22 Newyddion TASG gyntaf Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Ceredigion, sydd newydd ei sefydlu, oedd i wneud asesiad o gyflwr presennol llesiant pobl leol a chymunedau. Mae’r Bwrdd hefyd wedi archwilio
sut y gallai llesiant newid mewn ymateb i dueddiadau’r dyfodol. Mae’r canfyddiadau o ymgyrch
ymgysylltu eang â’r cyhoedd yn ystod misoedd Gorffennaf, Awst a Medi 2016 gan gynnwys Holiadur Llesiant yn ogystal ag ymchwil arall wedi cyfrannu
at yr asesiad drafft. Mae Asesiad o Lesiant Lleol
Ceredigion bellach allan ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus tan hanner dydd ar 13 Chwefror 2017. Bydd BGC Ceredigion yn
defnyddio’r Asesiad terfynol fel sylfaen i Gynllun Llesiant Lleol pum mlynedd, a fydd yn nodi sut bydd y Bwrdd yn gweithio gyda’i gilydd i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol
a diwylliannol
Ceredigion. Bydd angen i’r cynllun fod mewn lle erbyn mis Ebrill 2018.
Dywedodd Cadeirydd BGC
Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn: “Mae’r Asesiad o Lesiant Lleol yn ddarn hynod o bwysig o waith ar gyfer BGC Ceredigion fydd yn cynorthwyo i osod y blaenoriaethau a’r gwaith ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae llawer o ddinasyddion Ceredigion eisoes wedi cael mewnbwn i’r asesiad drafft trwy’r gwaith ymgysylltu a wnaed dros fisoedd yr haf, ond rydym yn awyddus i dderbyn sylwadau ar yr asesiad drafft cyn ei gyhoeddi’n derfynol.”
Mae BGC Ceredigion yn gofyn am sylwadau ar yr asesiad drafft cyn iddo gael ei gyhoeddi yn derfynol. Mae’r asesiad drafft a manylion am sut i ymateb ar gael ar-lein yma:
www.ceredigion.gov.uk/BGC Fel arall, os hoffai unigolion dderbyn copi papur neu fformatau hygyrch eraill o’r asesiad, neu am unrhyw wybodaeth bellach gallant gysylltu â:
pressoffice@ceredigion.gov.uk 01545 572003
Swyddfa’r Wasg, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0PA
Prosiect newydd hinsawdd a threſtadaeth arfordirol
THE HERALD FRIDAY JANUARY 20 2017
Follow us on Twitter @ceredigherald
Ymgynghoriad ar Asesiad o Lesiant Lleol
Golygfa o’r awyr o Ynys Dewi: Ar arfordir gogleddol sir Benfro (Llun. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru) Dr Sarah Davies, Darllenydd yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (ADHD): Arwain y gwaith
MAE YMCHWILWYR o
Brifysgol Aberystwyth yn rhan o brosiect Ewropeaidd newydd gwerth miliynau o bunnoedd i ymchwilio i beryglon newid yn yr hinsawdd i dreftadaeth rhai o dirweddau arfordirol pwysicaf Cymru ac Iwerddon. Gyda chyllid o ¤4.1m gan
raglen Iwerddon-Cymru yr UE, caiff y prosiect ei arwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) yn Aberystwyth. Y gobaith yw y bydd prosiect
CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd) hefyd yn ysgogi twf economaidd mewn cymunedau arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon. Pentiroedd ac ynysoedd o
amgylch Sir Benfro, Bae Ceredigion a Phenrhyn Llŷn fydd canolbwynt y prosiect, ynghyd â safleoedd ar hyd arfordiroedd de a dwyrain Iwerddon. Caiff y technolegau diweddaraf
eu defnyddio i ddadansoddi archaeoleg yr arfordir a’r ynysoedd a safleoedd treftadaeth forol sydd
wedi eu heffeithio fwyaf gan newid yn yr hinsawdd, erydu arfordirol, stormydd a chynnydd yn lefelau’r môr.
