38 Newyddion Cymraeg
THE HERALD FRIDAY JANUARY 27 2017
Jonathan a’r criw yn dathlu dechrau’r Chwe Gwlad MAE PENCAMPWRIAETH
y Chwe Gwlad ar fin dechrau ac mae hynny'n golygu un peth – mae Jonathan yn ôl! Gyda digon o dynnu coes, gwesteion a heriau, dyma'r ffordd berffaith i ddechrau eich penwythnos o rygbi. Bydd y cyn-chwaraewr Cymru
a'r sylwebydd Jonathan Davies yn dychwelyd i'w gadair goch ar S4C nos Wener (Chwefror 3), cyn gêm gyntaf Cymru yn erbyn Yr Eidal ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad RBS ar ddydd Sul. Yn ymuno ag ef bydd y criw arferol - un o ddyfarnwyr rygbi gorau'r byd, Nigel Owens, ynghyd â'r cyflwynydd chwaraeon, Sarra Elgan Easterby. Mae'r drindod yma wedi gweithio
gyda'i gilydd am flynyddoedd ac yn hen gyfarwydd â thynnu coes ei gilydd. Ac mae Jonathan yn gwybod yn iawn sut i gael ymateb gan Sarra a Nigel! "Mae hi'n hawdd tynnu coes y
ddau, ond y ffordd rwydda' i gorddi Sarra yw dweud rhywbeth am sut mae hi'n edrych," meddai Jonathan Davies yn ddireidus. "A gyda Nigel, os bydda i'n ddweud ei fod wedi gwneud penderfyniad dyfarnu gwael, fe fydd e'n gandryll!"
Ond, yn ôl y cyflwynydd o
Drimsaran, mae cyfres Jonathan yn cynnig llawer mwy na banter rhwng ffrindiau. "Ar ddiwedd y dydd, y peth pwysig yw bod y gynulleidfa a'r gwesteion yn mwynhau eu hunain ac yn adrodd llwyth o straeon doniol, dyna beth sy'n goron ar y cyfan," meddai Jonathan. Ac maen nhw wedi cael eu siâr
o enwau mawr yn y stiwdio dros y blynyddoedd, o'r dewin bach Shane Williams a'r chwaraewr chwedlonol Gareth Edwards i'r cyflwynydd teledu Gethin Jones a'r actor Richard Harrington. Mae llawer mwy i ddod yn y
gyfres newydd hon, ac yn ymuno â'r tîm ar gyfer y rhaglen gyntaf mae'r canwr Aled Jones a'r actores Ffion Dafis sy'n chwarae arweinydd y Cenedlaetholwyr, Rhiannon Roberts, yn y gyfres ddrama Byw Celwydd bob nos Sul ar S4C. Ac yn nes ymlaen yn y Bencampwriaeth, bydd y cyflwynydd Sean Fletcher a’r ymladdwr cawell Brett ‘The Pikey’ Johns yn dod i sgwrsio, chwerthin a rhoi cynnig ar y gêm gicio 'Ar y Pyst'! Byddwn hefyd yn clywed pa her fydd yn wynebu
S4C’s Jonathan: Sarra Elgan Easterby, Jonathan Davies and Nigel Owens
Shane Williams ar 'Sialens Shane' ac yn gweld faint o hafoc bydd y 'Ryc a Rolwyr' yn ei greu ar strydoedd Cymru. Yng nghanol y miri, does dim
osgoi'r rygbi, ac wrth sôn am y Chwe Gwlad mae Jonathan wastad yn edrych ymlaen at bob gornest. Er hynny, mae'n credu bod y gêm gyntaf yn erbyn yr Eidalwyr yn hanfodol i
Gymru. "Os byddan nhw'n ennill y gêm gyntaf, fe wnaiff hynny roi llawer o hyder iddyn nhw ar gyfer gweddill y bencampwriaeth - a phwy a ŵyr beth all ddigwydd!"
