This page contains a Flash digital edition of a book.
THE PEMBROKESHIRE HERALD FRIDAY JANUARY 30 2015


Like us on Facebook facebook.com/thepembrokeshireherald


Rasio i ennill BYDD cyfres newydd Ralïo+


ar S4C yn dilyn campau'r gyrrwr ifanc o Ddolgellau, Elfyn Evans ymhob rali ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd 2015. Bydd y gyfres nôl ar y sgrin o fewn rhaglen chwaraeon Clwb ddydd Sul 1 Chwefror gyda seremoni agoriadol y bencampwriaeth a’r rownd gyntaf ym Monte Carlo. Cyn hynny dangosir uchafbwyntiau Cymal Cyffro (Power Stage) y rali ym Monte Carlo ar Clwb ddydd Sul nesaf 25 Ionawr. Hefyd bydd rhaglen Heno ar S4C


nos Wener 30 Ionawr yn cynnwys eitem ar y rali a'r seremoni agoriadol - seremoni y bydd un o gyflwynwyr Heno, y gantores a chyfansoddwraig o Sir Fôn, Elin Fflur yn canu ynddi o flaen cynulleidfa enfawr o’r byd chwaraeon, y cyfryngau a byd busnes yn y Café de Paris, Casino Square, Monte Carlo.


Cyn diddanu’r gynulleidfa, bydd Elin yn cael ei gyrru o amgylch trac Grand Prix Fformiwla 1 Monaco gan Elfyn Evans


yn yr M-Sport


Ford Fiesta fydd e'n gyrru yn y bencampwriaeth gyda'i gyd-yrrwr Daniel Barritt. Meddai Elin, "Dwi ddim yn siŵr


beth sy'n fwya' cyffrous - cael canu yn y seremoni agoriadol neu gael fy ngyrru rownd y trac gan Elfyn. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn i’r ddau brofiad. Dwi'n hoff o yrru ac mae cael y cyfle o fynd yn gyflym mewn car rali gyda gyrrwr saff fel Elfyn wedi bod yn dipyn o uchelgais gen i. Byddai'n gwireddu dau freuddwyd mewn un diwrnod a dweud y gwir gan fod canu mewn lleoliad fel y Café de Paris hefyd yn uchelgais. Dwi’n teimlo’n freintiedig iawn."


Mae Emyr Penlan, cynhyrchydd


ac un o gyflwynwyr Ralïo+, yn hyderus y bydd 2015 yn flwyddyn fawr i Elfyn Evans a ddaeth yn wythfed ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd y llynedd. "Fe wnaeth Elfyn yn dda'r llynedd - ei flwyddyn gyntaf ym mhrif gategori’r bencampwriaeth ac fe gaiff e bob cyfle eleni," meddai Emyr.


"Fe enillodd Elfyn y Cymal


Cyffro yn rali’r Almaen y llynedd, fe ddaeth yn bedwaredd mewn dwy rali a gorffennodd y flwyddyn drwy ddod yn bumed yn Rali Cymru GB. Ond blwyddyn o ddysgu ar y lefel uchaf oedd hi llynedd i Elfyn. Er hynny, fe gafodd e dipyn o lwyddiant a chwblhau bron bob rali yn y


bencampwriaeth. "Dwi’n siŵr y caiff e le ar y podiwm eleni drwy orffen yn y tri uchaf. Mae gydag e gyfle da i wella os wnaiff e gadw momentwm y llynedd. Bydd gwylwyr Ralïo+ yn cael y cyfle i'w ddilyn ymhob un o’r 13 rali yn y bencampwriaeth gan orffen unwaith eto gyda Rali Cymru GB ym mis Tachwedd."


Yn ogystal â dilyn pob rownd


o Bencampwriaeth Rali'r Byd, bydd Ralïo+ yn dal i ddangos uchafbwyntiau ralio a chwaraeon moduro a beicio mwy lleol yn ystod y gyfres newydd. Lowri Morgan yw cyd-


gyflwynydd Ralïo+ gydag Emyr Penlan. Wyn Gruffudd yw'r sylwebydd a Howard Davies, cyn cyd-yrrwr y pencampwr ralio, Gwyndaf Evans, tad Elfyn Evans, yw dadansoddwr arbenigol y gyfres.


57 Newyddion Cymraeg


René’r gaucho yn cofio dyddie Tyddewi HOELIWYD FY SYLW ar


y gyfrol oedd wedi'i gosod ar y cownter ar ben twr o lyfre eraill. Roedd rhywbeth yn ddeniadol yn y clawr. Lliwie cyfoethog. Gwynder copaon o dan orchudd o eira ac yna haul yn goleuo'r rhostir obry o amgylch y llyn. A'r teitl wedyn; 'Ramblings of a


Patagonian'. Gwyddai perchennog y siop lyfre bitw yng nghesel yr Eglwys Gadeiriol yn Nhyddewi sut i godi archwaeth ei


chyhoeddi oedd cyfrol


ar ddarllenydd. Newydd Eugenio


René Griffiths a rhaid oedd i mi ei phrynu. Teimlwn ramant wrth fodio'r tudalenne. Mae'r ddau ohonom yr un oedran


