THE HERALD FRIDAY FEBRUARY 3 2017
41 Newyddion Cymraeg
Edrych ymlaen at y 6 Gwlad RBS ar S4C AR DROTHWY blwyddyn taith y
Llewod i Seland Newydd, mae mwy o gyffro nag arfer wrth edrych ymlaen at y 6 Gwlad RBS eleni, yn ôl sylwebydd Clwb Rygbi Rhyngwladol, Gareth Charles. S4C yw'r unig ddarlledwr i ddangos
pob un o gemau Cymru yn y 6 Gwlad RBS eleni, ac mae'r sylwebydd profiadol yn rhan annatod o'r tîm cyflwyno. Bydd Gareth, sy'n hanu o Bont-henri yng Nghwm Gwendraeth, yn cael cwmni'r cyn-gapten Gwyn Jones yn y blwch sylwebu tra bydd y cyn-chwaraewyr rhyngwladol Shane Williams, Andrew Coombs, Dafydd Jones, Nicky Robinson a Deiniol Jones yn ymuno â'r cyflwynydd Gareth Rhys Owen yn ystod y Bencampwriaeth. Bydd S4C hefyd yn dangos dwy
o gemau tîm Cymru Dan 20 yn fyw, yn ogystal â gêm tîm y merched yn erbyn Iwerddon. Bydd
uchafbwyntiau gemau'r merched hefyd i'w gweld ar Clwb2, sy’n cael ei darlledu bob nos Sul. Gyda'r 6 Gwlad yn agosáu, cawsom
sgwrs gyda Gareth i glywed pwy a beth fydd yn debygol o greu argraff yn y gystadleuaeth.
Gyda Warren Gatland i ffwrdd efo'r
Llewod, Rob Howley yn cymryd ei le ac Alun-Wyn Jones yn cymryd lle Sam Warburton fel capten – mae'n gyfnod o newid i dîm Cymru. Wyt ti'n rhagweld Pencampwriaeth anodd i Gymru? Mae 'na lot fawr o bwysau ar Gymru
a Rob Howley i newid eu steil nhw a chwarae mwy o rygbi agored. Gan ein bod ni'n chwarae yn erbyn Yr Eidal yn y gêm gyntaf a gan fod pwyntiau bonws ar gael am y tro cyntaf eleni, mae 'na bwysau ar y garfan i ddechrau'n dda - er ein bod ni fel arfer yn cael dechrau gwael i bob cystadleuaeth. Pwy yw'r ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth eleni? 'Swn i'n dweud Lloegr. Mae'r
gwelliant maen nhw 'di 'neud o dan Eddie Jones yn rhyfeddol. Maen nhw'n chwarae rygbi da ac mae dyfnder gwirioneddol gyda nhw. Ond mae Iwerddon yn dynn ar eu sodlau ac ar ôl eu buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Seland Newydd yn ystod yr hydref, maen nhw’n fygythiad i Loegr. Pa chwaraewyr fyddi di'n edrych ymlaen at eu gweld eleni? I Gymru, yn amlwg, mae Taulupe Faletau ar ei ddydd yn un o'r goreuon
yn y byd. Mae gan Loegr Maro Itoje yn yr ail-reng, a hefyd y canolwr Jonathan Joseph, sydd yn rhywun sydd wastad yn creu problemau i Gymru. Mae Tommy Seymour a Stuart Hogg yn gallu creu argraff i'r Alban. Mae hi'n flwyddyn y Llewod, felly dwi'n credu y bydd hynny'n codi'r safon drwyddi draw. Efo'r holl ffactorau newydd – y
Llewod a'r pwyntiau bonws - faint wyt ti'n edrych ymlaen at y gystadleuaeth eleni? Eleni dwi'n edrych ymlaen yn fwy
nag arfer. Rwyi'n edrych ymlaen at gystadleuaeth y merched hefyd i weld sut maen nhw'n gwneud yn eu cartref newydd ym Mharc yr Arfau a bydda i'n sylwebu ar eu gêm yn erbyn Iwerddon. Bydda i'n sylwebu ar un o gemau'r tîm Dan 20 hefyd ac mae 'na wastad awyrgylch gwych lan ym Mharc Eirias ar gyfer y gemau yna. Mae'n bleser dilyn tîm y dynion i Rufain a Pharis hefyd, mae'n rhaid dweud. Pa atgofion 6 Gwlad (neu 5 Wlad) sy'n sefyll allan fwyaf i chdi? Yr un amlwg yw'r gêm lle sgoriodd
Scott Gibbs y cais bythgofiadwy yna yn y gêm yn Wembley - bydd hwnna 'da fi am byth. Y gêm hefyd lle rhoddon ni 30 o bwyntiau ar Loegr yng Nghaerdydd yn 2013, roedd hynny'n gêm ffantastig. Felly,
mae'n debyg mai buddugoliaethau dros Loegr yw'r prif atgofion. Wrth gwrs, yr un arall sy'n aros yn y cof yw'r fuddugoliaeth dros Iwerddon i ennill y Gamp Lawn yng Nghaerdydd yn 2005, o dan Mike Ruddock. Doeddwn i erioed 'di gweld
gymaint o dorfeydd yn y ddinas, ac roedd e'n ddiwrnod gwych. Clwb Rygbi Rhyngwladol: Yr Eidal
Dan 20 v Cymru Dan 20, Nos Wener 3 Chwefror 5.30, S4C. Sylwebaeth Saesneg ar gael.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24 |
Page 25 |
Page 26 |
Page 27 |
Page 28 |
Page 29 |
Page 30 |
Page 31 |
Page 32 |
Page 33 |
Page 34 |
Page 35 |
Page 36 |
Page 37 |
Page 38 |
Page 39 |
Page 40 |
Page 41 |
Page 42 |
Page 43 |
Page 44 |
Page 45 |
Page 46 |
Page 47 |
Page 48 |
Page 49 |
Page 50 |
Page 51 |
Page 52 |
Page 53 |
Page 54 |
Page 55 |
Page 56 |
Page 57 |
Page 58 |
Page 59 |
Page 60 |
Page 61 |
Page 62 |
Page 63 |
Page 64 |
Page 65 |
Page 66 |
Page 67 |
Page 68 |
Page 69 |
Page 70 |
Page 71 |
Page 72