Galw am docynnau yn arwain at adleoli gemau MEWN digwyddiad sy’n
arloesol i Pêl Rwyd Cymru, mae’r gemau hanesyddol yn erbyn yr ail ddetholion yn y byd, y ‘Silver Ferns’ yn Chwefror 2017, wedi eu hadleoli i Ganolfan Iâ Cymru, Caerdydd. Bu’n rhaid ail ystyried y lleoliad
oherwydd y galw anhygoel am docynnau nas gwelwyd erioed o’r blaen. Gwerthwyd yr holl docynnau am y gêm yng Nhanolfan Chwaraeon Cymru, Gerddi Soffia, wedi pedair awr ar hugain. Am y tro cyntaf erioed, bydd y Ganolfan, sy’n dal 3000 o bobl, yn westai i bêl rwyd rhyngwladol ar gyfer y goreuon yn y byd. “Roedd newid y lleoliad yn
benderfyniad enfawr i ni,” dwedodd Sarah Jones, Prif Weithredwr
Pêl Rwyd Cymru. “Serch hynny, mae’r galw anhygoel am docynnau wedi ein gorfodi i ail ystyried ac wedi chwarae rhan allweddol yn y penderfyniad. “Mae symud i gartref hoci iâ
Cymru, drwy gydweithio gyda’n partneriaid ‘Cardiff Devils’, wedi’n galluogi i roi llwyfan haeddiannol i bêl rwyd yng Nghymru ac ar draws y byd. “Bu’n ymgais hanesyddol a
llwyddiannus i ddod a thîm Seland Newydd i’r brif ddinas yn y lle cyntaf - yn gamp aruthrol, a’r tro cyntaf ers 20 mlynedd. “Drwy symud lleoliad, ‘rydym,
nid yn unig wedi gwrando ar ein haelodau a’n dilynwyr, ond ‘rydym yn cyflwyno pêl rwyd i gynulleidfa hollol newydd na fyddai fel arfer yn
cael y cyfle i brofi digwyddiad mor fawr. “Mae hybu chwaraeon i ferched
a menywod yn flaenoriaeth yma yng Nghymru ac yn y D.U., ac yn bendant gyda Chwaraeon Cymru,” medd Sarah Jones. “Mae hyn yn lwyfan i Pêl
Rwyd Cymru i ysgogi ac ysbrydoli y genhedlaeth nesaf o’r goreuon, yr elît, ond yn bwysicach fyth, i ysbrydoli menywod a merched ymhobman i chwarae pêl rwyd yn eu cymunedau am hwyl, rhesymau cymdeithasol a gwella iechyd. “Er fod y digwyddiad yn brawf
cystadleuol rhyngwladol fel unrhyw gêm arall gyda phwyntiau dethol i’w hennill, mae hefyd yn gyfle i gysylltu’r goreuon, yr elît, gyda’r Gymuned Pêl Rwyd – yn cynnig
cyfle unigyw i gefnogwyr y gêm ddod wyneb yn wyneb â chwaraewyr gorau’r ddwy wlad. “Mae’n gyfle i’r gêm i dyfu, i
ddatblygu, a gobeithio yn ysgogi llwyddiant ymhlith ei chefnogwyr.” Heblaw symud i leoliad sy’n dal
ddwywaith gymaint o bobl, mae Pêl Rwyd Cymru wedi sicrhau darllediad byw o’r ddwy gêm i’r cefnogwyr yn Seland Newydd, ac yn sgîl hynny, sicrhau sylw aml blatfform i gynulleidfa fyd eang. Gellir edrych ar y gemau ar lwyfannau ar-lein y BBC, ac wrth ddefnyddio Gwasanaeth Botwm Coch y BBC. Dangosir rhaglen o uchafbwyntiau ar S4C ar y Sul canlynol, y 12ed o Chwefror. “Mae’r sylw cyfryngol byd eang yn arwyddocaol i’r gamp yn ei
chyfanrwydd, nid yn unig i ni yng Nghymru,” dwedodd Sarah Jones. Bydd y ‘Silver Ferns’ yn cyrraedd
y brifddinas ar Sul y 5ed o Chwefror, yn dilyn eu hymgyrch yng nghyfres pêl rwyd y ‘Quad’ yn erbyn Lloegr, Awstralia a De’r Affrig. Byddant yn herio Cymru ar y 7ed a’r 8ed o Chwefror am 7.30 yr hwyr. Bydd Pêl Rwyd Cymru hefyd
yn paratoi digwyddiadau ymylol ar gyfer y gymuned bêl rwyd ar y 7ed o Chwefror yn y Ganolfan Iâ. Mwy o fanylion i ddilyn yn y man. “’Rydym yn edrych ymlaen yn
eiddgar i weld niferoedd sylweddol a theilwng yn cymryd mantais o’r digwyddiad unigryw hwn. Digwyddiad pêl rwyd nas gwelwyd erioed ei debyg yng Nghymru,” medd Sarah Jones.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24 |
Page 25 |
Page 26 |
Page 27 |
Page 28 |
Page 29 |
Page 30 |
Page 31 |
Page 32 |
Page 33 |
Page 34 |
Page 35 |
Page 36 |
Page 37 |
Page 38 |
Page 39 |
Page 40 |
Page 41 |
Page 42 |
Page 43 |
Page 44 |
Page 45 |
Page 46 |
Page 47 |
Page 48 |
Page 49 |
Page 50 |
Page 51 |
Page 52 |
Page 53 |
Page 54 |
Page 55 |
Page 56 |
Page 57 |
Page 58 |
Page 59 |
Page 60 |
Page 61 |
Page 62 |
Page 63 |
Page 64 |
Page 65 |
Page 66 |
Page 67 |
Page 68 |
Page 69 |
Page 70 |
Page 71 |
Page 72