38 Newyddion Cymraeg
THE HERALD FRIDAY FEBRUARY 3 2017
Cynlluniau draf addysg Gymraeg yn ‘ddi-uchelgais’
Darllenwyr yn Cael Blas ar Lyfrau Cymraeg
MAE CYNGOR Llyfrau
Cymru wedi derbyn adroddiad calonogol iawn gan gwmni ymchwil Beaufort Research yn dilyn arolwg o arferion darllen ymysg Cymry Cymraeg. Allan o'r 1,005 o siaradwyr
MAE RHAG wedi galw ar y
Gweinidog gyda chyfrifoldeb am yr Iaith Gymraeg i wrthod mwyafrif y Cynlluniau sydd wedi’u cyflwyno yn ddiweddar gan Awdurdodau Lleol i ddatblygu Addysg Gymraeg a gofyn i siroedd ail-lunio’r Cynlluniau hynny.
Dyma alwad y mudiad rhieni
cenedlaethol wrth i Alun Davies AC arfarnu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg gan siroedd i gynllunio datblygiad addysg Gymraeg dros y tair blynedd nesaf. Daw hyn ar ôl i Aelodau Cynulliad
fynegi pryderon tebyg mewn llythyr trawsbleidiol yr wythnos hon. Ar y cyfan bernir fod yr ail gylch
o Gynlluniau drafft sydd wedi’u cyflwyno yn annigonol ac yn ddi- uchelgais. Yn gyffredinol mae diffyg targedau pendant a mesuradwy. O ystyried mai oddeutu 22% o blant 7 oed sy’n derbyn addysg Gymraeg ar hyn o bryd, breuddwyd wag yw cyfrannu mewn modd ystyrlon at y targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r gwendidau’n cynnwys:
• Strwythur y targedau - ymddengys na fydd modd sicrhau unrhyw dwf o fewn y cylch 3 mlynedd gan fod y plant eisoes yn y system
• Ychydig iawn o fanylion am sut bydd y siroedd yn darparu rhagor o
leoedd ar gyfer addysg Gymraeg.
• Diffyg pwyslais digonol, neu yn achos nifer o’r siroedd, dim pwyslais o gwbl ar hyrwyddo addysg Gymraeg yn rhagweithiol er mwyn symbylu twf
• Ychydig iawn o wybodaeth am sut mae siroedd am roi gwybod i rieni am fanteision addysg Gymraeg a dwyieithrwydd.
• Mae angen i ehangu addysg Gymraeg fod yn faen prawf yn rhaglen cyllid cyfalaf Ysgolion 21G
Meddai Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG: “Rydym yn bryderus bod fframwaith presennol y CSGAau yn ddiffygiol. Mae angen cyfundrefn sydd yn addas at y diben, ac ar sail profiad o graffu ar set cyntaf y Cynlluniau ac wedi cael golwg ar Gynlluniau drafft 2017-20, mae’n ofid nad yw’r drefn bresennol yn gosod yr amodau gorau i gyrraedd y nod. “Mae’n glir nad yw’r mwyafrif
o’r Cynlluniau hyn wedi cyrraedd y safon ddisgwyliedig gan fod aneglurder sylweddol ynglŷn â’r dulliau y bydd awdurdodau lleol yn eu mabwysiadu i gyflawni’r targedau sy’n ddisgwyliedig ohonynt. “Mae RhAG yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymateb yn gadarn i hyn, ac yn pwyso ar y Gweinidog Addysg i ddefnyddio’r grymoedd sydd
yn ei feddiant i wrthod Cynlluniau gwan, cyffredinol ac amwys. Rhaid rhoi neges glir na fydd diffyg cydymffurfiaeth yn dderbyniol er mwyn cymryd y cyfle i droi consensws ac ewyllys gwleidyddol cenedlaethol yn weithredu o ddifrif ar lawr gwlad yn ystod ail gylch y Cynlluniau hyn.” Dywedodd llefarydd ar ran
Llywodraeth Cymru: "Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i baratoi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, a'u cyflwyno i Weinidogion Cymru eu hystyried. Yn y cynlluniau hyn, rhaid i awdurdodau lleol osod targedau heriol ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd. "Rhaid i'r cynlluniau hefyd nodi
camau gweithredu ar gyfer sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosib i bobl allu manteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg, a hynny ar draws yr holl gyfnodau addysgol. "Gall Gweinidogion gymeradwyo
cynlluniau, eu haddasu ac yna'u cymeradwyo, neu gallant eu gwrthod a pharatoi cynllun newydd ar gyfer awdurdod. Ni allwn wneud sylw am strategaethau unigol. "Fodd bynnag, mae Gweinidog y
Gymraeg wedi dweud yn glir ei fod yn disgwyl cynlluniau cryf ac uchelgeisiol ac y bydd yn herio unrhyw gynlluniau nad ydynt yn ddigon uchelgeisiol."
