56 Newyddion Cymraeg
THE PEMBROKESHIRE HERALD FRIDAY JANUARY 30 2015
Follow us on Twitter @pembsherald
Ffermwyr llaeth sefyllfa trafod RHAID I LYWODRAETH ganddynt
CYMRU wneud mwy i hyrwyddo diwydiant llaeth Cymru wrth iddo wynebu her ddifrifol yn wyneb storm berffaith.
Dyna oedd neges Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau Cynaliadwy, Ynni a Bwyd, Llyr Gruffydd wrth iddo arwain dadl Plaid Cymru yn y Cynulliad ar y mater. Anogodd
Llyr Llywodraeth i Gruffydd weithredu y lle mae all, a siarad o blaid
mesurau y gallai eraill eu cyflwyno wrth i ostyngiad dramatig ym mhris llaeth adael y diwydiant yn wynebu un o’i gyfnodau caletaf. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
Ymdrechu’n galetach fyth i ychwanegu gwerth at laeth Cymreig trwy gynyddu prosesu lleol Gwell arferion caffael
i annog
defnyddwyr i ddewis cynnyrch lleol a gwella marchnata llaeth Cymreig
Datgan yn glir eu cefnogaeth i
ehangu rôl y Dyfarnwr Cod Bwydydd i gynnwys ffermwyr llaeth
Cefnogi cryfhau’r Cod Llaeth sydd yn rhoi mwy o warchodaeth i ffermwyr llaeth yn eu perthynas gontractaidd gyda phroseswyr llaeth Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau Cynaliadwy, Ynni a Bwyd, Llyr Gruffydd: “Mae ffermwyr llaeth wedi eu taro’n galed yn ddiweddar gan gadwyn o ddigwyddiadau sydd wedi
Adolygu dynladdiad domestig Ceredigion
MAE PANEL ADOLYGU DYNLADDIAD DOMESTIG CEREDIGION yn ceisio derbyn cymorth y Cyhoedd mewn cysylltiad â Dynladdiad Domestig. Ar Mawrth 3, cafodd corff Patricia Durrant ei ddarganfod yn ei chartref yn Clydfan, Stryd Fawr, Llandysul. O ganlyniad, cynhaliwyd archwiliad dynladdiad gan Heddlu Dyfed-Powys a arweiniodd at gyhuddo James Hamilton a oedd yn cyd-fyw â hi, o lofruddiaeth. Yn unol â gofynion
Deddf
Trais yn y Cartref, Troseddau & Dioddefwyr, 2004, adolygwyd y mater gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion, a chymerwyd penderfyniad i gynnal
Adolygiad
Dynladdiad Domestig i’r amgylchiadau a arweiniodd ar y farwolaeth drasig hon.
Diben Adolygiad Dynladdiad Domestig yw ceisio gwella’r ymateb i drais domestig ac anelu at atal
achosion o’r fath rhag digwydd eto. Nid yw'r adolygiadau yma yn ceisio gosod bai, ond ystyried yr hyn sydd wedi digwydd, a beth y gellid bod wedi'i wneud yn wahanol. Mae'r Adolygiadau hefyd yn argymell camau i wella ymatebion i sefyllfaoedd trais domestig yn y dyfodol. Mae’r Panel Adolygu Dynladdiadau Trais Domestig yn yr achos hwn yn cael ei gyd-gadeirio gan yr Athro John Williams a Kate Williams, y ddau ohonynt yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol
Aberystwyth.
Mae’r rhai sydd yn cymryd rhan ar y panel yn cynnwys uwch gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Awdurdod Lleol Ceredigion, Heddlu Dyfed- Powys, Fforwm Cam-drin Domestig a Meddyg Teulu sydd yn gweithio YNG Ngheredigion.
