24 Newyddion MAE UNDEB MYFYRWYR
PRIFYSGOL ABERYSTWYTH yn cydweithio gydag elusen achub cŵn i gynorthwyo myfyrwyr a lleddfu rhywfaint ar bwysau arholiadau. Mae’r digwyddiad yn rhan o
raglen ehangach o ddigwyddiadau ym Mhrifysgol Aberystwyth i hyrwyddo lles myfyrwyr ac iechyd meddwl yn ystod cyfnod arholiadau. Mae’r rhain yn cynnwys teithiau
cerdded campws, gorsafoedd lliwio ofalgar a sesiwn trechu straen yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol, yn ogystal â gofod ffydd newydd ar gampws Penglais a Llanbadarn. Dywedodd y Swyddog Lles
Myfyrwyr Naomi Cutler, “Gall arholiadau Ionawr fod yn hynod o straenus i lawer o fyfyrwyr a gyda lles myfyrwyr ac iechyd meddwl yn uchel ar ein hagenda rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn lleddfu rhywfaint ar y pwysau. “Diolch yn arbennig i’r myfyrwyr
gafodd y syniad o ddod â’r cŵn yma, y tîm yn Undeb y Myfyrwyr sydd wedi gweithio mor galed i roi’r digwyddiad at ei gilydd ac i Alpet Poundies am ymuno â ni gyda’u cŵn gwych. Os bydd y digwyddiad yn llwyddiannus, mi fyddwn yn sicr yn ystyried gwneud hyn eto.” Ychwanegodd Naomi: “Mae
astudiaethau’n dangos y gall rhyngweithio ag anifeiliaid therapi leihau straen mewn pobl ac maent yn cael eu defnyddio mewn cartrefi gofal, hosbisau a llawer o sefydliadau eraill yn llwyddiannus iawn ac yn cael eu canmol. “Gall chwarae gydag anifail
gynyddu lefelau o’r hormon ocsitosin sy’n lleihau straen a lleihau faint o’r hormon straen, cortisol sy’n cael ei gynhyrchu.” Dywedodd
Cyfarwyddwr
Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr Caryl Davies: “Mae lles meddyliol ein myfyrwyr yn holl bwysig i ni ac mae ein gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ar gael drwy’r flwyddyn. Er hyn, rydym
Ymwelydd croeso mawr: Sam y ci defaid
yn ymwybodol bod cyfnod arholiadau yn gallu bod yn adeg o bwysau mawr yn ystod y calendr academaidd ac felly rydym wedi llunio rhaglen arbennig o weithgareddau er mwyn codi ychydig ar y pwysau.” Mae cyfraniadau gan alumni
Prifysgol Aberystwyth wedi cyfrannu at y gost o gynnig sesiynau am ddim yng Nghanolfan y Celfyddydau a dod â’r cŵn i Aberystwyth.
Teithiau cerdded campws,
gorsafoedd lliwio gofalgar, trechu straen a Gofod Ffydd
Teithiau Cerdded Campws Mae teithiau cerdded amser
cinio wedi bod yn cael eu cynnal ar Gampws Penglais drwy gydol y cyfnod arholiadau sy’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr a staff i fwynhau ychydig o awyr iach ac archwilio gerddi’r campws.
Gorsafoedd lliwio gofalgar Sefydlwyd nifer o orsafoedd
lliwio ar draws y campws i fyfyrwyr gymryd seibiant ac ymlacio. Daeth lliwio i oedolion yn boblogaidd iawn yn y blynyddoedd diweddar ac mae astudiaethau wedi dangos bod gweithgareddau creadigol sy’n golygu
canolbwyntio ar batrymau cywrain a manylion, yn gallu cynyddu’r ymdeimlad o dawelwch ac ymlacio. Ar gael yn TaMed Da, Lolfa Rosser a Phentre Jane Morgan a Llyfrgell Hugh Owen.
Sesiynau curo straen y Ganolfan Chwaraeon
Mae Canolfan Chwaraeon y
Brifysgol yn cynnig tocynnau am ddim bob dydd i’w Rhaglen Iechyd a Lles sy’n cynnwys dosbarthiadau nofio, campfa ac ymarfer corff. Ar gael i fyfyrwyr yn rhad ac am ddim i helpu gyda straen yn ystod arholiadau tan Iau, Ionawr 27. Mae rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Chwaraeon a’i sesiynau curo straen o gael ar-lein.
Gofod Ffydd Mae Prifysgol Aberystwyth wedi
agor dau Ofod Ffydd ar gyfer staff unigol / myfyrwyr at ddibenion defosiwn a/ neu fyfyrdod tawel – sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn academaidd ac nid yn unig ar adeg arholiadau. Mae’r Gofod Ffydd ar Gampws Penglais wedi ei leoli yng Nghanolfan y Celfyddydau, i’r dde o’r Cafe Piazza, a’r gofod ar Gampws Llanbadarn yn Blas Padarn. Mae mwy o wybodaeth am Ofod Ffydd y Brifysgol a sut i archebu nhw ar gael ar-lein.
