wledig. Gellir cysylltu â'r Tîm Dewis Menter drwy ffonio 01267 242429 neu drwy anfon neges e-bost at:
dewismenter@carmarthenshire.gov.uk *Mae'r prosiect hwn wedi cael ei gyllido gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru ar gyfer 2007-2013, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Grwpiau Mentergarwch
MAE prosiect Dewis Menter, sy'n helpu pobl i ddechrau busnesau, yn gweithio gyda dau brosiect mentergarwch ar hyn o bryd.
Mae Grŵp Mentergarwch yn cynnwys grŵp o unigolion neu fusnesau sy'n cydweithio a rhyngweithio i gyrraedd nod cyffredin. Gall y nod hwn fod yn unrhyw beth, boed yn sefydlu busnes neu ddatblygu syniad ar gyfer busnes sy'n bodoli eisoes.
Os ydych chi'n dod o'r Sir Gaerfyrddin wledig ac os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu grŵp rhyngweithio cynaliadwy, cysylltwch â mi drwy ffonio 01267 242 429.
Mae Dewis Menter yn cynnig cymorth, cyngor, a chyfarwyddyd am ddim i unigolion a Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yn y Sir Gaerfyrddin wledig.
Mae ein cymorth yn cynnwys: • Cyngor busnes un ag un i Fusnesau Bach a Canolig eu Maint • Cymorth i glustnodi cyfleoedd datblygu • Digwyddiadau a gweithdai i fusnesau a darpar entrepreneuriaid
• Cymorth i ddechrau busnesau newydd • Gwasanaeth mentora un ag un i fusnesau ifanc gan dîm o bobl fusnes lwyddiannus
• Cymorth i greu a datblygu syniadau busnes Gall y canlynol gael cymorth gennym: • Unigolion a busnesau yn y Sir Gaerfyrddin wledig • Unigolion sydd am ddechrau busnes
• Unigolion neu grwpiau sydd am ystyried gyrfa hunangyflogedig
• Busnesau presennol
www.sirgar.gov.uk Y Daith i'r 'Cafe at Number Four'
Dechreuodd Andrew Luck ar ei daith i'r 'Cafe at Number Four' 12 o flynyddoedd yn ôl pan symudodd o'i dref enedigol, sef Caerfyrddin, i Lundain i ddechrau meithrin ei sgiliau fel cogydd.
Gweithiodd ochr yn ochr â chogyddion proffesiynol hynod nodedig yn 'Claridges' a'r 'Automat Brasserie' yn Mayfair. Tyfodd ei gariad at fwyd ac fe'i hysbrydolwyd i ddod â'r hyn a grëodd yn ôl i Gymru.
Bellach mae Andrew wedi agor drysau'r 'Cafe at Number Four' yn Heol y Frenhines, Caerfyrddin, ac fe ddywedodd: “Cefais syniad ynghylch rhoi gwedd fodern i gaffi traddodiadol.”
Mae Lesley Lewis, swyddog datblygu busnes Dewis Menter, yn helpu Andrew i ddatblygu ei gaffi gyda'r nod
o gynnig i bobl Caerfyrddin a'r ardaloedd cyfagos fwyd gwych mewn awyrgylch gyfoes lle gall pobl ymlacio.
Mae'r 'Cafe at Number Four' yn gweini brecwast a chinio o ddydd Mawrth tan ddydd Sadwrn rhwng 9am a 5pm,
yn gweini te prynhawn rhwng 2pm a 5pm, a phryd tri chwrs penodedig gyda'r hwyr o ddydd Iau tan ddydd Sadwrn, gan annog gwesteion i ddod â'u hoff ddiod gyda hwy i'w fwynhau gyda'u bwyd.
Busnes rheoli plâu newydd
Mae Neil Harries o Sanclêr newydd ddechrau 'Vermagon', sef busnesau rheoli plâu ar gyfer rheoli ac atal problemau o ran llygod mawr a llygod bach, clêr a thrychfilod, gwahaddod, adar, gwiwerod, cadnoid, a chwningod.
Dechreuodd Neil fynd i'r afael â phlâu ar ffermydd ei ffrindiau a'i berthnasau pan oedd yn ŵr ifanc, yn ogystal â'i fferm ei hun lle mae amryw o anifeiliaid ac adeiladau.
Dywedodd: "Gall plâu wneud llawer o ddifrod i eiddo drwy gnoi tyllau mewn waliau neu gnoi drwy geblau gan achosi tanau. Hefyd gall plâu
arwain at golledion sylweddol o ran porthiant a lledaenu heintiau."
Mae'r busnes yn cwmpasu gwasanaethau domestig, masnachol ac amaethyddol, boed yn un alwad neu'n rhan o gontract hirdymor.
"Roedd dechrau busnes a
chamu i fyd doeddwn i'n gwybod dim amdano braidd yn frawychus, ond fe wnaeth cymorth Barry Hale o Dewis Menter wneud popeth yn haws.”
I gael rhagor o wybodaeth ewch i:
www.vermagon.co.uk
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22