Ymddangosodd James Hamilton,
y diffynnydd yn yr achos hwn, yn Llys y Goron Abertawe ar 31ain o Hydref, 2014, lle blediodd yn ac yn euog o
Ddynladdiad ar sail nad oedd yn llawn gyfrifol. Derbyniwyd y ble gan y Barnwr, ac mae wedi bod yn destun Gorchymyn Ysbyty gydag Adran 41 o'r gofyniad Deddf Iechyd Meddwl, sy'n golygu nad yw'n gallu cael ei ryddhau heb gydsyniad yr Ysgrifennydd Cartref neu Dribiwnlys Iechyd Meddwl. Gyda’r achos troseddol ar ben, mae rhwydd hynt yn awr i gyd-gadeiryddion y Panel Adolygu Dynladdiadau Trais Domestig nawr i wahodd y Cyhoedd i gyfrannu at yr Adolygiad. Mae'r Panel wedi ymrwymo i geisio derbyn ymateb cymunedol gyda'r golwg i gynorthwyo gyda'i gwaith, gan gynnwys adnabod ffyrdd y gall pob asiantaeth gydweithio'n well gyda'r cyhoedd.
Os teimlwch fod gennych unrhyw beth i’w gyfrannu, byddem yn gwerthfawrogi pe byddech yn cysylltu gyda ni naill ai’n ysgrifenedig neu’n ffonio, drwy’r sianelau canlynol;
Ffermwyr “storm Perffaith”: Llyr Grufudd Llai o bobl yn marw o ddiabetes yng Nghymru MAE NIFER y bobl sy’n marw o
gyflyrau sy’n gysylltiedig â diabetes yng Nghymru yn parhau i ostwng, tra bod cyfanswm y gost i GIG Cymru o ddarparu gofal ar gyfer yr afiechyd yn fwy na hanner biliwn o bunnau’r flwyddyn, yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Cymru.
Mae adroddiad blynyddol cyntaf Cymru gyfan ar ofal diabetes y GIG yn disgrifio’r cynnydd a wnaed yn erbyn cynllun Llywodraeth Cymru, Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes, dros y 12 mis diwethaf. Ymysg y prif ganfyddiadau mae’r
canlynol: Roedd gwariant mewn ysbytai
yng Nghymru yn 2012-13 ar ddiabetes bron â chyrraedd £90m, sy’n gynnydd o 4% o’i gymharu â 2011-12. Mae gwariant gan y GIG ar
ofal sy’n gysylltiedig â diabetes yn gyfanswm o bron i £500m y flwyddyn; Yn 2013, bu farw 300 o bobl oherwydd diabetes. Mae hyn wedi gostwng o 420 o farwolaethau yn 2009;
Mae hanner yr holl farwolaethau oherwydd diabetes
yn deillio
o glefyd cardiofasgwlaidd gan gynnwys trawiadau ar y galon a strociau. Yn 2001, yng Nghymru, bu farw bron 14,000 o bobl o glefyd cardiofasgwlaidd. Erbyn 2011 roedd y cyfanswm hwn wedi gostwng i ychydig dros 9,000 o farwolaethau; Bu gostyngiad o fwy na 230 o
gleifion yn nifer y derbyniadau brys ar gyfer pobl ddiabetig, o 2,815 i 2,584 rhwng 2010 a 2013. Amcangyfrifir bod tua 66,000 o bobl â diabetes math 2 heb ei ddiagnosio yng Nghymru.
Mae pobl sy’n byw mewn rhannau
tlotach o Gymru’n fwy tebygol o ddioddef diabetes a’i gymhlethdodau na’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy ffyniannus; Mae rhwng 2 a 10% o famau
beichiog yn datblygu diabetes yn ystod beichiogrwydd, sy’n ei wneud yn un o’r problemau iechyd mwyaf cyffredin yn ystod beichiogrwydd; Dywedodd 84% o’r cleifion
mewnol eu bod yn fodlon neu’n fodlon iawn â’r gofal cyffredinol am eu diabetes tra’r oeddent yn yr ysbyty. Nid yw 60% o’r oedolion â diabetes math 1 a 33% o’r oedolion
â diabetes math 2 yn cael y profion a’r archwiliadau
blynyddol sy’n
gysylltiedig â’r safonau cenedlaethol. Dywedodd y Dirprwy Weinidog
Iechyd Vaughan Gething: Fel gwlad rydyn ni’n wynebu cynnydd enbyd yn nifer y bobl sydd â diabetes. Y gwirionedd yw mai diabetes math 2 sy’n gyfrifol am lawer o’r cynnydd hwn oherwydd y boblogaeth sy’n heneiddio a bod llawer ohonom dros bwysau. Mae gan hyn oblygiadau difrifol i iechyd pobl ac mae’n rhoi pwysau ychwanegol ar ein GIG. O roi hynny yn ei gyd-destun, rydyn ni bellach yn gwario £500m y flwyddyn ar ofal sy’n gysylltiedig â diabetes allan o gyllideb iechyd o £6 biliwn y flwyddyn. Rydyn ni’n cymryd camau i roi diagnosis i bobl â diabetes cyn gynted â phosib a lleihau nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r cyflwr. Er ein bod yn gwneud cynnydd da, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb personol i ofalu am ein hiechyd ein hunan a sicrhau nad ydyn ni’n rhoi ein hunan yn agored i ddiabetes. Dywedodd Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru:
gostwng eu hincwm. Gyda thoriadau enbyd mewn prisiau llaeth wrth glwyd y fferm a chostau cynhyrchu uwch, mae ffawd cynhyrchwyr llaeth mewn cyflwr bregus iawn. “Ers ei gyflwyno ddwy flynedd yn ôl, rhybuddiodd Plaid Cymru fod rôl y Dyfarnwr Cod Bwydydd yn rhy gyfyng, oedd yn ei atal rhag amddiffyn ffermwyr llaeth yn ddigonol.