Victoria Symmonds: Gyda Isabelle MAE ARBENIGWYR iechyd
yn yn Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro wedi lansio cynllun newydd i gynorthwyo darpar famau i wneud ymarfer corff. Mae ‘Symud i’r Babi’ yn
rhaglen ymarfer corff cyn-geni sydd wedi’i gynllunio i helpu menywod i gadw’n iach ac yn heini yn ystod beichiogrwydd. Mae bod yn heini tra’n feichiog
yn ddiogel ac yn dda i’r fam a’r babi. Gall helpu’r corff i baratoi ar gyfer rhoi genedigaeth a bod yn fam newydd, a gall dosbarthiadau ymarfer corff fod yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd. Dywedodd
Ian Scale,
Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Tîm Iechyd Cyhoeddus Hywel Dda: “Rydym yn buddsoddi’n bennaf yn y 1000 o ddiwrnodau cyntaf bywyd. Dengys tystiolaeth bod sylfeini iechyd a llesiant gydol oes – yn cynnwys y risg o ordewdra a chyflyrau cronig penodol – yn cael eu gosod yn bennaf yn ystod y 1000 o ddiwrnodau cyntaf hyn o fywyd (o feichiogrwydd hyd at ddwy flwydd oedd). Gall bod yn actif a derbyn y maeth cywir yn ystod y ffenest 1000 o ddiwrnodau hyn gael effaith sylweddol ar allu plentyn i dyfu, dysgu a ffynnu. “Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol wedi buddsoddi arian i gefnogi rhaglen o waith er mwyn cefnogi pwysau iach yn ystod beichiogrwydd ac yn ystod y blynyddoedd cynnar. Mae’r buddsoddiad hwn wedi ein galluogi i weithio gyda phartneriaid mewn awdurdod lleol i ddarparu’r rhaglen gweithgaredd corfforol ‘Symud i’r Babi’ ar gyfer darpar famau lle gall eu pwysau eu heffeithio, ac er mwyn cefnogi ein bydwragedd trwy becyn o hyfforddiant achrededig i’w galluogi
i gefnogi eu darpar famau i gynnal pwysau iach ar hyd beichiogrwydd. “Gall cadw’n heini ac iach yn
ystod beichiogrwydd arwain at well cwsg, cylchrediad gwaed a’r ffordd yr ydych yn teimlo, gall leihau’r risg o gyflyrau megis diabetes a phwysedd gwaed uchel, a gall gryfhau a thynhau’r cyhyrau.” Mynychodd y fam newydd,
Victoria Symmonds o Sir Benfro, dosbarthiadau cyn geni ei merch, Isabelle. Meddai Victoria: “Mwynheais y dosbarthiadau a’i chanfod yn ddefnyddiol i allu mynd ar gyflymder cyfforddus i mi, gan weithio ar lefel a oedd yn briodol ac yn addas ar gyfer fy lefel o ffitrwydd. “Derbyniais gynghorion ac
esboniadau arbennig yn enwedig ynghylch ymarferion lloriau pelfig, gallwn wneud y rhain adref ac yn fy amser fy hun. “Rhoddodd y cwrs gyfle i fi
siarad a rhannu fy mhrofiadau gyda darpar famau eraill, ac roedd hyn yn ddelfrydol. “Ar y cyfan, fe wellodd fy hunan
werth ac fe wnaeth i mi deimlo yn fwy egniol, sydd yn ddigwyddiad prin pan rydych yn feichiog!” Mae angen i’r rhai sy’n dymuno
cymryd rhan wneud apwyntiad a’u bydwraig yn gyntaf. Os yn addas, bydd eich bydwraig yn llenwi ffurflen gyfeirio a’i hanfon yn uniongyrchol at Gydlynydd Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff . Bydd y rhai hynny sydd wedi’u cyfeirio yn cael eu hannog i fynychu dwy sesiwn yr wythnos yn rhan o raglen 16 wythnos. Cyn ymrwymo i’r rhaglen,
byddwch yn gyntaf yn cael cynnig ymgynghoriad yn cynnwys cyflwyniad i’r cynllun, taith o’r ganolfan hamdden, asesiad iechyd a chynllun manwl ar gyfer llwyddiant parhaus tra ar y cynllun.
THE HERALD FRIDAY JANUARY 20 2017
Follow us on Twitter @ceredigherald
Cwmni cŵn yn codi’r pwysau Symud i’r Babi!
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24 |
Page 25 |
Page 26 |
Page 27 |
Page 28 |
Page 29 |
Page 30 |
Page 31 |
Page 32 |
Page 33 |
Page 34 |
Page 35 |
Page 36 |
Page 37 |
Page 38 |
Page 39 |
Page 40 |
Page 41 |
Page 42 |
Page 43 |
Page 44 |
Page 45 |
Page 46 |
Page 47 |
Page 48