Seremonïau Sifi l - Dewis y Lleoliad
Y cam cyntaf wrth fynd ati i gynllunio’ch priodas neu bartneriaeth silfil yw penderfynu ble yr hoffech gynnal eich seremoni. Eich dewis chi ydyw.
Swyddfa Gofrestru Brynbuga
Mae’r Swyddfa Gofrestru wedi ei lleoli yn Rhadyr, Brynbuga ac mae hi’n addas i’r rheiny sydd yn chwilio am ystafell fach i gynnal eu seremoni yng nghwmni hyd at chwe o westeion. Mae’r seremoni ei hun yn syml a does yna ddim cyfle i newid y geiriau
Yr Hen Barlwr
Yn ogystal â’r Swyddfa Gofrestru, gallwn hefyd gynnig Yr Hen Barlwr yma yng Mrynbuga, sef, llaethdy addasedig ac roedd unwaith yn rhan o’r coleg amaethyddol. Mae lle i hyd at 30 eistedd yn yr ystafell hon, gall gyplau ddewis geiriau a cherddoriaeth sydd yn bersonol iddynt hwy, a gall y briodferch gael ei rhoi i ffwrdd.
Mae hefyd clos a gerddi deniadol sydd yn ddelfrydol ar gyfer ffotograffau.
Cynhelir seremoniau yma bob diwrnod o’r wythnos, a hynny yn y boreau a’r prynhawniau. Os hoffech ymweld â ni yma ym Mrynbuga, byddai’n bleser gennym i’ch tywys o gwmpas ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Seremonïau yn Sir Fynwy
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24 |
Page 25 |
Page 26 |
Page 27 |
Page 28