Y TIR
CL ECS CYMRAEG CORNEL CLECS Defaid, defaid, amwy oddefaid! ganAngharad Evans, Golygydd y Gymraeg
AR ôl tymor wyna prysur,byddai unrhyw un yn meddwl ein bod ni wedi syrffedi gweld defaid! Ond mae’r dywediad Saesneg “live and breathe” yn berthnasol i ni llemae defaid yn y cwestiwn! Ar ddechrau gwyliau’r Pasg a ninnau yn Aberystwyth am fore,daethom ar draws arddangosfa “DEFAID” sy’n cael ei chynnal yn Amgueddfa Ceredigion hyd nesMehefin 29. Roedd rhaid mynd mewn am sbec! Mae’r arddangosfa’n llawn ffotograffau,propiau,ffilmiau
a gwaith celf,a’r cyfan yn canolbwyntio ar un o anifeiliaid mwyaf poblogaidd ac arwyddocaol amaethyddiaeth Cymru sef y ddafad. Cafodd Cornel Clecs gyfle i holi Alice Briggs,Curadur
Cynorthwyol yr amgueddfa am ychydig o hanes yr arddangosfa: “Mae ‘DEFAID’ yn sgwrs ynglŷn â thirwedd ucheldir
Canolbarth Cymru. Mae’r arddangosfa hon yn rhan o’r dadleuon cyfredol ynghylch tirwedd yr ucheldir sy’n newid, ac yn archwilio hanes,treftadaeth a diwylliant Ceredigion fel cymuned ffermio defaid. Trafodwn y syniadau hyn trwy weithiau celf ac arteffactau o gasgliad yr amgueddfa,celf a fenthycwyd o gasgliad TATE a gwaith gan artistiaid sy’n byw o fewn Cymru wledig heddiw. “Mae sgyrsiau pwysig yn cael eu cynnal yng Nghymru yn lleol ac yn genedlaethol ynglŷn
DAFAD AC OEN HENRYMOORE.
â ffyrdd o ddefnyddio’r tir. Fel amgueddfa sirol sydd â chasgliad sylweddol sy’n cynrychioli treftadaeth amaethyddol draddodiadol Ceredigion,teimlwn gyfrifoldeb i ymuno yn y sgwrs gyda’n cymunedau am ein dyfodol. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith yn yr arddangosfa yn darlunio defaid mewn rhyw ffordd,neu’r tir a’r bobl sy’n cefnogi ffermio defaid,
”
dyweddodd Alice. Un elfen ddiddorol o’r arddangosfa yw’r ffilmiau byr. Y ddwy ffilm gafodd gryn argraff arnaf oedd ‘Dai a Nancy’o waith Short & Forward,sef Louise Short a Alice Forward sy’n
olrhain hanes teimladwy dau ffermwr defaid yn eu hwythdegau ym Mhonterwyd a Chwmrheidol. Yr ail ffilm yw ‘Ni yw’r Ddiadell’ o dan arweiniad Ffion Jones,artist, darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth,ac yn ffermio ei
hun.Mae’r ffilmyn cynnwys cyfweliadau â deg ffermwr o’r ardal leol. Mae ei chwestiynau,gan gynnwys “Beth mae defaid yn eu golygu i chi?” yn tynnu sylw at y berthynas sydd gan ffermwyr gyda’u preiddiau. Roedd oedrannau’r ffermwyr yn amrywio o’r to hŷn i’r genhedlaeth nesaf a diddorol oedd clywed eu dealltwriaeth unigryw o ddefaid sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd. Mae gwaith y ffotograffydd Marian Delyth yn cael lle
amlwg yn yr arddangosfa ac yn dangos cipolwg o fart Tregaron,bywyd amaethyddol Ynys Enlli a chymuned y Mynydd Bach lle treuliodd flwyddyn yn tynnu lluniau o’r tirlun,y cymeriadau,a’r digwyddiadau diwylliannol a chrefyddol i greu 100 llun digidol o dan y teitl ‘Milltir Sgwâr’. Mae’r ffordd y mae’r arddangosfa wedi cael ei gosod allan yn unigryw,ac yn plethu mewn gyda gweddill
arddangosfeydd parhaol yr amgueddfa,ac mae naws naturiol y colisewm i’w deimlo drwyddi draw. Felly os mae lluniau,propiau,cerfluniau neu ffilmiau yw eich diddordeb,mae yna sicr
rhywbeth at ddant pawb i’w mwynhau yn yr arddangosfa hon. Mae’n llwyddo i ddangos pwysigrwydd defaid ymhob agwedd o gefn gwlad,boed hynny’n dirwedd,hanes, diwylliant ond yn bwysicaf oll,y bobl. Mae yna gylch yn bodoli sy’n cysylltu pobl a defaid gyda’i gilydd ‐ ni all y ddau beth fodoli heb y llall,a tra bod yna bobl,bydd yna ddefaid ac yn sicrhau dyfodol i’n hucheldir a dyfodol i’r genhedlaeth nesaf. Thisa
rticle is in English on the FUWweb site: “Sheep, sheepa nd more sheep!”
9
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24