search.noResults

search.searching

note.createNoteMessage

search.noResults

search.searching

orderForm.title

orderForm.productCode
orderForm.description
orderForm.quantity
orderForm.itemPrice
orderForm.price
orderForm.totalPrice
orderForm.deliveryDetails.billingAddress
orderForm.deliveryDetails.deliveryAddress
orderForm.noItems
38 Newyddion Cymraeg


THE HERALD FRIDAY JANUARY 20 2017


Mewn sgwrs â Rhodri Glyn Tomas


Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Rhodri Glyn Thomas yn Llywydd


MEWN adroddiad a gweithgor


wnaeth Rhodri Glyn Thomas ei gadeirio, i wneud efo’r iaith Gymraeg, cawsom sgwrs efo Rhodri am yr iaith, am galwad y gynghorydd Emlyn Dole am ledu’r defnydd o’r iaith yn yr wasanaethau cyhoeddus. Mae Rhodri yn cefnogi galwad


arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y cynghorydd Emlyn Dole i ledu’r defnydd o’r iaith Gymraeg trwy’r gwasanaethau cyhoeddus, eglurodd


Gadael y llwyfan gwleidyddol: Dros dro!


pam: “Mae’n bwysig dwi’n meddwl bod unrhyw un sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gyda rhyw gymaint o allu i ddefnyddio’r iaith Gymraeg ac ma na wahanol lefelau o fod gallu yn y Gymraeg a mae’n bwysig cyfansoddi rheini trwy’r Gymraeg fel ein bod ni yn gallu datblygu gwasanaethau yng Nghymru sydd yn gwbl ddwyieithog.” Gofynnais iddo sut fyddai yn gosod


lefel sylfaenol oherwydd mae gan bob ardal lefelau gwahanol, eglurodd:


Ar y llwybr ymgyrch:


Gydag Elin Jones


“Bydde lefelau yn amrywiol, bydde fe yn amrywiol yng Nghymru yn ôl yr ardal daearyddol, bydde ddim just cael yr un math o allu i cyfathrebu trwy gyfrwng Cymraeg yn Sir Fynwy a yn Gwynedd, ond mewn Sir Gaerfyrddin bydde rhywun yn dweud ond fel mae nhw yn datblygu o fewn y gwasanaeth fe fydde yr angen i gymhwyso yn cynyddu fe yn dibynnu ar bwy fath o waith sydd gyda nhw a beth yw gyfunion y gwaith.” Mae gan Rhodri bryderon am yr


targed mae’r llywodraeth wedi osod i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ond mae’n obeithiol y byddwn yn cyrraedd y nod , gwnaeth ddweud bod dim strategaeth clir efo nhw: “Yn anffodus ar hyn o bryd rwy ddim yn gweld fod na strategaeth glir gan y llywodraeth i gyrraedd y nod ac os i ni am gyrraedd y targed bydd rhaid i nhw seilio hynny ar gyn luniaeth ieithol manwl iawn, dw i ddim yn gweld hynny yn digwydd ar hyn o bryd a dw i’n siomedig iawn bod y llywodraeth wedi gwrthod gweithio i ni a chymhellion mwyaf a ma hwnna’n dangos diffyg uchelgais ar i rhan nhw a dwi’n ofni bod e’n golygu bod yn anodd iawn i chyrraedd y ffigwr hynny o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”


Gofynnais gwestiwn


damganiaethol iddo,am os fydde fe yn y llywodraeth pa strategaeth bydde yn cymryd i hybu’r iaith, egluroredd fod angen cyfleoedd ac yn addysg i sicrhau fod plant sydd yn ei dysgu yn y Gymraeg i feistroli’r iaith: “Dwi’n meddwl y peth pwysicaf i wneud yw ein bod yn cyfansoddi cyfleoedd y cynnig y cyfle i o rhan addysg i sicrhau fod pob plentyn sy’n cael ei ddysgu yng Nghymru yn cael y cyfle i feistroli y Gymraeg ond wedi hynny ma rhaid i ni sicrhau fod na gyfleoedd ar gael i nhw ddefnyddio’r Gymraeg wedi iddyn nhw adael yr ysgol ac ma fe yn creu cyfleusterau cyhoeddus trwy Gymru sydd yn gwbl ddwyieithog yn golygu bod na swyddi ar gael i blant sydd wedi cael eu dysgu yn y Gymraeg i ddefnyddio y Gymraeg yn y gweithle. “Felly mae’r ddau beth yn bwysig


