24 Newyddion MAE PRIFYSGOL
ABERYSTWYTH a Cered: Menter Iaith Ceredigion wedi dod at ei gilydd i gefnogi rhai o fandiau Cymraeg yr ardal. Maen nhw wedi
THE HERALD FRIDAY FEBRUARY 3 2017
Follow us on Twitter @ceredigherald
ApAber yn helpu rhoi trefn ar fywyd coleg Gweithdai cerdd i fandiau lleol “Fel Prifysgol, rydyn ni’n trefnu
penwythnos o weithdai cerdd arbennig yn yr Hen Goleg ar gyfer dau fand lleol. Bydd aelodau ifanc Y Fflamau
Gwyllt o Ysgol Gynradd Gymunedol Rhos Helyg, Bronnant, yn treulio Dydd Sadwrn (Ionawr 28) yng nghwmni’r cerddor profiadol Mei Gwynedd. Ddydd Sul (Ionawr 29) bydd Mei
(Chwith i’r dde): Matt Fullwood, Tim Davies a Iola Hagen o Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth, Ryan Myles Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Rebecca Davies Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Rhun Dafydd, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn lansio ApAber
MAE PRIFYSGOL
Aberystwyth wedi lansio ap dwyieithog newydd i’w gwneud yn haws i fyfyrwyr gynllunio eu diwrnod. Mae ApAber yn dwyn ynghyd ar
un sgrin amrywiaeth o wasanaethau sy’n gysylltiedig gydag dysgu ac astudio. Gall myfyrwyr weld pa
ddarlithoedd a seminarau sydd ganddynt, gael mynediad at eu tudalennau dysgu rhithwir, edrych ar amserlenni bws lleol a gweld faint o gyfrifiaduron cyhoeddus sydd ar gael ar y campws. Mae ApAber hefyd yn galluogi
defnyddwyr i gadw golwg ar eu defnydd o’r rhwydwaith a’u cofnod presenoldeb yn ogystal â monitro faint o arian sydd ar eu CardenAber neu faint o ddirwyon llyfrgell sydd ganddyn nhw. Gall negeseuon brys gan y
Brifysgol gael eu cyhoeddi drwy’r ap - er enghraifft, lle mae’n rhaid canslo darlithoedd oherwydd eira trwm. Dywedodd y Dirprwy Is- Ganghellor a Phrif Swyddog
Gweithredu Prifysgol Aberystwyth, Rebecca Davies: “Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn defnyddio eu ffonau symudol i drefnu eu bywydau bob dydd felly dylai ApAber ei gwneud yn hawdd iddynt weld yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gynllunio eu hamser yn effeithiol. Mae’n elfen bwysig arall o’n hymrwymiad yn Aberystwyth i wella profiad y myfyriwr ac ymateb i ofynion dysgwyr heddiw.” Cafodd ApAber ei dreialu
fel FyAber ar ddechrau tymor academaidd 2016-17 ac mae eisoes wedi cael ei lawr lwytho gan fwy na 5,000 o fyfyrwyr ac aelodau staff. Mae nawr yn cael ei lansio’n
swyddogol fel ApAber - ap cwbl ddwyieithog sy’n galluogi myfyrwyr i ddewis Cymraeg neu Saesneg fel eu hiaith ddiofyn. Nodwedd arall o’r ap sydd ar y
gweill yw cyfres o fapiau er mwyn helpu myfyrwyr a staff newydd i ddod o hyd i leoliadau gwahanol ar y campws, gan gynnwys darlithfeydd ac ystafelloedd seminar. Staff Gwasanaethau Gwybodaeth
Prifysgol Aberystwyth sydd wedi bod yn gweithio ar yr ap a hynny ar y cyd â datblygwyr meddalwedd addysg Collabco. Dywedodd
Cyfarwyddwr
Gwasanaethau Gwybodaeth, Tim Davies: “Mae ApAber yn siop-un- stop gynhwysfawr sy’n dwyn ynghyd mewn un porth yr holl systemau a gwasanaethau mae’n myfyrwyr yn debygol o fod eu hangen ar unrhyw ddiwrnod penodol. Mae’n ei gwneud yn haws iddyn nhw ddod o hyd i wybodaeth sy’n hanfodol at eu hastudiaethau ac i reoli eu llwyth gwaith. “Rydym eisoes wedi cael adborth
ardderchog ar yr ap ond rydym am gael gwybod mwy, felly byddwn yn cynnal grwpiau ffocws gyda’n myfyrwyr yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Byddwn hefyd yn gweithio gydag Adrannau unigol ac Undeb y Myfyrwyr i weld sut y gellid teilwra ApAber at eu hanghenion arbennig nhw.” Mae modd lawr lwytho ApAber
yn rhad ac am ddim oddi ar iTunes neu Google Play.
