search.noResults

search.searching

dataCollection.invalidEmail
note.createNoteMessage

search.noResults

search.searching

orderForm.title

orderForm.productCode
orderForm.description
orderForm.quantity
orderForm.itemPrice
orderForm.price
orderForm.totalPrice
orderForm.deliveryDetails.billingAddress
orderForm.deliveryDetails.deliveryAddress
orderForm.noItems
6 Free Sales Service for FUW Members


If you have anything to sell ‐ big or small ‐ fill in the coupon and for a FREE ADVERTISEMENT send it to:


Y Tir, Plas Gogerddan, Aberystwyth, SY2 3 3 BT or email it to: ytir@fuw.org.uk


Entries must be confined to 2 5 words and be received by: September 2 1 2 0 2 0


FOR SALE HOLIDAYS


WANTED FARMS FOR SALE


LIVESTOCK FOR SALE MISCELLANEOUS


NEWYDDION FUW


Y TIR


Anrhydedd fawr yr athro, amaethwr ac arweinydd o Gwm Senni, Glyn Powell


gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg Name . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .


Address . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .


Telephone number . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .


PLEASE NOTE: FREE ADVERTISEMENTS ARE FOR FUWMEMBERS ONLY AND NOT FOR COMMERCIAL TRADERS‐MEMBERSHIP NUMBER: .....................................


FOR SALE


CI DEFAID; gweithio’n dda iawn, 2 flwydd oed. Sheepdog, 2 year old, very good with sheep. Ffôn/Tel: 0 7 9 2 9 8 7 7 2 4 8 .


VOTEX 9 ’ TOPPER; 2 0 0 3 . G.W.O. New belts this season. Tel: 0 1 5 9 7 8 7 0 2 0 8 .


YOUNG SHEEPDOG; starting to work, for sale due to


WANTED SHEEP


DOG PUPS OR


CROSS BRED Tel.


01650 531579


retirement, very friendly, very smart. Tel: 0 7 9 8 0 8 7 6 9 4 0 . 1 PR 1 1 x2 8 @1 3 x3 4 TWINWHEELS; Tel: 0 7 9 8 0 8 7 6 9 4 0 . KALFOS; natural phosphate/soil conditioner. Typical application rate of 1 tonne/HA.Will provide up to 1 9 0kg phosphate, 5 0kg potash and 6 0kg of sulphate, also rich in calcium and key nutrients. Tel: 0 1 6 9 1 7 7 7 7 8 5 / 0 7 8 0 2 6 8 0 6 8 7 . MX 1 .8 5m 4 IN 1 LOADER BUCKET; with euro brackets, as new. Tel: 0 7 4 8 4 6 1 1 6 3 1 (leave tel no. on voicemail).


HOLIDAYS


CROESO CYNNES CYMREIG; mewn


Gwely a Brecwast yn Ffermdy LlwynMafon Isaf yn ardal Criccieth Eryri. www.llwynmafonisaf. co.uk ‐ Cysylltwch â Ffion. Ffôn: 0 1 7 6 6 5 3 0 6 1 8 / 0 7 5 0 3 1 9 2 9 9 4 .


LIVESTOCK FOR SALE


BOER GOATS; excellent pedigree breeding stock and kids available. Australian and Canadian bloodlines. Tel: 0 1 2 3 9 8 1 4 5 5 7 .


COLOURED RYELANDS; registered ram lambs. Tel: 0 1 9 7 0 8 2 8 2 7 4 .


TEXEL, TEXEL CROSS ANDWHITE FACE YEARLING RAMS; Tel: 0 1 6 5 0 5 1 1 3 0 6 .


To advertise in the Sales Section of the Y Tir and reach a monthly audience of over 20,000 adults throughout Wales


Contact Rhian Jones on


07846 821336 or email


rhian.jones@reachplc.com


Glyn Powell gydai wyrion BecaMair a Dan a’i wraig Gwenllian, heb anghofio Twm y ci.


BRAINT ac anrhydedd yw cael rhannu ychydig o newyddion da, a hynny am un o hoelion wyth Undeb Amaethwyr Cymru. Er bod Eisteddfod Ceredigion wedi cael ei gohirio am flwyddyn oherwydd coronofeirws, cyhoeddodd Gorsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ddiweddar ei bod nhw am anrhydeddu Glyn Powell, Pontsenni, un o aelodau oes yr Undeb gyda’rWisg Las yn ystod Eisteddfod Ceredigion 2 0 2 1 yn Nhregaron.


Yn draddodiadol, mae’rWisg Las yn cael ei chyflwyno


i’r rhai sydd yn amlwg ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduriaeth, y cyfryngau, gweithgaredd bro/neu genedl, ac heb os nac oni bai, mae Glyn yn llwyr haeddiannol o’r anrhydedd yma. Ond sut mae mynd ati i ddisgrifio cyfraniad oes Glyn mewn ychydig eiriau? Ysgolhaig, awdur, athro, amaethwr, arweinydd a chofnodwr hanes ei bobl ‐ mae’r rhestr yn ddi‐ddiwedd, a hynny wrth gwrs heb sôn am ei gyfraniad amhrisiadwy a ffyddlon i Undeb Amaethwyr Cymru.


I ddweud ychydig mwy o hanes Glyn ac i estyn ei


longyfarchiadau personol, dyma ein Llywydd Glyn Roberts: “Fel Llywydd mae llawer o bethau y byddaf yn mwynhau ei gwneud, ac i fod yn onest, weithiau mae pethau pur anodd i’w gwneud. Ond pleser pur yw cael llongyfarch Glyn Powell ar dderbyn y wisg las fel cydnabyddiaeth o’i wasanaeth i’w ardal ac i Gymru, ac edrychwn ymlaen at Eisteddfod Tregaron y flwyddyn nesaf i’w weld yn cael ei dderbyn i urdd derwydd, y wisg las, gwasanaeth i’w Genedl yng ngorsedd Cymru.


