Y TIR
CL ECS CYMRAEG CORNEL CLECS Cyfle gwleidyddo l gwych Cai ganAngharad Evans, Golygydd y Gymraeg
1 0 DIWRNOD! Mae’n Fawrth 1 9 a ninnau 1 0 diwrnod i ffwrdd o’r diwrnod mawr hanesyddol,Mawrth 2 9 2 0 1 9 ‐ diwrnod ‘gadael’ yr UE. Pwy a ŵyr beth fydd wedi digwydd erbyn i chi ddarllen hwn! Beth bynnag fo’ch barn am y sefyllfa wleidyddol bresennol, mae’n dda gweld bod y genhedlaeth nesaf yn awchu i fod yn rhan o’r cnwd newydd o wleidyddion, a hynny diolch i Senedd Ieuenctid Cymru. Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn gorff etholedig o bobl ifanc rhwng 1 1 a 1 8 oed. Safodd
dros 4 6 0 o ymgeiswyr i gael eu hethol, ac fe’u dewiswyd gan eu cyfoedion mewn etholiad ar‐lein. O’r 6 0 aelod a etholwyd, mae 4 0 yn cynrychioli etholaethau Cymru. Cafodd 2 0 o ymgeiswyr eraill eu hethol gan sefydliadau partner i adlewyrchu cyfansoddiad Cymru a sicrhau y caiff grwpiau amrywiol o bobl ifanc eu cynrychioli. Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn dymuno: • Grymuso pobl ifanc Cymru i nodi, cynyddu ymwybyddiaeth, a thrafod ymaterion sydd o bwys iddynt. • Gwrando ar bobl ifanc yng Nghymru, cynrychioli eu barn, a gweithredu ar ymaterion sy’n bwysig iddynt. • Gweithio gyda phobl ifanc yng Nghymru a rhannu’r hyn rydyn ni’n ei wneud gyda’r materion maent wedi’u codi. Ar ôl cael eu hethol ymmis Tachwedd 2 0 1 8 , cyfarfu Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn
eu rhanbarthau am y tro cyntaf ym mis Ionawr, a chyfarfod fel senedd lawn yn ystod penwythnos preswyl ym Mae Caerdydd ddiwedd mis Chwefror. Yn ystod y penwythnos preswyl, cynhaliwyd dadl yn siambr y Senedd, pryd y siaradodd pob aelod dros fater penodol i bleidleisio arno. Aelod Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yw Cai Phillips, mab i aelod ffyddlon yr
undeb yn Sir Gaerfyrddin a bu’n siarad ynglŷn â Ffermio a Chyfleoedd Gwledig. Cafodd Cornel Clecs gyfle i ofyn i Cai am ei brofiad hyd yn hyn gyda’r Senedd:
Su t dechreu odd dy ddiddordeb mewngwleidyddiaeth?
Mae gan Mamgu ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac mae bob tro yn aros lan ar noson etholiad felly cefais fy ngeni mewn i wleidyddiaeth. Dechreuodd fy mrwdfrydedd nôl yn 2 0 1 6 pan oedd y Refferendwm yr UE yn cael ei gynnal. Roeddwn wedi cyffroi gyda’r
ymgyrchu a barn pobl yn cael eu dweud, a theimlais yn rhwystredig fel person ifanc bod ni ddim yn cael lleisio barn. Wedyn nôl ym mis Medi blwyddyn ddiwethaf codwyd y cyfle i fod yn rhan o’r Senedd Ieuenctid a neidiais ar y cyfle, oherwydd roeddwn eisiau bod yn rhan o’r newid sydd angen; i roi llais i bobl ifanc fy ardal.
Su t brofiad oedd bod ynSiambr y Senedd?
Roedd yn brofiad anhygoel i fod yn eistedd, dadlau, gwrando a phleidleisio mewn lle mor ddylanwadol â’r Senedd. Roeddwn i wedi areithio am 2 munud ar ffermio a chyfleoedd gwledig. Roeddwn yn sôn am sut rydym ni fel ffermwyr yn “crynu yn ein Wellingtons” oherwydd ansicrwydd Brexit. Ac ar y mater pwysig o gysylltiad band eang cyflym sy’n bwysig ar gyfer pobl ifanc a busnesau mewn ardaloedd gwledig. Roedd yn fraint ac yn anrhydedd i fod yn gwrando ar areithiau pwerus, personol a phroffesiynol y grŵp cymhwysol ac ysbrydoledig o bobl ifanc. Y blaenoriaethau dewisom fel aelodau i weithio arnyn nhw yn ystod y tymor o ddwy flynedd oedd: 1 . Cymorth Iechyd emosiynol ac iechyd meddwl. 2 . Sbwriel a gwastraff plastig. 3 . Sgiliau bywyd yn y cwricwlwm. Rwyf yn edrych ymlaen at gydweithio ar y materion holl bwysig yma ac i wneud Cymru yn lle gwell i fyw ynddo heddiw ac i’r dyfodol.
Cai Phillips yny Senedd.
Mae gweld brwdfrydedd ac egni Cai yn ysbrydoliaeth a dymunwn yn dda iddo fe yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Cai Phillips, cofiwch yr enw, mae dyfodol disglair o’i flaen!
This article is available in English on the FUWwebsite: “Cai's great politicalopportunity.”
9
Forefront®
T is a high performance herbicide.
It is the most effective, broad spectrum weed control solution for grassland.
Use it on permanent pastures or grazing leys to control long established or high populations of weeds. It is your cost effective alternative to a full re-seed, quickly increasing the amount of available grass.
Let your grass breathe again. Talk to your advisor or find out more at
corteva.co.uk
Breathe new life into old pasture.
+ + =
Docks
Nettles
Thistles
Buttercups Dandelions
Ragwort
Discover more at
corteva.co.uk
USE PLANT PROTECTION PRODUCTS SAFELY. Always read the label and product information before use. For further information including warning phrases and symbols refer to label.
Corteva Agriscience, Agriculture Division of DowDuPont, CPC2 Capital Park, Fulbourn, Cambridge CB21 5XE. Tel: 01462 457272. ®
, ™ Trademarks of DuPont, Dow AgroSciences and Pioneer and affiliated companies or their respective owners. Technical Hotline: 0800 689 8899. E-mail:
ukhotline@corteva.com. Forefront®
T contains aminopyralid and triclopyr.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24