THE HERALD FRIDAY JANUARY 20 2017
Like us on Facebook
facebook.com/ceredigionherald
23 Newyddion Astudiaeth newydd yn archwilio tlodi
Bydd cylch gwaith ymchwilwyr IMAJINE hefyd yn cynnwys:
• Dadansoddiad o ystadegau economaidd-gymdeithasol ar anghydraddoldebau;
• Arolwg ar-lein i fesur canfyddiadau’r cyhoedd o anghydraddoldebau rhanbarthol a pholisïau cydlyniant;
• Ymchwiliadau i’r cysylltiadau rhwng anghydraddoldeb a mudo rhanbarthol, ac anghydraddoldebau rhanbarthol a symudiadau ar gyfer ymreolaeth wleidyddol;
• Ymchwil ar sut mae llywodraethau yn defnyddio’r dosbarthiad o wasanaethau cyhoeddus ac adnoddau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau;
• Ymarferion ‘adeiladu senario cyfranogol’ gyda rhanddeiliaid i archwilio opsiynau polisi posib i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.
MAE’R BWLCH rhwng
ardaloedd cyfoethog a thlawd Ewrop yn destun prosiect ymchwil arloesol dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth. Mae
ymchwilwyr
mwyaf i gael ei ariannu fel rhan o raglen Horizon 2020 yr UE ac yn cynnal ei lansio ym Mrwsel Ddydd Mercher, mis Ionawr 18. Dros gyfnod o bum mlynedd,
yn
Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg y Brifysgol wedi cael grant o bron ¤5m gan yr Undeb Ewropeaidd i edrych ar anghydraddoldebau rhanbarthol. Mae IMAJINE (Mecanweithiau
Integreiddiol ar gyfer Ymdrin â Chyfiawnder ac Anghydraddoldebau Tiriogaethol yn Ewrop) yn un o’r prosiectau gwyddorau cymdeithasol
nod y prosiect yw llunio dulliau polisi newydd i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a hyrwyddo dosbarthiad tecach o adnoddau ar draws yr UE. Dan arweiniad yr Athro Michael
Woods a’i dîm ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r prosiect yn dwyn ynghyd 15 o bartneriaid o bob rhan o Ewrop i astudio anghyfartaleddau rhanbarthol trwy ddefnyddio dulliau
rhyngddisgyblaethol unigryw. Bydd yn cyfuno arbenigedd daearyddwyr, gwyddonwyr
economegwyr, cynllunwyr,
gwleidyddol a chymdeithasegwyr i ddadansoddi ar lefel Ewropeaidd ac achos manwl o astudiaethau mewn 11 o wledydd, gan gynnwys Cymru. Dywedodd cydlynydd prosiect
IMAJINE, yr Athro Michael Woods: ““Mae digwyddiadau diweddar wedi dangos bod llawer o bobl yn teimlo nad yw’r rhanbarthau lle maen nhw’n byw yn cael cyfran deg o’r gacen. Mae cydlyniant tiriogaethol yn un o egwyddorion sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd, ac eto ers 2008 mae anghydraddoldebau rhwng gwahanol ardaloedd Ewrop wedi cynyddu ac mae consensws cynyddol bod angen ail-edrych ar bolisïau ar gyfer cydlyniant cymdeithasol a datblygu rhanbarthol. Trwy ddod at y broblem mewn modd eang ac amlddisgyblaethol, ein gobaith yw y bydd IMAJINE yn annog syniadau newydd a ffyrdd ffres o feddwl. “Rydym yn awyddus i archwilio,
er enghraifft, a yw canfyddiadau’r cyhoedd o anghydraddoldebau yn cyd- fynd â’r dadansoddiad ystadegol? A oes cysylltiad rhwng anghydraddoldeb rhanbarthol a phatrymau ymfudo?
Ac a allai datganoli mwy o rym gwleidyddol i’r rhanbarthau gynnig ffordd amgen o fynd i’r afael ag anghyfiawnderau canfyddedig? “Bydd gofyn y cwestiynau hyn
yn ein galluogi i weithio gydag ystod o randdeiliaid - yn llywodraethau, yn gyrff anllywodraethol ac yn gymunedau er mwyn datblygu polisïau sy’n dychmygu dyfodol mwy cyfiawn ar draws holl diriogaeth Ewrop.” Mae’r tîm o ymchwilwyr o
Brifysgol Aberystwyth sy’n rhan o IMAJINE yn cynnwys yr Athro Woods, yr Athro Rhys Jones a’r Dr Rhys Dafydd Jones (Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear), Dr Anwen Elias, Dr Catherine Edwards, Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles (Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol), Dr Maria Plotnikova (Ysgol Fusnes Aberystwyth) a Dr Sarah Riley (Seicoleg).
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24 |
Page 25 |
Page 26 |
Page 27 |
Page 28 |
Page 29 |
Page 30 |
Page 31 |
Page 32 |
Page 33 |
Page 34 |
Page 35 |
Page 36 |
Page 37 |
Page 38 |
Page 39 |
Page 40 |
Page 41 |
Page 42 |
Page 43 |
Page 44 |
Page 45 |
Page 46 |
Page 47 |
Page 48