THE HERALD FRIDAY JANUARY 27 2017 Like us on Facebook
facebook.com/thecarmarthenshireherald
23 Newyddion Rheolwraig newydd Yr Atom Cynghorwyr lleol yn ymateb i ddadlau am ysgol y pentref
dros y cynnig. Ym mis Medi bydd y dosbarth derbyn cyntaf yn ddosbarth Cymraeg ond fe fydd pob blwyddyn arall yn dal yn ddwy ffrwd. Mae’n mynd i gymryd tua saith blynedd tan fod yr ysgol i gyd yn Gymraeg.” Dywedodd ei fod yn synnu ar sut
wnaeth y rhan fwyaf o’r cynghorwyr Llafur bleidleisio: “Roedd yn bleidlais gofrestredig ac er bod pob aelod o Blaid Cymru wedi cefnogi, dim ond tri o’r cynghorwyr Llafur wnaeth hynny. Pleidleisiodd y gweddill ohonynt – tua 12 aelod Llafur - yn erbyn, sef gwrthwynebu polisi statudol llywodraeth Lafur Cymru, sef ei llywodraeth Llafur nhw eu hunain.” Dywedodd y Gynghorydd
ANGHARAD HARDING
o Lanpumsaint yw rheolwraig newydd Yr Atom, sef Canolfan Gymraeg tref Caerfyrddin. Yn fam i dri o blant ifanc, mae
Angharad wedi cymryd awenau'r ganolfan ar ôl treulio deuddeg mlynedd yn gweithio gyda Chyngor Sir Gâr fel Swyddog Busnes. “Rwy’n gyffrous dros ben wrth
ddechrau’r swydd newydd hon fel rheolwraig Yr Atom,” meddai Angharad. “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr
at her newydd ac yn awyddus iawn i weithio gyda gwahanol sectorau i annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg fwy fwy fel rhan o’u bywyd bob dydd. “Dyma gyfle gwych i mi feithrin
a datblygu partneriaethau ar draws y dref er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. “Wedi gweithio gyda’r sector
fusnes dros nifer o flynyddoedd, rwy’n gobeithio gallu gweithio’n agos gyda siopau a busnesau Caerfyrddin – yn ogystal â thrawsdoriad o sefydliadau – gan roi cyfle i’r Gymraeg fod yn fwy clywadwy a gweladwy ar hyd a lled y dref.” Agorwyd Yr Atom yn swyddogol
‘nôl yn Hydref 2015 wedi i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant dderbyn grant gan Gronfa Fuddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru i brynu adeilad er mwyn sefydlu Canolfan Gymraeg yng nghanol Caerfyrddin. Aeth y Brifysgol ymlaen i brynu’r
adeilad ar Stryd y Brenin gan fynd ati i’w weddnewid i gynnwys caffi, stiwdio recordio ac ystafelloedd er mwyn cynnal digwyddiadau cymdeithasol, hamdden a busnes ar gyfer y gymuned gyfan. Ers hynny, mae wedi sefydlu’i
hun yn ganolfan boblogaidd ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau Cymraeg eu hiaith yn y dref, gyda thros 60 o wahanol gymdeithasau a grwpiau cymunedol yn defnyddio adnoddau Yr Atom a dros 10,000 wedi croesi’r trothwy yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae’r Atom hefyd yn cynnig
lleoliad cyffrous lle gall pobl o bob oed gymdeithasu yn y Gymraeg naill ai drwy wneud gweithgareddau
megis ioga a thylino babis neu drwy ddod i wersi Cymraeg mwy ffurfiol. Mae ieuenctid y dref hefyd yn gwneud cryn ddefnydd o’r ganolfan gydag Aelwyd yr Urdd yn cwrdd yno’n wythnosol a thrwy amryw weithgareddau sy’n cael eu gweithredu gan Fenter Gorllewin Sir Gâr, o’r Clwb Ffotograffiaeth i Ddawnsio Stryd. Mae trigolion ifancaf ardal
Caerfyrddin hefyd yn elwa o adnoddau’r Atom gyda’r Cylch Meithrin yn cwrdd yno’n ddyddiol. A heb os, un o brif atyniadau’r
ganolfan yw’r caffi croesawgar sy’n cynnig cynnyrch lleol o ansawdd uchel mewn amgylchedd cyfeillgar Cymreig. “Mae’n bleser gennym groesawu
Angharad i’n plith wrth iddi ddechrau ar ei gwaith fel rheolwraig newydd Yr Atom,” meddai Gwilym Dyfri Jones, Pro Is-Ganghellor Cysylltiol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a'r person a fu’n arwain y prosiect ar ran y Brifysgol. “Bydd y profiad helaeth sydd gan
Angharad o feithrin partneriaethau ac o weithio gyda’r sector fusnes o fudd mawr i’r Atom. Bydd cyfle i adeiladu ar y seiliau cadarn a osodwyd yn barod gan ddatblygu strategaeth gyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. “Mae Yr Atom yn cynnig cyfle
i holl fudiadau a chymdeithasau yr ardal ddod at ei gilydd i greu cymuned Gymraeg fyrlymus o fewn un adeilad ac rwy’n siŵr y bydd Angharad yn llwyddo i ddod â thrawsdoriad eang o bobl ynghyd,” atega Gwilym Dyfri Jones. Nododd Gwydion Wynne,
Cyfarwyddwr Canolfan Peniarth sydd â chyfrifoldeb strategol a gweithredol dros Yr Atom: “Dymunir gweld Caerfyrddin yn datblygu’n dref wirioneddol ddwyieithog gyda’r Atom yn datblygu’n ganolbwynt naturiol ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg o’i mewn. Bydd rôl Angharad yn allweddol wrth i ni geisio gwireddu’r nod hwnnw a chroesawn ni hi’n gynnes i’w rôl newydd fel Rheolwraig Yr Atom.”