Ralio cefnogaeth: Elfyn Evans Croesawu ysgol Gymraeg i Sir Benfro WRTH ymateb i'r argymhellion


i ad-drefnu addysg fydd gerbron cynghorwyr Cyngor Sir Penfro wythnos nesaf dywedodd Bethan Williams, swyddog maes Dyfed Cymdeithas yr iaith:


"Er ei bod yn galonogol bod y cyngor yn cynyddu darpariaeth Gymraeg drwy agor ysgol Gymraeg 3-16 yn Hwlffordd byddwn ni am wybod beth fydd capasiti'r ysgol – fydd hi'n ddigon o faint? Rhaid gofyn hefyd pam nad oes darpariaeth ar gyfer y chweched dosbarth fel rhan o'r argymhellion. Pam fyddai disgyblion, sydd wedi derbyn


eu haddsyg yn


Hwlffordd, yn dewis mynd yr holl ffordd i Ysgol y Preseli yn hytrach nag i Goleg Sir Penfro? "Rydyn ni


hefyd yn annog


cynghorwyr i beidio fod dan gamargraff bydd ysgol newydd yn cael ei chreu drwy gyfuno ysgolion Dewi Sant a Bro Gwaun. Cau Ysgol Dewi Sant sydd, i bob pwrpas, byddai hynny'n ergyd i'r economi leol. Pam lai na ellid creu ysgol dwy safle, a defnyddio'r cyfle i newid categori iaith yr ysgol i 2A, fel bod disgyblion yn derbyn rhan sylweddol o'u haddysg drwy'r Gymraeg?” Ychwanegodd: “Rydym am eu


Mae ffigyrau yn dangos bod Dywedodd llywodraeth Cymru


bod y gostyngiad o ganlyniad i gau nifer o gyfrifon segur.


Cafodd yr ymgyrch hysbysebu gwerth £649,000 ei chyhoeddi ym mis Ebrill fel rhan o becyn gwerth £1.2 miliwn gan lywodraeth Cymru i hybu


hannog hefyd i beidio colli cyfle i wella'r ddarpariaeth yn ardaloedd Dinbych y Pysgod, ble bydd ysgol gynradd Gymraeg yn cael ei hagor flwyddyn nesaf a Doc Penfro ble mae'r uned Gymraeg yn llawn. Fydd darpariaeth uwchradd Cymraeg yn Hwlffordd yn gwneud fawr ddim gwahaniaeth iddyn nhw.


“Bydd yr hyn fydd yn cael ei benderfynu wythnos nesaf yn effeithio ar y sir gyfan am flynyddoedd i ddod felly mae'n hollbwysig fod sicrhau mynediad rhwydd at addysg Gymraeg ar draws y sir.”


Undebau Credyd: ‘Methu cystadlu’ â benthycwyr MAE’N “AMHOSIB” i undebau


aelodaeth undebau credyd.


credyd gystadlu â chyllidebau marchnata benthycwyr byr-dymor, yn ôl ffigwr blaenllaw yn y sector. Croesawodd Christopher Kay, cadeirydd Undeb Credyd Gogledd Cymru, ymgyrch hysbysebu ddiweddar gan lywodraeth Cymru i hybu nifer aelodau’r undeb credyd, ond dywedodd fod angen hyrwyddo’r gwasanaeth yn fwy cyson.


aelodaeth Gymreig o undebau credyd wedi gostwng 2.7% ers yr ymgyrch hysbysebu.


Dywedodd Mr Kay bod yr


ymgyrch - sy’n bodoli ers mis Ebrill 2014 - wedi bod yn “hynod o effeithiol. “Ond ar ôl cynyddu ymwybyddiaeth,


y peth gwaethaf


fyddai i golli hynny, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd,” meddai. “Os nad ydych yn atgoffa pobl yn gyson o bwy a beth ydych chi, yna yn araf byddwch yn pylu o’r cof.”


ond mae'r gŵr o Batagonia wedi byw bywyd llawer mwy cynhyrfus a mentrus na finne. Cofiaf ei lais hudolus pan ddaeth i Gymru yn y 1970au a'i ddull gwahanol o chwarae gitâr. Roedd yna ddireidi yn ei lyged ac agwedd nad oedd yn hidio am gonfensiwn na phrotocol. Buan y deallais beth oedd y tu ôl i hynny wrth ddarllen y nodiade honedig wasgarog hyn. Magwraeth. Pan fyddwch yn ddibynnol ar y dirwedd o'ch cwmpas am fywoliaeth a rheidrwydd i brofi'n feistr ar yr elfenne, synno'r confensiwn o orie sefydlog a phatrwm pendant i bob diwrnod yn bodoli. Megir ysbryd rhydd. Mae carlamu ar gefn ceffyl a


theimlo'r gwynt yn eich mwng, a hynny o ran rheidrwydd teithio a hela ac nid o ran gweithgaredd orie hamdden a segurdod, yn gwneud dyn a chreadur gwahanol ohonoch. Sefydlir perthynas ddibynnol rhwng dyn a cheffyl. Dim ond y sawl sy'n ishte mewn cadair freichie sy'n gweld rhamant yn y fath ffordd o fyw. Ond mae René yn wahanol i'r