Gwynedd yn gweithio gydag aelodau band Casset sydd yn wreiddiol o Lanerfyl yn Sir Drefaldwyn ond sydd bellach yn fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Bydd aelodau’r ddau fand yn
cael cyngor ar sut i ddatblygu eu cerddoriaeth ac ysgrifennu deunydd newydd. Byddan nhw hefyd yn cael
cyngor cyffredinol ar y camau nesaf o ran datblygu band ar gyfer y llwyfan mwy. Dywedodd Dr Rhodri Llwyd
Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae Aberystwyth fel tref a’r Brifysgol yn arbennig yn chwarae rhan bwysig yn y Sîn Roc Gymraeg ac mae hynny’n un o’r nodweddion sy’n denu pobl ifanc i Aber fel rhan o’r profiad Cymraeg cyflawn yma. Hefyd, dros y blynyddoedd, mae llawer o’n myfyrwyr wedi cyfrannu mewn ffyrdd amrywiol at fwrlwm y Sîn Roc gyda sawl un yn aelodau o fandiau hynod lwyddiannus - Y Trwynau Coch, er enghraifft, neu’n fwy diweddar, Yr Ods.
awyddus i ddangos ein cefnogaeth i fandiau ‘Coleg’ yn ogystal â bandiau newydd lleol ac mae’n braf gallu cydweithio gyda Cered fel hyn o safbwynt hybu’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc a thrwy ddefnyddio cyfleusterau unigryw’r Hen Goleg er budd y gymuned.” Trefnydd y gweithdai yw
Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol Cered: “Mae ein gwaith gyda phobl ifanc Ceredigion yn dangos fod yna alw sylweddol am fwy o gigs Cymraeg rheolaidd ar draws y sir. Rydym felly yn grediniol fod datblygu’r Sîn Roc Gymraeg yng Ngheredigion yn ffordd o newid canfyddiadau pobl ifanc o’r iaith ac annog nhw i’w ddefnyddio yn naturiol gyda’u ffrindiau. “Credwn fod y gweithdai yma
yn ffordd o ddatblygu bandiau Cymraeg lleol er mwyn gallu bwydo gigs a gwyliau yn y sir a thu hwnt gan annog eu cyfoedion i’w hefelychu trwy ddysgu offeryn, dechrau band a pherfformio trwy gyfrwng y Gymraeg.” Bydd Fflamau Gwyllt yn cael
cyfle i chwarae mewn gig i nodi Dydd Miwsig Cymru yn y Llew Du yn Aberystwyth am 6.30yh, nos Gwener, Chwefror 10. Mae’r digwyddiad Dydd
Miwisg hwn yn cael ei drefnu gan Cered gyda chefnogaeth Prifysgol Aberystwyth a bydd hefyd yn cynnwys trafodaeth panel gyda threfnwyr gwyliau cerddoriaeth Ceredigion dan gadeiryddiaeth Richard Rees am 7.15 yr hwyr, Cwis Mawr Cerddoriaeth Cymru am 8.30 yr hwyr a cherddoriaeth fyw gan RocCana am 9.45 yr hwyr.
Ysgolion Ceredigion yn cael cymorth MAE DEILLIANNAU heddiw
o ran y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion wedi dangos bod mwy o ysgolion ar draws Ceredigion o fewn Rhanbarth ERW yn ymateb yn dda i gymorth. Dengys y wybodaeth a
gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Cymru fod cynnydd yng nghanran yr ysgolion cynradd ledled y rhanbarth (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Abertawe) sy’n dod yn fwy gwydn. Mae hyn yn golygu fod llai o ysgolion cynradd yn y categorïau lle mae angen cymorth sylweddol o gymharu â ffigurau’r llynedd. Hefyd dengys canlyniadau
heddiw fod nifer yr ysgolion uwchradd y mae angen cymorth cyfyngedig yn unig arnynt wedi bron dyblu ers y llynedd. Golyga hyn y gall y rhanbarth neilltuo rhagor o adnoddau i’r ysgolion hynny y mae angen mwy o gymorth arnynt. Dywedodd y Cynghorydd
Hag Harris, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Dysgu, Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc, “Mae nifer o resymau yn cael
eu hystyried wrth gytuno ar gategori cymorth ysgol, megis penaethiaid newydd i’w swydd, sy’n golygu bod y cytundeb rhwng ERW a’r ysgol ar y diwrnodau cymorth yn medru cael eu targedu’n gywir. Ffordd syml o bennu diwrnodau cefnogi ar gyfer ysgol yw’r system hon, ac yn sicr nid yw’n system i raddio perfformiad ysgolion.” Meddai Betsan O’Connor,
Rheolwr Gyfarwyddwr ERW: “Mae’n dda gweld bod ysgolion yn dod yn fwy gwydn a bod angen llai o gymorth arnynt bellach. Hefyd mae’n braf gweld newid mewn diwylliant, gan fod mwyfwy o’r cymorth yn cael ei roi gan ysgolion eraill. “Bydd rhai ysgolion yn siomedig
ynghylch elfennau o’r deilliannau a gyhoeddwyd, ond byddwn yn darparu cymorth i’r ysgolion hynny yn y meysydd a nodwyd ar gyfer gwelliant.” I weld deilliannau’r system
gategoreiddio ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, ewch i wefan Fy Ysgol Leol mylocalschool.wales.
gov.uk. Mae canllaw ar gyfer rhieni/ gofalwyr ar gael ar wefan Dysg.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24 |
Page 25 |
Page 26 |
Page 27 |
Page 28 |
Page 29 |
Page 30 |
Page 31 |
Page 32 |
Page 33 |
Page 34 |
Page 35 |
Page 36 |
Page 37 |
Page 38 |
Page 39 |
Page 40 |
Page 41 |
Page 42 |
Page 43 |
Page 44 |
Page 45 |
Page 46 |
Page 47 |
Page 48