THE HERALD FRIDAY JANUARY 20 2017
41 Newyddion Cymraeg
Dewch i ddathlu Dydd Santes Dwynwen mewn steil WRTH i Flwyddyn Chwedlau
ddechrau o ddifrif, mae Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc Gallery ynghyd â Phentref Oes Haearn Castell Henllys yn cynnal digwyddiadau arbennig i ddathlu Santes Dwynwen, Nawddsant Cariadon Cymru. Bydd y ddau atyniad, sy’n
cael eu cynnal gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn eich helpu i ddysgu mwy am y stori garu chwedlonol a Dydd Santes Dwynwen, sy'n cael ei ddathlu ar Ionawr 25. Dywedodd Rheolwr Castell
Henllys ac Oriel y Parc, Jenn Jones: “Mae Dydd Santes Dwynwen wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf, a pha bryd gwell i gyflwyno hanes trasig Dwynwen i fwy fyth o bobl nag ym Mlwyddyn Chwedlau? “P’un ai a ydych chi am greu
rhywbeth bach i gofio i'w roi i'ch partner neu am fynd allan am bryd o fwyd gyda rhywun sy’n agos at eich calon ar Ddydd Santes Dwynwen,
mae'r digwyddiadau hyn yn siŵr o roi hwb i’ch calon a dod â’r chwedl yn fyw.”
I’r rheini ohonoch sydd am greu
rhodd siâp calon unigryw i'w rhoi i rywun arbennig, bydd Oriel y Parc yn Nhyddewi yn cynnal gweithdy ‘Creu calon ar gyfer Dydd Santes Dwynwen’ rhwng 2 a 4 pm bnawn dydd Sadwrn, Ionawr 21. Mae’n rhaid i chi archebu lle.
Ffoniwch 01437 720392 i gadw eich lle. £3 y pen. Bydd Pentref Oes Haearn Castell
Henllys yn cynnal swper Dydd Santes Dwynwen ar nos Fercher, Ionawr 25, mewn partneriaeth â Chaffi'r Sgubor. Bydd cyfle i bobl fwynhau noson
ramantus o 7pm ymlaen gyda phryd dau gwrs Cymreig traddodiadol a bydd y band gwerin lleol, Quarto, yno i'ch diddanu, drwy chwarae cyfuniad o ganeuon traddodiadol, modern a gwreiddiol. Pris y tocynnau fydd £20 ac mae’n
hanfodol eich bod yn archebu lle. Ffoniwch 01239 891319 i gadw lle.
Bydd cyfle i bobl fwynhau noson ramantus yng Nghastell Henllys ar Ionawr 25: Gyda phryd dau gwrs a bydd y band gwerin lleol, Quarto, yno i’ch diddanu
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24 |
Page 25 |
Page 26 |
Page 27 |
Page 28 |
Page 29 |
Page 30 |
Page 31 |
Page 32 |
Page 33 |
Page 34 |
Page 35 |
Page 36 |
Page 37 |
Page 38 |
Page 39 |
Page 40 |
Page 41 |
Page 42 |
Page 43 |
Page 44 |
Page 45 |
Page 46 |
Page 47 |
Page 48 |
Page 49 |
Page 50 |
Page 51 |
Page 52 |
Page 53 |
Page 54 |
Page 55 |
Page 56 |
Page 57 |
Page 58 |
Page 59 |
Page 60 |
Page 61 |
Page 62 |
Page 63 |
Page 64 |
Page 65 |
Page 66 |
Page 67 |
Page 68 |
Page 69 |
Page 70 |
Page 71 |
Page 72