Cymraeg dros 16 oed a holwyd, roedd 24% yn darllen o leiaf un llyfr y mis o'i gymharu â 19% yn 2012 a 13% yn 2006. Yr oedd hefyd yn galonogol
bod y nifer sy'n darllen un llyfr y flwyddyn wedi aros yn sefydlog oddi ar yr arolwg diwethaf yn 2012 (44% yn 2016 o'i gymharu â 43% yn 2012). Bu cynnydd sylweddol hefyd yn y nifer oedd yn darllen llyfrau'n rheolaidd, gyda 36% yn darllen mwy na 10 llyfr y flwyddyn yn 2016. Roedd y ffigur hwn yn 28% yn arolwg 2012. Cadarnhawyd hyn ymhellach gyda chynnydd yn y nifer oedd yn darllen mwy na 20 llyfr y flwyddyn (20% yn 2016 o'i gymharu â 14% yn 2012). Comisiynwyd yr arolwg hwn
i arferion darllen a phrynu llyfrau Cymraeg gan y Cyngor Llyfrau, ac fe'i cynhaliwyd yn ystod gwanwyn a hydref 2016. Gofynnwyd i gwmni Beaufort Research hefyd gymharu'r canlyniadau â'r arolygon tebyg a gynhaliwyd yn 2003, 2006 a 2012. "Mae canlyniadau'r arolwg yn
galonogol unwaith eto," meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau. "Y mae'r diwydiant cyhoeddi wedi wynebu newidiadau yn ddiweddar, ond mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu awch y darllenwyr am lyfrau Cymraeg ac egni'r sector cyfan i ddarparu ystod o ddeunydd apelgar ar eu cyfer." Ychwanegodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a Seilwaith: "Rwyf yn falch o glywed am ganlyniadau'r arolwg hwn sy'n cadarnhau bod cyfran dda o siaradwyr Cymraeg yn ddarllenwyr rheolaidd. Mae'n tanlinellu unwaith eto rôl bwysig y diwydiant cyhoeddi yn cefnogi Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru a sicrhau parhad tymor hir yr iaith." Dengys yr arolwg mai nofelau
yw'r categori mwyaf poblogaidd ymysg y darllenwyr, gan adlewyrchu'r buddsoddiad a wnaed yn y maes dros y blynyddoedd diwethaf a llwyddiant y cyhoeddwyr i sicrhau cnwd o awduron newydd yn ogystal â chyfrolau gan enwau cyfarwydd. Fe welir hefyd fod llyfrau ar gyfer plant yn parhau'n hynod boblogaidd. Yn ogystal, bu'r arolwg yn edrych
ar batrymau prynu llyfrau Cymraeg gan holi hefyd sut mae'r cyhoedd yn dod o hyd i wybodaeth am y deunydd diweddaraf. Pwysleisir eto bwysigrwydd y siopau llyfrau fel ffynhonnell gwybodaeth a'r prif leoliad ar gyfer prynu llyfrau. Fel y byddid yn disgwyl, gwneir defnydd helaeth o'r we i ddod o hyd i wybodaeth am lyfrau, a gwelwyd cynnydd yn y nifer sy'n defnyddio'r we i brynu llyfrau (o 21% yn 2013 i 27% yn 2016). "Mae'r gyfres hon o arolygon
yn bwysig iawn i'r Cyngor Llyfrau a'r diwydiant cyhoeddi," meddai Arwel Jones o Adran Grantiau Cyhoeddi'r Cyngor, "ac mae'n braf cael tystiolaeth bod yr amrywiaeth o lyfrau Cymraeg a gyhoeddir yn plesio'r darllenwyr. Mae hyn yn sicr yn brawf o lwyddiant y diwydiant dros y blynyddoedd diwethaf."
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24 |
Page 25 |
Page 26 |
Page 27 |
Page 28 |
Page 29 |
Page 30 |
Page 31 |
Page 32 |
Page 33 |
Page 34 |
Page 35 |
Page 36 |
Page 37 |
Page 38 |
Page 39 |
Page 40 |
Page 41 |
Page 42 |
Page 43 |
Page 44 |
Page 45 |
Page 46 |
Page 47 |
Page 48 |
Page 49 |
Page 50 |
Page 51 |
Page 52 |
Page 53 |
Page 54 |
Page 55 |
Page 56 |
Page 57 |
Page 58 |
Page 59 |
Page 60 |
Page 61 |
Page 62 |
Page 63 |
Page 64 |
Page 65 |
Page 66 |
Page 67 |
Page 68 |
Page 69 |
Page 70 |
Page 71 |
Page 72