THE HERALD FRIDAY JANUARY 27 2017
41 Newyddion Cymraeg
Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: Mae £3 miliwn ychwanegol ar gyfer prosiectau iaith
£3m i hybu’r Gymraeg
Genedlaethol sy'n gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth strategol i'r sector Cymraeg i Oedolion. Mae hyn yn cynnwys datblygu a darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn y gweithle, yn arbennig ar gyfer cyrff sy'n glynu wrth safonau'r Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi
MAE LLYWODRAETH Cymru
yn buddsoddi £3m yn ychwanegol yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn gwella a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle. Mae galluogi pobl i ddefnyddio'r
iaith yn y gwaith, ynghyd â sicrhau bod gan
y cyhoedd fynediad at wasanaethau Cymraeg o safon uchel, yn hanfodol er mwyn cyrraedd ein targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg. Y Ganolfan Dysgu Cymraeg
gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Genedlaethol i ddatblygu cynllun ar gyfer yr arian ychwanegol sydd wedi'i glustnodi yng nghytundeb cyllideb 2017-18 gyda Phlaid Cymru. Mae pum rhan i'r Cynllun: Gwybodaeth a chyngor i gyflogwyr ‘Cymraeg Gwaith’. Cyrsiau croeso / derbyniad ar- lein ‘Croeso Cymraeg Gwaith’. Cyrsiau Dwys ‘Dysgu Cymraeg
Gwaith’. Cyrsiau ar gyfer gweithlu'r
blynyddoedd cynnar ‘Cymraeg Cynnar’.
Cyrsiau preswyl i godi hyder
a darparu terminoleg arbenigol 'Defnyddio Cymraeg Gwaith'. Dywedodd Alun Davies,
Gweinidog y Gymraeg, wrth Aelodau'r Cynulliad: "Nod y Llywodraeth hon yw sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn unol â'r uchelgais a rannwn gyda Phlaid Cymru, rydym yn neilltuo £3m yn ychwanegol i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio ar lefel ehangach, ac annog mwy o bobl i'w defnyddio. "Bydd y buddsoddiad hwn yn
galluogi'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i roi cymorth ymarferol i gyrff, gan sicrhau eu bod yn gallu darparu gwasanaeth dwyieithog eithriadol i'r cyhoedd, a chydymffurfio â safonau'r Gymraeg." Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu
Cymraeg Genedlaethol: "Rydym yn croesawu'r cyllid ychwanegol hwn a fydd yn caniatáu i'r Ganolfan adeiladau ar yr hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni yn y sector Cymraeg i Oedolion yn y misoedd diwethaf, a rhoi mwy o gefnogaeth i dargedau’r Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg. "Mae rhoi blaenoriaeth i ddysgwyr
yn ganolog i waith y Ganolfan, a bydd y cyllid hwn yn arwain at fwy o gyfleoedd i unigolion sydd am ddysgu a gwella eu Cymraeg, i wneud hynny gyda chefnogaeth eu cyflogwr. "Bydd y cyrsiau 'Cymraeg Gwaith'
yn cael eu darparu ochr yn ochr â'r ddarpariaeth bresennol, ac rydym yn edrych ymlaen at gael gweithio gyda phartneriaid, cyflogwyr a'r Llywodraeth i gyflwyno'r rhaglen ddysgu newydd hon, a fydd yn cynnwys elfennau rhyngweithiol arloesol."
Fyfyrwyr yn derbyn ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg MEWN digwyddiad arbennig
mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi croesawu’r newyddion bod y nifer uchaf erioed o’i myfyrwyr wedi derbyn ysgoloriaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ystod y flwyddyn academaidd
hon mae 67 o fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant a Choleg Sir Gâr wedi derbyn un o ysgoloriaethau’r Coleg. Er mwyn nodi’r llwyddiant hwn cynhaliwyd seremoni arbennig yn y brifysgol er mwyn cyflwyno tystysgrifau i’r myfyrwyr llwyddiannus. Mewn cydweithrediad â’r Coleg
mae’r brifysgol a Choleg Sir Gâr wedi buddsoddi’n helaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn creu darpariaeth cyfrwng Cymraeg o’r newydd mewn meysydd megis Celf a Dylunio, Amaethyddiaeth, Astudiaethau
Chwaraeon,
Busnes, Blynyddoedd Cynnar, Gwaith Ieuenctid a Chymuned ac Astudiaethau Crefydd. Bellach mae’r rhan fwyaf o gyrsiau cyfrwng Cymraeg y Drindod Dewi Sant yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau’r Coleg. Dywedodd Gwilym Dyfri Jones,
Pro Is-Ganghellor Cysylltiol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Rydym yn falch iawn bod cynifer o’n myfyrwyr wedi llwyddo i ennill un o ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo’n llawn i ddarparu addysg o safon yn y Gymraeg a sicrhau bod gan ein myfyrwyr bob cyfle posib i astudio yn eu dewis iaith. “Dros y blynyddoedd diwethaf
rydym wedi buddsoddi’n helaeth mewn amrediad eang o feysydd er mwyn cynyddu ac ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol. Mae’r Brifysgol yn cydweithio’n agos iawn gyda’r Coleg er mwyn datblygu addysg flaengar cyfrwng Cymraeg ac rydym yn parhau i gynllunio er mwyn sicrhau bod darpariaeth a chyfleoedd pellach ar gael i’n myfyrwyr yn y dyfodol. “Roedd y seremoni yn achlysur
arbennig iawn ac roedd hi’n wych i weld y holl fyfyrwyr llwyddiannus yn cael y cyfle i ddod at ei gilydd i ddathlu ac i gymdeithasu.” Ychwanegodd Dr Hefin Jones,
Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a oedd yn bresennol yn y seremoni: “Mae’n rhoi cryn foddhad i mi fel
Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i weld cymaint y datblygiad sydd wedi digwydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ystod y
blynyddoedd diwethaf. Hynny, ar draws ystod o ddisgyblaethau; o berfformio a’r celfyddydau cain, i fusnes ac addysg gorfforol. Mae heddiw yn uchafbwynt i’r
datblygiadau hyn - rhannu’r nifer fwyaf erioed o Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ymysg myfyrwyr Cangen y Drindod Dewi Sant.”
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24 |
Page 25 |
Page 26 |
Page 27 |
Page 28 |
Page 29 |
Page 30 |
Page 31 |
Page 32 |
Page 33 |
Page 34 |
Page 35 |
Page 36 |
Page 37 |
Page 38 |
Page 39 |
Page 40 |
Page 41 |
Page 42 |
Page 43 |
Page 44 |
Page 45 |
Page 46 |
Page 47 |
Page 48 |
Page 49 |
Page 50 |
Page 51 |
Page 52 |
Page 53 |
Page 54 |
Page 55 |
Page 56 |
Page 57 |
Page 58 |
Page 59 |
Page 60 |
Page 61 |
Page 62 |
Page 63 |
Page 64 |
Page 65 |
Page 66 |
Page 67 |
Page 68 |
Page 69 |
Page 70 |
Page 71 |
Page 72