Gwyn Hopkins: 'Roedd yn ganlyniad cadarnhaol iawn' MAE'R PENDERFYNIAD
ynglŷn a dyfodol Llangennech wedi cael ei cadarnhau yn y cyfarfod Cyngor Sir ar ddydd Mercher (Ion 18).
Mi fydd ddisgyblion yr ysgol yn cael ei dysgu yn Cymraeg yn Medi. Cyn i’r trafodaeth dechrau wnaeth
cwestiynau cael ei rhoi at yr Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant, y gynghorydd Gareth Jones. Roedd yna diwygiad i ohirio’r fater ond wnaeth cael ei wrthod gyda
37 yn pleidleisio yn ei erbyn a 20 o blaid efo dwy cynghorydd yn ymatal. Wnaeth 38 o crynhowyr pleidleisio
am yr newid, 20 yn gwrthwynebu ac un yn ymatal. Yn siarad efo’r Herald ar ôl y
cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Gwyn Hopkins, sydd yn cynrychioli Llangennech: “Roedd yn ganlyniad cadarnhaol iawn. Nid oeddwn wedi rhagweld y byddem yn ennill mor gyfforddus (38 – 20), gyda dros hanner holl aelodau’r cyngor yn pleidleisio
Gwyneth Thomas, sydd hefyd yn cynrychioli Llangennech: “Rwyf yn falch dros ben, ddylai hwn gwneud gwahaniaeth i phlant cael y cyfle i fod yn hollol ddwyieithog.” Yn siarad am sut aeth yr canlyniad,
dywedodd: “Mae’n siom fod Llafur wedi bleidleisio yn erbyn polisi llywodraeth Llafur Caerdydd.” Roedd Cymdeithas Yr Iaith tu
allan i’r Cyngor yn y bore, ar ôl yr canlyniad mewn ymateb, dywedodd is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn rhanbarth Caerfyrddin, David Williams: “Rydyn ni'n ddiolchgar i Gyngor Sir Gaerfyrddin am ddangos arweiniad wrth ddechrau sicrhau na fydd unrhyw blentyn yn y sir yn cael ei amddifadu o addysg Gymraeg. Galwn nawr am symud ymlaen yn gyflym, heb rwystr pellach, i sicrhau fod pob plentyn yn datblygu'r sgil i weithio'n Gymraeg a Saesneg. "Mae rhoi ysgolion ar y ffordd
i ddod yn ysgolion Cymraeg gydag amser yn un o gamau gweithredu strategaeth Gweithgor Cyfrifiad y Cyngor felly rydyn ni'n awyddus nawr i weld cynllun ar gyfer ysgolion eraill y sir.
“Addysg Gymraeg yw'r unig
ffordd o sicrhau bod plant yn gadael yr ysgol yn rhugl yn Gymraeg a Saesneg. Mae Cyngor Sir Gâr yn arwain y ffordd i weddill Cymru felly.”
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24 |
Page 25 |
Page 26 |
Page 27 |
Page 28 |
Page 29 |
Page 30 |
Page 31 |
Page 32 |
Page 33 |
Page 34 |
Page 35 |
Page 36 |
Page 37 |
Page 38 |
Page 39 |
Page 40 |
Page 41 |
Page 42 |
Page 43 |
Page 44 |
Page 45 |
Page 46 |
Page 47 |
Page 48