Bydd y prosiect yn ariannu
gwaith cloddio newydd, cofnodion o newid amgylcheddol, mapio morol a modelu tirwedd. Amcan arall fydd cefnogi
strategaethau ar newid hinsawdd yn y dyfodol drwy ddarparu dealltwriaeth ddyfnach o newidiadau hirdymor i amgylcheddau treftadaeth ac arfordirol Cymru ac Iwerddon sy’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Bydd y prosiect hefyd yn darparu
gwybodaeth i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cyfleoedd twristiaeth drwy hyfforddiant a digwyddiadau cyhoeddus. Canolbwynt cyfraniad Prifysgol
Aberystwyth i’r bartneriaeth fydd datblygu cofnodion ansawdd uchel o newid amgylcheddol gan ddefnyddio cofnodion gwaddodol a hanesyddol. Dr Sarah Davies, Darllenydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (ADGD), fydd
yn arwain y gwaith. “Mae hwn yn gyfle gwych i
ni ym Mhrifysgol Aberystwyth i gydweithio gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ar yr hyn a gredwn yw’r cynllun ar y cyd mwyaf o’i fath rhyngddom hyd yma” meddai Dr Davies, sy’n arwain tîm o’r Adran Ddaearyddiaeth sy’n cynnwys yr Athro Helen Roberts, Yr Athro Geoff Duller, yr Athro Henry Lamb, Dr Hywel Griffiths a Dr Cerys Jones. “Drwy weithio gyda’n
partneriaid yn Iwerddon a chymunedau arfordirol i ymchwilio i effeithiau hirdymor newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd, ein nod yw cyfrannu at ddealltwriaeth ddyfnach o’r tirweddau arfordirol deinamig hyn a darparu atebion a fydd yn gymorth i ddiogelu treftadaeth ar gyfer y dyfodol.” Cafodd cyhoeddiad am y prosiect
¤4.1m ei wneud gan Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru Mark Drakeford ddydd Mercher, Ionawr 11.
“Mae’r prosiect hwn yn gyfle
i Gymru ac Iwerddon ddod at ei gilydd i fynd i’r afael â rhai o’r heriau ry’n ni’n eu hwynebu o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd yn ein hardaloedd arfordirol. “Mae’n hynod o bwysig bod
safleoedd treftadaeth ac adnoddau sydd mewn perygl o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd yn cael eu diogelu, ac mae’n bleser gweld y bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn cefnogi cyfleoedd newydd i sector twristiaeth y ddwy wlad.” Dywedodd Gweinidog Gwariant
Cyhoeddus Iwerddon, Paschal Donohoe, TD: “Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut y gallwn ni ddefnyddio technolegau newydd i fynd i’r afael â’r materion diweddaraf fel y newid yn yr hinsawdd ac effaith hynny ar amgylchedd forol a threftadaeth ein dwy wlad. Mae hefyd yn ategu pwysigrwydd cydweithio trawsffiniol a’r cymorth sy’n cael ei roi gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer hynny.” Mae Canolfan Archeoleg ac
Arloesi Iwerddon (The Discovery Programme) ac Arolwg Daearegol Iwerddon hefyd yn bartneriaid ar y prosiect sy’n cael ei arwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Dywedodd
Christopher
Catling, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol Cymru: “Dyma brosiect newydd cyffrous. Mae CHERISH yn uno archeolegwyr, geowyddonwyr ac arbenigwyr y môr i fynd i’r afael â’r heriau sylweddol sy’n peryglu’r amgylchedd hanesyddol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. “Bydd y prosiect hefyd yn ein
galluogi ni am y tro cyntaf i gynnal gwaith maes ar rai o dirweddau archeolegol cyfoethocaf Cymru ac Iwerddon. Ry’n ni’n credu y bydd hyn yn arwain at lawer o gyfleoedd newydd a chyffrous ym maes twristiaeth treftadaeth ac arfordirol y ddwy wlad.” Yn ogystal â ¤ 4.1m o arian
yr UE, mae Cherish yn cael ei gyd-ariannu gan ¤ 1.1m gan y sefydliadau sy’n cymryd rhan.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24 |
Page 25 |
Page 26 |
Page 27 |
Page 28 |
Page 29 |
Page 30 |
Page 31 |
Page 32 |
Page 33 |
Page 34 |
Page 35 |
Page 36 |
Page 37 |
Page 38 |
Page 39 |
Page 40 |
Page 41 |
Page 42 |
Page 43 |
Page 44 |
Page 45 |
Page 46 |
Page 47 |
Page 48