“Mae’n bryd ymdrin â hyn. Dylai Llywodraeth Cymru roi eu pwysau y tu ôl i argymhellion allweddol adroddiad Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig San Steffan i ymestyn cylch gorchwyl y sefydliad. Dylai hefyd edrych ar
arferion marchnata a chaffael er mwyn cael y mwyaf ag sydd modd i laeth a chynnyrch llaeth gael eu defnyddio gartref. “Yn y tymor byr, mae ar ffermwyr angen y cyngor a’r gefnogaeth orau i ymdrin â phroblemau llif arian difrifol iawn, ac yn y tymor hwy, rhaid i ni hefyd weld mwy o fuddsoddi mewn seilwaith er mwyn gwella effeithiolrwydd yn y sector. “Bu’r diwydiant llaeth yng Nghymru ar drugaredd storm berffaith, felly mae’n hanfodol bod y llywodraeth yn gwneud yr hyn fedr i gefnogi’r diwydiant trwy’r amseroedd anodd hyn.”
Rwy’n falch ein bod yn gwneud cynnydd o ran diabetes, ac mae llawer o’r clod am hyn i’r staff ymroddedig sy’n gweithio’n ddiflino i gefnogi cleifion a gofalwyr i reoli eu salwch. Mae angen inni adeiladu ar hyn a cheisio gwneud gwelliannau pellach i bobl Cymru.
Bydd angen ymdrech ar y cyd
rhwng y gwasanaeth yn GIG Cymru ac aelodau’r cyhoedd. Gordewdra yw’r prif ffactor risg ar gyfer diabetes math 2 ymhob oedran. Yn 2013 roedd 58% o holl oedolion Cymru dros bwysau neu’n ordew. Golyga hyn fod angen i lawer ohonon ni newid ein ffordd o fyw os ydym i fynd i’r afael â diabetes yn effeithiol yn y dyfodol.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24 |
Page 25 |
Page 26 |
Page 27 |
Page 28 |
Page 29 |
Page 30 |
Page 31 |
Page 32 |
Page 33 |
Page 34 |
Page 35 |
Page 36 |
Page 37 |
Page 38 |
Page 39 |
Page 40 |
Page 41 |
Page 42 |
Page 43 |
Page 44 |
Page 45 |
Page 46 |
Page 47 |
Page 48 |
Page 49 |
Page 50 |
Page 51 |
Page 52 |
Page 53 |
Page 54 |
Page 55 |
Page 56 |
Page 57 |
Page 58 |
Page 59 |
Page 60 |
Page 61 |
Page 62 |
Page 63 |
Page 64 |
Page 65 |
Page 66 |
Page 67 |
Page 68 |
Page 69 |
Page 70 |
Page 71 |
Page 72 |
Page 73 |
Page 74 |
Page 75 |
Page 76 |
Page 77 |
Page 78 |
Page 79 |
Page 80 |
Page 81 |
Page 82 |
Page 83 |
Page 84 |
Page 85 |
Page 86 |
Page 87 |
Page 88