“Mab i fugail ar stad Cnewr gyfagos oedd ei dad, a’i


fam o’r Epynt. Er i Glyn ddringo i lefel uchel yn y byd addysg drwy fod yn Bennaeth Ysgol Uwchradd Aberhonddu, (gobeithio bod astudio ym mhrifysgol yn y gogledd wedi cael dylanwad arno!), ni anghofiodd ei wreiddiau, gan iddo fod yn weithgar iawn gyda phob peth yn ymwneud a’r Epynt, a brwydrodd i arbed boddi Cwm Seni.Mae wedi bod, ac yn dal yn gymwynaswr mawr i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.


“Fel llysgennad i’r byd amaeth rwy’n sicr fod y rhan


fwyaf o ddarllenwyr Y Tir yn adnabod Glyn, gan iddo fod yn Is Lywydd i ni fel Undeb rhwng 1 9 9 5 a 2 0 0 0 , ac yna’n ddirprwy o 2 0 0 0 i 2 0 0 2 . Yn ystod y cyfnod yma un o’i heriau mwyaf oedd yng nghyfnod y Clwy Traed a’r Genau. Pleser oedd clywed Glyn yn trin a thrafod materion dybryd y byd amaeth ar y cyfryngau, drwy godi safon y drafodaeth ac ymwybyddiaeth o’r byd amaeth i lefel uchel iawn.


“Un o’r troeon cyntaf i mi glywed Glyn yn siarad yn


gyhoeddus oedd yng Nghyngor yr Undeb ym 1 9 9 5 pan gafodd ei ethol yn Is lywydd. Roedd rhywbeth yn


urddasol yn y ffordd y cododd o’i set i’n hannerch a pharhaodd yr urddas hynny nes iddo eistedd ar ddiwedd ei anerchiad. Cawsom araith i’w chofio gan orffen drwy ddyfynu Saunders Lewis “Gwinllana roddwyd i’m g ofal yw Cymru fy ngwlad: I’w th raddodi i’m plant: Ac i blant fy mh lant: Yndreftadaeth dragwyddol”, hawdd iawn dyfynu darn gyda cymaint o arddeliad, peth arall yw gwireddu’r weledigaeth, ond dyna wnaeth Glyn, drwy sicrhau dyfodol i Gwm Senni ac hefyd gosod ei fferm i berson ifanc. “Fel mae’r llyfrMawr yn dweud “ynôl ei ffrwyth au yr


adnabyddir hwynt”. Llongyfarchiadau Glyn, rydych yn llwyr haeddu’r anrhydedd.” Trwy gymorth ei ferch Bethan, cefais gyfle i holi i


Glyn shwt deimlad yw derbyn anrhydedd y wisg las: “Mae'n braf cael bod mewn cwmni anrhydeddus yn y wisg las gyda Bob Parry, Emyr Jones a Glyn Roberts. Mae’r anrhydedd hon yn deyrnged i gefnogaeth cyfeillion a chymunedau fu’n gymorth ac yn gefn i mi dros y blynyddoedd.” Pan ddechreuais weithio i’r Undeb bron iawn


deunaw mlynedd yn ôl, Glyn Powell oedd un o’r pobl gyntaf i fi gyfarfod, yn y Brif Swyddfa yn Aberystwyth. Roeddwn yn ymwybodol o’i gyfraniad helaeth, a’i wasanaeth i’w ardal leol ac yn genedlaethol, ac felly roedd hi’n hyfryd iawn cael cwrdd a’r dyn ei hun. Ymgyrchodd i wrthwynebu defnyddio mynydd Epynt


fel safle difa yn ystod cyfnod heriol Clwy’r Traed a’r Genau, a phan oedd Cwm Senni dan fygythiad o’i foddi er mwyn cyflewni dŵr i Gaerdydd, arweiniodd Glyn y ffordd, fel Ysgrifennydd Pwyllgor Amddiffyn Cwm Senni, brwydr a barodd o 1 9 6 3 i 1 9 7 2 .Mae’n hawdd iawn gweld sut oedd yn llwyddo i ennill cefnogaeth y gymuned oherwydd mae pobl yn bwysig iddo, ac yn rhoi’r un barch i bawb sydd yn ei gwmni. Rwy’n siwr y cytunwch bod hynny’n cael ei adleisio


yn ei eiriau uchod, wrth iddo ddiolch i bawb arall. Felly dyma’r diolch ni i chi Glyn. Ychydig sy’n gwybod effallai bod Glyn, yn dawel bach, yn parhau i gadw cysylltiad agos gyda beth sy’n digwydd o fewn yr Undeb. Yn bersonol rwy’n gwybod ei fod yn codi’r ffôn i gael sgwrs ac i drosglwyddo canmoliaeth am gynnwys Y Tir, ac mae ei eiriau a’i annogaeth yn mynd ymhell ac yn rhoi hyder i ni gario ymlaen i wneud yr hyn allwn ni er mwyn sicrhau bod yr Undeb yn mynd o nerth i nerth. Felly, yn syml iawn, ar ran pawb yn Undeb


Amaethwyr Cymru, diolch i chi Glyn. This article is available in English on the FUW


website ‐ News ‐ Y Tir News: “The greatest honour for the teacher, farmer, and leader from the SenniValley, Glyn Powell.”


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22  |  Page 23  |  Page 24