Wales
Canolfan Arloesi Busnes Springboard ~ Cymru yng Nghwmbrân yn dod yn lle delfrydol ar gyfer busnesau cychwynnol technoleg uwch
Hefyd, pan ddaw’n amser symud ymlaen, mae bwrdeistref sirol Torfaen yn cynnig amrywiaeth eang o leoedd i fusnesau am brisiau rhesymol gan gynnwys parciau busnes ac unedau swyddfa modern. Mae hyn yn golygu bod busnesau yn parhau i elwa o aros yn Nhorfaen sy’n cynnig:
cysylltiadau ardderchog trwy’r ffyrdd, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus
safleoedd agos at ddinasoedd Caerdydd a Bryste
ardaloedd manwerthu bywiog a threftadaeth ddiwydiannol gyfoethog
digon o bethau i’w gwneud y tu allan ar gyfer bywyd iach amrywiaeth o dai – rhywbeth i bawb
Canolfan Arloesi Busnes Springboard ~ Cymru yng Nghwmbrân yn dod yn lle delfrydol ar gyfer busnesau cychwynnol technoleg uwch
O fewn ychydig funudau o daith car o draffordd yr M4 yn ne ddwyrain Cymru, mae Springboard, Parc Llantarnam, Cwmbrân wedi bod yn gartref i gymuned o fusnesau cychwynnol technoleg uwch ers 2006.
Mae Springboard yn cynnig cyfleusterau deori llawn ac mae’n croesawu busnesau o nifer o sectorau digidol gan gynnwys TGCh, digidol, datblygiad meddalwedd, aml-gyfrwng, electroneg, Fintech a thelegyfathrebu, yn ogystal â chynnig bron i 2,500 metr sgwâr o ofod modern o ansawdd uchel ar 3 llawr ynghyd â mynediad i gyswllt rhyngrwyd yr adeilad.
Mae 35 o unedau busnes o feintiau gwahanol, ynghyd ag opsiynau desgiau poeth, cyfleusterau cyfarfod, ystafell bwrdd a mannau ar wahân yn sicrhau bod gan denantiaid pob dim sydd angen arnyn nhw i ddechrau eu busnes yn gyflym ac effeithlon.
Mae cynlluniau prisio hawdd dechrau a hawdd gadael heb daliadau gwasanaeth ychwanegol yn golygu bod modd i fusnesau gyllido gyda hyder.
Mae yna amrywiaeth o wasanaethau cefnogaeth i fusnesau, wedi eu haddasu i anghenion y busnes, ar gael yn ystod oriau gwaith arferol, tra bod y dderbynfa a’i staff a thîm rheoli’r safle’n golygu bod cleientiaid, ymwelwyr a busnesau fel ei gilydd yn elwa o wasanaeth blaen swyddfa broffesiynol a chyfeillgar. Mae lle i storio beiciau, cawod, ceginau cymunedol a pharcio am ddim hefyd yn golygu bod yna ddarpariaeth dda i staff.
Dywedodd Steve Jones, Prif Weithredwr y busnes Fintech, Comparison Creator sydd wedi ei leoli yn Springboard “Ar ôl sefydlu’r busnes yng Nghaerloyw yn 2010 roeddwn i’n awyddus i symud yn ôl i Gymru er mwyn tyfu’r busnes. Es i i gwrdd â’r tîm yn Springboard ac roeddwn i’n teimlo’n syth mai dyma’r lle iawn i ddechrau. Gyda dim ond 2 ohonom ni i ddechrau, rydym bellach yn 10 ac yn parhau i dyfu. Mae’r cyfleusterau’n ardderchog a buaswn i’n argymell y safle i unrhyw un sy’n ystyried Cymru fel safle i’w busnes.”
32
Byddem ni wrth ein bodd yn siarad â chi ynglŷn â dod â’ch busnes i Springboard, Torfaen yn 2020 ac o ddangos y safle i chi.
Cysylltwch â thîm Springboard, Economi a Mentergarwch Torfaen
Ffôn: 01633 647800 E-bost
sicreception@torfaen.gov.uk Ewch i
www.southwalesbusiness.co.uk Canolfan Arloesi Busnes Springboard Parc Llantarnam, Cwmbrân, Torfaen NP44 3AW
Mae AVoptics Ltd yn cyflogi gwyddonwyr, technegwyr a pheirianwyr hynod o gymwys ac mae’n arbenigo mewn darparu a datblygu opteg ffeibr peiriannol blaengar o ansawdd uchel ac atebion ffotonig i’w defnyddio mewn amgylcheddau anodd. Symudodd y busnes yn llwyddiannus o Springboard ym Medi 2019 ac maen nhw wedi aros yn Nhorfaen. Dywedodd y Cyfarwyddwr Technegol, Andrew Lee “Mae nifer o’n cleientiaid allweddol yn rhanbarth Cymru a’r de orllewin ac mae de Cymru’n lle perffaith, hygyrch ar gyfer ein busnes Ymchwil a Datblygu. Roedd Springboard yn cynnig hyblygrwydd, cyfleusterau gwych a chefnogaeth ardderchog i fusnesau. Roedd gwybod ein costau sefydlog hefyd yn ein galluogi i gyllido a lleihau ein risgiau.”
@TorfaenBizCymru
TorfaenEnterprise COMMERCIAL PROPERTY MONTHLY 2020
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24 |
Page 25 |
Page 26 |
Page 27 |
Page 28 |
Page 29 |
Page 30 |
Page 31 |
Page 32 |
Page 33 |
Page 34 |
Page 35 |
Page 36 |
Page 37 |
Page 38 |
Page 39 |
Page 40 |
Page 41 |
Page 42 |
Page 43 |
Page 44 |
Page 45 |
Page 46 |
Page 47 |
Page 48 |
Page 49 |
Page 50 |
Page 51 |
Page 52 |
Page 53 |
Page 54 |
Page 55 |
Page 56 |
Page 57 |
Page 58 |
Page 59 |
Page 60 |
Page 61 |
Page 62 |
Page 63 |
Page 64 |
Page 65 |
Page 66 |
Page 67 |
Page 68