www.sirgar.gov.uk Hybu sgiliau gwaith
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 12 MAWRTH - EBRILL 2013
5 Y Bartneriaeth Ddysgu
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi lansio cynllun gwobrau arloesol i gydnabod a gwobrwyo myfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau i hybu eu sgiliau cyflogadwyedd. Lluniwyd Gwobr Cyflogadwyedd
YDDS+ i redeg wrth ochr rhaglenni academaidd y Brifysgol ac i ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr gynyddu sgiliau craidd er mwyn gwella’u rhagolygon am yrfa yn y dyfodol. Rhoddir gwobrau efydd, arian ac aur YDDS+ i
fyfyrwyr
mae’u heisiau ar gyflogwyr: Cyfathrebu, Gwaith Tîm, Dysgu a Datblygiad Personol, Dinasyddiaeth Weithgar a Datrys Problemau’n Greadigol. Wrth siarad am wobr YDDS+,
meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost a Deon y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant:
“Mae cyflogwyr sy’n
arddangos ymrwymiad i ddatblygu pum priodoledd allweddol a gydnabuwyd yn briodoleddau y
heddiw yn chwilio am raddedigion sy’n barod i fynd i’r gweithle ac sydd â thystiolaeth eglur o sgiliau penodol ar gyfer swyddi. Mae’r rhain yn ategu’r priodoleddau lefel uchel sydd gan raddedigion, sef y sgiliau mae prifysgolion wedi’u datblygu’n draddodiadol. Gellir dadlau bod y
farchnad swyddi ar ei lefel fwyaf cystadleuol mewn mwy na degawd, ac mae myfyrwyr prifysgol yn chwilio’n fwyfwy
am ffyrdd
gwahanol i'w gwneud eu hun yn fwy deniadol i ddarpar gyflogwyr. I’r myfyrwyr heddiw mae sgiliau cyflogadwyedd yn atodiad hanfodol i gymwysterau academaidd. “Mae’r Brifysgol yn cydnabod hyn a
lluniwyd ein Gwobr YDDS+ i roi mantais i’n myfyrwyr yn y farchnad swyddi drwy gynnig rhaglen ddatblygiad mewn pum maes allweddol a fydd yn eu helpu i lwyddo yn eu bywyd wedi’r brifysgol.“
Diwrnod sba yn y salon harddwch
Mae salon harddwch Coleg Sir Gâr yn Llanelli wedi cyflwyno triniaethau newydd sy’n cynnwys lapiad cefnfor i'r corff i adfywio'r croen a lapiad corff ar gyfer meinhau trwy golli sawl modfedd yn gyflym. Mae'r lapiad cefnfor i'r corff, a gyfunir â
diwrnod yn y sba, yn defnyddio mwynau naturiol o'r môr, ac mae'r driniaeth yn cychwyn yn yr ystafell stêm a'r pwll sba hydrotherapi, lle defnyddir sgwriad halen i sgubo'r corff a'i lanhau yn drylwyr, gan feddalu'r croen. Bydd olew tylino moethus yn helpu i hydradu a lleddfu'r corff a'r meddwl cyn i chi gael eich lapio mewn mwd o'r Môr Marw. Yn ogystal â thriniaethau harddwch, mae'r
therapïau holistig yn cynnwys Tylino Pen Indiaidd, sydd yn defnyddio pwyntiau pwysedd i ddileu tensiwn. Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen y cwricwlwm gwallt a harddwch yn
colegsirgar.ac.uk neu ffoniwch 01554 748079 neu e-bostiwch
enquiries@colegsirgar.ac.uk
Mae cleifion yn cyrraedd yn rhy hwyr yn yr ysbyty i gael y driniaeth fwyaf addawol yn dilyn strôc. Dyma rybudd meddyg Ysbyty Tywysog Philip. Cyrhaeddodd ddim ond 43% o’r
bobl hynny a ddioddefodd o strôc yng Nghaerfyrddin yn 2012 yr ysbyty mewn pryd i elwa ar thrombolysis. Mae triniaeth thrombolysis, sydd ar gael 24/7 yn Ysbytai Glangwili a Thywysog Philip, yn effeithiol o fewn 4.5 awr yn unig o gael strôc. Dywedodd Dr Granville Morris, Meddyg Ymgynghorol: “Nid yw
Am ragor o wybodaeth
cysylltwch â Caryl neu Maria, Swyddogion Chwarae, Cyngor Sir Caerfyrddin, ar 01267 246561 Hei! Dewch i Chwarae!
cleifion sy’n cael strôc acíwt yn cael y cymorth brys sydd ar gael iddyn nhw yn ddigon cyflym ac yn colli allan ar gael triniaeth i ddileu clotiau. “Os credwch fod rhywun yn cael
strôc, dilynwch drefn HAST: gwendid yn eu Hwyneb, gwendid yn yr Aelodau, problemau i Siarad, yna Trowch at y ffôn i ffonio 999, i gael ambiwlans yn syth.” Gall oedi wrth gael help leihau’r
siawns o wella’n llawn, a gall olygu anableddau hirdymor neu hyd yn oed farwolaeth. Rhaid ymateb ar HAST; peidiwch byth ag oedi.
Mae'r Bartneriaeth Ddysgu yn dal i fynd o nerth i nerth ers symud i'w lleoliad newydd yn Llys Aur, Dafen yn 2012. Mae'r adeilad wedi cael ei ddarparu
o ganlyniad i rôl arweiniol Cyngor Sir Caerfyrddin yn rheoli'r Gronfa Datblygu Eiddo yn Ne-orllewin Cymru. Bydd y gronfa hon yn golygu bod
£27 miliwn yn cael ei wario ar adnewyddu ac adeiladu swyddfeydd ac adeiladau masnachol newydd erbyn 2015, a gwariwyd dros £360,000 o'r grant ar gost gyffredinol y prosiect hwn. Adeiladwyd y ganolfan newydd i safon uchel gan Davies Richards
Developments, Llandeilo, a bu dros 40 o bobl yn gweithio ar y prosiect adeiladu. Cafodd yr eiddo cyfagos, sydd ym
meddiant Glamorgan Motor Factors, hefyd ei adeiladu ag arian o'r Gronfa Datblygu Eiddo. Ariannwyd Cronfa Datblygu Eiddo
De-orllewin Cymru yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae'r cynllun rhanbarthol hwn dan
arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, mewn partneriaeth â Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Llywodraeth Cymru.
Ymgyrch Act FAST
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22