This page contains a Flash digital edition of a book.
Seremonïau Eraill sydd ar gael yn Sir Fynwy


Ailddatgan Addunedau


Mae’r seremoniau hyn yn cynnig cyfle i gyplau priod neu gymheiriaid o unrhyw oedran, a fu dyda’i gilydd am ba gyfnod bynnag, ddathlu achlysur ailddatgan eu haddunedau mewn seremoni unigryw a phersonol ei natur.


Efallai y byddwch am ddathlu pen blwydd priodas arbennig, dathlu gyda theulu neu ffrindiau wedi priodas neu bartneriaeth sifil dramor, neu efallai eich bod am ddathlu ymrwymiad i’ch gilydd drwy ailddatgan eich addunedau mewn seremoni bersonol a ddewiswyd gennych chi.


Gall unrhyw gwpwl neu gymheiriaid sydd wedi priodi’n gyfreithiol drefnu Seremoni Ailddatgan Addunedau. Gall pobl arbellig sy’n rhan o’ch bywydau hefyd gymryd rhan yn y seremoni a fydd yn cael ei chynnal gan ‘Weinydd’ cymwys a phrofiadol. Ni fydd y seremoni o natur gyfreithiol ac nid yw’r sawl sy’n cymryd rhan ynddi yn rhwymo mewn cyfraith.


Mae yna nifer o leoliadau ar gael ar gyfer eich seremoni, nail ai’r Swyddfa Gofrestru, lleoliadau cymeradwy fel Gwestai neu hyd yn oed allan yn yr awyr agored.


Mae rhestr lawn o’r lleoliadau ar gael yng nghefn y llyfryn hwn. Gallwn hefyd berfformio’r seremoniau hyn mewn lleoliadau eraill a hyd yn oed mewn pabell fawr yn eich gardd, dyad chaniatad. Rhyudym yn filch i gynnal y seremoni ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos ar amser sy’n gyfleus i bawb.


Cyfrifoldeb y cwpwl yw trefnu amser a dyddiad eu seremoni gyda’r lleoliad o’u dewis. Efallai y codir ffi gan y lleoliad am y defnydd o’r ystafell lle cynhelir y seremoni. Codir y ffi hon yn ogystal a ffi’r Seremoni.


Gall y seremoni i ailddatgan addunedau fod yn achlysur personol neu fe allwch wahodd y teulu a ffrindiau. Gall eich plant hefyd chwarae rhan bwysig ac efallai y byddwch am eu cynnwys ar yr adeg bwysig hon. Ar ddiwedd y seremoni gofynnir i chi a dau dyst lofnodi cofnod o’r seremoni gofynnir i chi a dau dyst lofnodi cofnod o’r seremoni a chyflynir Tystysggrif Goffsaol i chi fel cofrodd.


Am ragor o wybodaeth mae croeso i chi rhoi galwad i ni ar 01873 735435 neu anfonch e-bost at ceremonies@monmouthshire.gov.uk


Seremonïau yn Sir Fynwy


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22  |  Page 23  |  Page 24  |  Page 25  |  Page 26  |  Page 27  |  Page 28