dwi’n credu yn yr ateb cyntaf i bobl gael cyfle dysgu Cymraeg ac yn yr ail le yw ei bod nhw yn cael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg o rhan eu gwaith a hefyd yn gymdeithasol wedi i nhw adael yr ysgol” Yn siarad am bobl sydd yn


defnyddio’r we, fel Facebook a Twitter, dywedodd bod yr iaith Gymraeg yn bwysig ym mhob elfen o fywyd: “Maen bwysig fod pobol yn defnyddio’r Gymraeg a bod y Gymraeg yn iaith sydd yn ymwneud


Meddylgar: Rhodri Glyn Thomas


a phob elfen o fywyd yng Nghymru.” Yn sôn am sut gall gynghorau


ddilyn esiampl arweinydd cyngor Gwynedd, dywedodd bod camau yn cael ei gymryd ond mae angen cefnogaeth y llywodraeth i weithredu’r polisïau: “Felly ma na bethau da yn digwydd ond mae’n bwysig iawn bod y cynghorau yn cael cefnogaeth llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod nhw yn gallu gweithredu y fath o argymhellion fel bod ni mewn sefyllfa lle nifer rhanbarthau o Cymraeg fel Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Fon a Sir Conwy bod y gwasanaethau er enghraifft yn y cynghorau yn gwbl ddwyieithog a fel fod na ddatblygu ar y defnydd o’r iaith Gymraeg oherwydd bod ardaloedd sydd yn traddodiadol wedi bod yn Saesneg Cymru fel gogledd dwyrain Cymru a de ddwyrain Cymru.” Mae addysg wedi cael effaith ar


hwn: “Ma addysg Gymraeg yn golygu a raddfau cyflym iawn, ma mwy o siaradwyr Cymraeg i weld o ardaloedd hynny ac felly mwyafrif i sicrhau fod gwasanaethau ar eu cyfer nhw yn y Gymraeg.” Ynglŷn a’r strategaeth iaith yng


Nghyngor Sir Gar, dywedodd fod gweithredu’r strategaeth yn beth da ar gyfer y Sir: “Bod ni hanner poblogaidd Sir Gaerfyrddin yn siarad Cymraeg a mae’n bwysig iawn bod y cyngor a phobl eraill yn cynnig gwasanaethau cyhoeddus yn Sir Caerfyrddin maen gallu ymateb i hynny drwy gynnig gwasanaethau yn ddwyieithog, Cymraeg a’r Saesneg yn naturiol ac yn gyfartal.”


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22  |  Page 23  |  Page 24  |  Page 25  |  Page 26  |  Page 27  |  Page 28  |  Page 29  |  Page 30  |  Page 31  |  Page 32  |  Page 33  |  Page 34  |  Page 35  |  Page 36  |  Page 37  |  Page 38  |  Page 39  |  Page 40  |  Page 41  |  Page 42  |  Page 43  |  Page 44  |  Page 45  |  Page 46  |  Page 47  |  Page 48  |  Page 49  |  Page 50  |  Page 51  |  Page 52  |  Page 53  |  Page 54  |  Page 55  |  Page 56  |  Page 57  |  Page 58  |  Page 59  |  Page 60  |  Page 61  |  Page 62  |  Page 63  |  Page 64  |  Page 65  |  Page 66  |  Page 67  |  Page 68  |  Page 69  |  Page 70  |  Page 71  |  Page 72