search.noResults

search.searching

note.createNoteMessage

search.noResults

search.searching

orderForm.title

orderForm.productCode
orderForm.description
orderForm.quantity
orderForm.itemPrice
orderForm.price
orderForm.totalPrice
orderForm.deliveryDetails.billingAddress
orderForm.deliveryDetails.deliveryAddress
orderForm.noItems
THE HERALD FRIDAY JANUARY 6 2017


29 Newyddion Cymraeg


Gweithwyr gofal ar gyflogau pitw MAE TALU miliynau o bunnau


i reolwyr pêl-droed sy’n cael y sac, tra bo gweithwyr hanfodol fel gofalwyr yn crafu byw ar gyflogau isel, yn adlewyrchiad truenus o werthodd cymdeithas. Dyna ddywedodd y Parchg Jill-


Hailey Harries, Is-lywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn ei neges Flwyddyn Newydd. “Mae nifer di-rif o bobl


oedrannus a’r rhai sy’n gaeth i’w cartref yn dibynnu ar weithwyr gofal sy’n ennill cyn lleied â £7.20 yr awr. Eto, mae rheolwr tîm pêl- droed Crystal Palace yn pocedi £5m ar ôl cael ei ddiswyddo, tra bo clwb Dinas Abertawe yn mynd i ddarparu ‘pecyn sylweddol’ i’r cyn-reolwr


Bob Bradley, gafodd ei diswyddo fel methiant ar ôl llai na thri mis yn y swydd. “Mae’n sefyllfa warthus. Mae


£5m. yn fwy na fyddai 350 o weithwyr gofal yn ennill, gyda’i gilydd, mewn blwyddyn! Yn ogystal â chyflogau isel, mae nifer o weithwyr gofal heb gytundeb oriau penodol, sy’n golygu na chant dâl o gwbl os ydynt yn sâl. Gall hefyd fod yn frwydr i sicrhau tâl am yr amser teithio o un apwyntiad i’r arall. D’oes dim syndod bod canran uchel o weithwyr gofal yn gadael y sector bob blwyddyn i gymryd swyddi eraill. Mae hyn yn amlwg yn cael effaith ar brofiad y gweithlu ac yn amharu ar barhad gofal i gleientiaid.


Mae pobl hŷn yn hapusach o weld wynebau cyfarwydd,” meddai’r Parchg Jill-Hailey Harries. “Rwy’n croesawu’r camau sy’n


cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i osod gofyniad cyfreithiol ar gwmnïau sy’n cyflogi gofalwyr i’w trin yn deg. Mae’r ffaith bod y galw am ofal cymdeithasol yn cynyddu, ar adeg o doriadau cynyddol mewn gwariant cyhoeddus, yn creu pwysau ariannol enfawr. Yn 2017, gadewch inni oll gydnabod a dathlu rôl hanfodol y fyddin o weithwyr gofal yng Nghymru.”


Rheolwyr pêl-droed sy’n methu yn cael miliynau: Parchg Jill- Hailey Harries


A fydd pŵer yn trechu synnwyr cyffredin yn y Senedd? MAE'R FRWYDR am bŵer ym


Mae Caerdydd yn troi'n sur wrth i obsesiwn, cyfrinach a dialedd fygwth taro ambell un oddi ar ei echel. Yn gymysg â phynciau llosg


sy'n rhwygo barn yn y Siambr, mae troedio'r llinell rhwng da a drwg - bywydau personol a phroffesiynol - yn her yn y gyfres newydd o Byw Celwydd. Bydd y gyfres ddrama sydd


wedi ei lleoli yng nghrochan poeth gwleidyddiaeth Cymru yn dychwelyd i S4C nos Sul, 8 Ionawr. Cafodd Prif Weinidog Cymru,


