Durre Shahwar.
Cynhaliwyd cynhadledd CILIP Cymru 2022 ar-lein dros ddau ddiwrnod ar 19-20 Mai 2022. Thema’r gynhadledd eleni oedd Dyfodol Posibl: Cynaliadwy, Cydweithredol, Blaengar. Traddododd Kate Robinson, Llywydd CILIP, yr anerchiad agoriadol gan archwilio’r rôl ganolog y mae gweithwyr proffesiynol gwybodaeth yn ei chwarae wrth helpu eu sefydliadau a’u defnyd- dwyr i weithio tuag at gymdeithas fwy cynaliadwy.
Cawsom ddau brif siaradwr ardder- chog, ar y diwrnod cyntaf rhoddodd Durre Shahwar, awdur ac ymchwilydd, neges bwerus i ni am ymgysylltu â chymunedau, creu mannau diogel a chynnal cysylltiadau gwirioneddol â chymunedau. Braint wirioneddol oedd clywed straeon, myfyrdodau a chanfy- ddiadau ymchwil Durre. Siaradodd ein prif siaradwr ar yr ail ddiwrnod Martina McChrystal, Cyfarwyddwr Gwasanae- thau Llyfrgell Prifysgol Glasgow, am brosiectau cydweithredol ar draws sectorau llyfrgelloedd ledled yr Alban. Cefais fy ysbrydoli gymaint gan yr effaith amlwg a gyflawnwyd gan y cyd- weithio yma; roedd gwersi gwirioneddol ar gyfer yr hyn y gallem wneud mwy ohono yng Nghymru.
Ar gyfer y thema “Cynaliadwyedd ar Waith” cawsom gyflwyniad ar y Bannau Hinsawdd, prosiect cydweithredol ar draws yr Alban rhwng sefydliadau amgylcheddol a sefydliadau celfyddydol, treftadaeth neu ddiwylliannol i ysgogi ymgysylltiad cyhoeddus hirdymor yn dilyn COP26. Hefyd, cafwyd cyflwyniad ar rôl y llyfrgell yn cefnogi staff Cyfoeth Naturiol Cymru: corff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am reoli amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru.
Yn y thema “Arferion cynaliadwy mewn Llyfrgelloedd” cafwyd cyflwyniad ar strategaeth gynaliadwyedd a gwaith datgarboneiddio’r Llyfrgell Brydeinig,
July-August 2022 INFORMATION PROFESSIONAL DIGITAL 41
a chafwyd gwybodaeth hefyd am brosiect ym Mhrifysgol Bangor i osod system sto- crestr storio newydd oddi ar y safle a fydd yn darparu ateb hirdymor i heriau gofod. Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i lyfrgellwyr GIG Cymru am sgiliau chwilio llenyddiaeth oedd ffocws y cyflwyniad cyntaf ar y thema “Sgiliau Cynaliadwy”, gan fuddsoddi yn sgiliau hirdymor staff i wella ansawdd y gwasanaeth a gynigir. Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, y sefydliad Addysg Uwch hynaf yng Nghymru, yn dathlu 200 mlynedd ers ei sefydlu eleni. Clywodd y cynadleddwyr fod staff y llyfrgell yn ganolog i gynlluniau i ddathlu’r daucanmlwyddiant a sut mae partneriaethau newydd wedi ffurfio yn ystod y prosiect hwn a fydd yn sicrhau bod y llyfrgell yn berthnasol ymhell i’r dyfodol yn y Brifysgol.
Cafwyd blas hefyd ar ddau weithdy rhyngweithiol: y cyntaf ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a sut y mae wedi’i chymhwyso yn Llyfrgell Gen- edlaethol Cymru. Roedd y gweithdy hwn yn ein herio i feddwl am sut rydym yn dal a dangos yr effaith y mae ein gwaith yn ei chael ar y nodau cynaliadwyedd a llesiant ehangach. Rhoddodd yr ail weithdy rai awgrymiadau gwych ar y grefft o gyd- weithio, ac amlygwyd pwysigrwydd y thema
Owain Rhys Roberts.
honno ar gyfer dyfodol llwyddiannus i lyfrgelloedd yng Nghymru.
A wnaethoch chi golli’r gynhadledd? Peidiwch â phoeni mae’r cyflwynia- dau a’r sgyrsiau i gyd ar gael yma: www.
cilip.org.uk/members/group_content_view. asp?group=200145&id=997781
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn ystod y pandemig, rydym wedi dysgu ffyrdd newydd o ddysgu a chael mynediad at hyfforddiant. Siaradwch â’ch cydweithwyr a darganfod a allwch chi ddefnyddio peth amser yn y gwaith i gymryd egwyl a gwylio’r cyflwyniadau hyn. Rwy’n addo y byddwch yn dod o hyd i rywbeth i’ch ysbrydoli, y gallwch ei roi ar waith yn eich man gwaith eich hun, neu ei ddefnyddio ar gyfer eich datblygiad personol eich hun. Y tu hwnt i’r negeseuon allweddol ar y thema Cynaliadwyedd, efallai y gwelwch y gallwch ddysgu mwy am feysydd eraill o’r sector llyfrgelloedd a gwybodaeth; neu adnabod siaradwyr yr hoffech chi gysylltu â nhw. Trafodir themâu eraill hefyd: cydweithio, ymgysylltu â’r cyhoedd, newid, aros yn berthnasol, gweithio’n rhithwir. Ac mae gwylio sut mae eraill yn cyflwyno yn hynod werthfawr hefyd = sut maen nhw’n dweud eu stori a sut fedraf i ddysgu adrodd fy stori i…………. IP
Pen y Cymoedd, Wales.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24 |
Page 25 |
Page 26 |
Page 27 |
Page 28 |
Page 29 |
Page 30 |
Page 31 |
Page 32 |
Page 33 |
Page 34 |
Page 35 |
Page 36 |
Page 37 |
Page 38 |
Page 39 |
Page 40 |
Page 41 |
Page 42 |
Page 43 |
Page 44 |
Page 45 |
Page 46 |
Page 47 |
Page 48