Patagoniad cyffredin. Nid yw'n arddel y gwerthoedd Archentaidd-Cymreig fel y cyfryw. Gwerthoedd y paith yw ei eiddo. Mae'n eu rhannu â'r Tehuelche a'r guanacos a'r Ewropeaid eraill a ymsefydlodd ar hyd y tirwedd maith. Mae hynny'n chwa o awyr iach. Hwyrach bod gan hynny rhywbeth i'w wneud â'r ffaith nad un o'r gweisg adnabyddus sydd wedi cyhoeddi'r llyfr ond cyhoeddwr a sefydlwyd yn benodol ar gyfer cyflawni'r dasg. Mae René wedi teithio'n helaeth yn Ne America ac ar draws Ewrop.


Cawn hanes y siwrneion a'r helyntion. Treuliodd gyfnod yn Nhyddewi. Ni wnaf ddatgelu manylion. Ond teg dweud fod yna gryn sylw i’r Farmers Arms a’r Walpole Court ac i rocesi. Neilltuir pennod gyfan i adrodd


yr hanes a disgrifiad yr awdur ei hun yw bod yna 'lawer o chwerthin iach a synnwyr cryf o orffwylledd' yn nodweddu pobol y penrhyn. Cewch chi farnu drosoch eich hun. Mae’n ddarlun gwahanol. Ond mae'n debyg fod René i'w weld yn gyson yn y bore bach ar gefn Lleucu, y gaseg palomino, a hynny heb gyfrwy, yn trotian os nad yn galapo o amgylch y strydoedd. Mynnai gynnal y gynneddf honno sy'n ymwneud â'r ymdeimlad o oroesi sy'n amlygu ei hun ar doriad gwawr sy'n perthyn i ddyn ac anifail. Nid trin y gaseg fel anifail anwes neu gelficyn hardd a wnâi. Ar drothwy dathlu 150 mlynedd


ers i'r Cymry geisio sefydlu gwladfa ym Mhatagonia mae'r 300 tudalen hwn o lyfr gystel ag unrhywbeth i ganfod naws y bywyd y bu rhai ohonyn nhw'n ei fyw. Mae'n bendramwnwgl o lyfr sy'n ein tywys i gyfeiriadau annisgwyl. Byddaf yn ei gadw ar fy silff yn


agos at fy nghopi o 'The Autobiography of a Supertramp', W. H. Davies; 'Y Tincer Tlawd' sef hunangofiant Tom Macdonald a heb fod ymhell fydd cyfrol Jack Kerouac, 'On The Road'. Cyfrole oll gan awduron sy wedi trafaelu a blasu bywyd. Ymddengys mai dilyn y 'duende' fu hanes René. Clywais rywun yn cymharu ei


arddull a'i straeon i'r newyddiaduriaeth 'gonzo' a boblogeiddiwyd gan Hunter Thompson mewn llyfre fel 'Fear and Loathing in Las Vegas'. Tipyn o ddweud ac nid heb sail. Ceir yr annisgwyl a'r anghonfensiynol trwyddi draw a hynny'n ddiflewyn-ar-dafod. Cawn ein cyflwyno i bobl sydd ar ryw olwg yn bobl gyffredin yn hytrach na phobl barchus ac adnabyddus. Ond buan y gwelwn eu bod yn bobl anghyffredin mewn llawer dull a modd. Mae René'r gaucho yn gwybod sut i wneud defnydd o 'hacienda' a sut i fwynhau 'asada' wrth glymu clyme cyfeillgarwch. Gaucho o Gymro yw’r crwt.


Sgwn i pa lyfr fydd ar gownter


Chris Taylor y tro nesaf y rhôf waedd arno yn ei siop?


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22  |  Page 23  |  Page 24  |  Page 25  |  Page 26  |  Page 27  |  Page 28  |  Page 29  |  Page 30  |  Page 31  |  Page 32  |  Page 33  |  Page 34  |  Page 35  |  Page 36  |  Page 37  |  Page 38  |  Page 39  |  Page 40  |  Page 41  |  Page 42  |  Page 43  |  Page 44  |  Page 45  |  Page 46  |  Page 47  |  Page 48  |  Page 49  |  Page 50  |  Page 51  |  Page 52  |  Page 53  |  Page 54  |  Page 55  |  Page 56  |  Page 57  |  Page 58  |  Page 59  |  Page 60  |  Page 61  |  Page 62  |  Page 63  |  Page 64  |  Page 65  |  Page 66  |  Page 67  |  Page 68  |  Page 69  |  Page 70  |  Page 71  |  Page 72  |  Page 73  |  Page 74  |  Page 75  |  Page 76  |  Page 77  |  Page 78  |  Page 79  |  Page 80  |  Page 81  |  Page 82  |  Page 83  |  Page 84  |  Page 85  |  Page 86  |  Page 87  |  Page 88