Meirion Llywelyn, ddihangfa yn ystod y gyfres ddiwethaf, wedi i'w ferch yng nghyfraith, y Golygydd Gwleidyddol pwerus Angharad Wyn ddewis peidio â datgelu iddo gamarwain y Senedd. Yn hytrach, penderfynodd ei bod am achub ei phriodas â'i gŵr Owain, gan ddatgelu ei chyfrinach fawr wrtho… bu'n butain yn Llundain, ac un o'i chleientiaid oedd Harri James - Ymgynghorydd Arbennig (SpAd) i'r Cenedlaetholwyr. Mae Meirion Llywelyn yn


ymwybodol bod tensiwn a chytundeb yn bodoli rhwng Angharad a Harri, ac mi fydd canfod y gwir am y ddau yma yn fêl ar fysedd y Ceidwadwr. Mae hyn yn arwain at gêm beryg rhwng y Prif Weinidog ac Angharad; wrth i'r ddau gystadlu am bŵer a dialedd. Ond ydy obsesiwn Meirion yn mynd yn drech na'r hyn sy'n gywir i'r wlad? Mae


canlyniadau ei


phenderfyniad i beidio â datgelu'r gwir am Meirion yn peri tipyn o gur pen i Angharad. Yn ôl Cath Ayers sy'n portreadu'r Golygydd uchelgeisiol, mae Angharad wedi'i rhwygo rhwng ei gyrfa a'i dyletswydd tuag at ei theulu. "Mae hi'n gyfnod anodd i


Angharad. Mae hi'n gorfod profi ei hunan eto, i'w chyd-weithwyr a'i bos, ond mae hi eisiau profi i Owain ei bod hi'n driw iddo fe hefyd. Mae hi'n ceisio cadw cydbwysedd, ac mae hynny'n heriol iddi hi. Yn enwedig gan fod Owain yn stryglo i ddygymod â'r wybodaeth mae e wedi'i derbyn amdani hi," meddai Cath sy'n wreiddiol o Abergwili ger Caerfyrddin. Mae'r gyfres hon yn nodi


cam hanesyddol, gan fod y criw cynhyrchu wedi derbyn caniatâd i ffilmio yn Siambr y Senedd am y tro cyntaf erioed. "Mae hi'n fraint bod Byw Celwydd wedi ffilmio yn y Siambr. Mae e'n rhoi statws i'r gyfres am ein bod ni'n cael ffilmio yn yr union adeilad rydyn ni'n ei bortreadu," meddai Cath sy'n byw yng Nghaerdydd. "Mae Byw Celwydd yn ddrama


wleidyddol sy'n ymdrin â storiâu dadleuol i ni yng Nghymru, ond law yn llaw â hynny mae'r cymeriadau yn byw bywydau personol cymhleth sydd wedi gweu ynghyd i greu drama afaelgar." Ond a fydd Angharad yn llwyddo


i gadw cydbwysedd rhwng ei gwaith a'i theulu wrth i'r gyfres ddychwelyd? "Pwy a ŵyr!" meddai Cath. "Yn anffodus mae 'na wastad rwystrau yn erbyn Angharad a'i gŵr, a fyddai e ddim yn ddrama heb hynny. Dyna sy'n wych am Byw Celwydd, mae'n ddrama gyffrous, gymhleth a chyfredol." Wrth i'r gyfres barhau, mae


canlyniadau cyfrinach Angharad yn ei llethu ac mae Meirion yn benderfynol o ddarganfod beth mae hi a Harri yn ei guddio; waeth beth yw'r gost yn bersonol ac yn wleidyddol.


Catherine Ayers: ‘Mae hi’n gyfnod anodd i Angharad’


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22  |  Page 23  |  Page 24  |  Page 25  |  Page 26  |  Page 27  |  Page 28  |  Page 29  |  Page 30  |  Page 31  |  Page 32  |  Page 33  |  Page 34  |  Page 35  |  Page 36  |  Page 37  |  Page 38  |  Page 39  |  Page 40  |  Page 41  |  Page 42  |  Page 43  |  Page 44  |  Page 45  |  Page 46  |  Page 47  |  Page 48  |  Page 49  |  Page 50  |  Page 51  |  Page 52  |  Page 53  |  Page 54  |  Page 55  |  Page 56  |  Page 57  |  Page 58  |  Page 59  |  Page 60  |  Page 61  |  Page 62  |  Page 63  |  Page 64  |  Page 65  |  Page 66  |  Page 67  |  Page 68  |  Page 69  |  Page 70  |  Page 71  |  Page 72