This book includes a plain text version that is designed for high accessibility. To use this version please follow this link.
Page 4


 






Dewch yn gynrychiolydd ysgol!





 


Mae’r NUT yn ymfalchïo yn y ffaith bod ganddi aelodau ym mron pob ysgol yng Nghymru. Ac yn y rhan fwyaf o’r ysgolion hynny mae athro sy’n gynrychiolydd ysgol, yn recriwtio aelodau newydd, cynghori aelodau, hyrwyddo polisi’r NUT a chysylltu gyda chymdeithasau lleol a swyddfa NUT Cymru.


Ond mae angen mwy o gynrychiolwyr arnom ni. Dywedodd Ysgrifennydd Cymru David Evans: “Rydym yn parhau i recriwtio cynrychiolwyr ysgol newydd. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd y cynrychiolydd ysgol o ganlyniad i’r ymgyrch bensiynau, a pha mor hanfodol yw hi i gael cynrychiolydd NUT ym mhob ysgol yng Nghymru.”


Mae NUT Cymru yn sicrhau cefnogaeth i bob cynrychiolydd ysgol fel eu bod yn medru ymgymryd â’u dyletswyddau yn gyfforddus. Maent yn derbyn hyfforddiant am ddim ar sut i ddelio a’u cyfrifoldebau.


Cynhelir y cyrsiau nesaf ar:


• 8 Tachwedd: Lefel 1 Rhan 2 Yn Stadiwm Dinas Caerdydd; a


• 10 Tachwedd: Lefel 1 Rhan 1 Yng Ngwesty Llety Parc, Aberystwyth.


Os oes diddordeb gennych chi i fod yn gynrychiolydd ysgol a mynychu un o’r cyrsiau hyn, cysylltwch â Lisa Taverner yn swyddfa NUT Cymru trwy alw 029 2049 1818.


Am fanylion pellach ar ddod yn gynrychiolydd, neu i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r NUT mewn ffordd arall, ewch i www.teachers.org.uk/getinvolved


 


 


Hello…


 


Croeso cynnes i Swyddog Polisi newydd NUT Cymru, Owen Hathway (gweler y llun uchod), oedd yn gweithio i Blaid Cymru yn y Cynulliad, ac i Paul Bedford, sy’n dysgu yn Ysgol Uwchradd Penyrheol, Abertawe. Fe’i etholwyd yn ysgrifennydd rhanbarth Abertawe wedi ymddeoliad Steffan ap Dafydd.


… a hwyl fawr


Anrhydeddwyd Steffan ap Dafydd a Mal Davies o Bontypwl mewn cinio yng Ngogledd Cymru am eu gwasanaeth maith i’r NUT. Derbyniodd Mal yr OBE yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines eleni.


Roedd y digwyddiad hefyd yn cofio am fywyd Jack McLean, mab ysgrifennydd rhanbarth Sir Ddinbych Liz McLean, fu farw yn gynharach eleni.


 


Cymorth Cadarn…


Fel yr undeb athrawon mwyaf, gallwn gyn- nig y gwasanaeth gorau i’n haelodau. Mae ein tîm proffesiynol yn barod i gynnig eu harbenigedd i’n rhwydwaith o gynrychiolwyr mewn ysgolion a cholegau ac ysgrifeny- ddion cymdeithasau a rhanbarthau. Os oes gennych broblem yn y gwaith neu yr hof- fech wybod mwy yngl^yn â gwasanaethau i aelodau’r NUT, cysylltwch â:


l eich cynrychiolydd ysgol neu goleg


l ysgrifennydd eich cymdeithas neu ranbarth


l swyddfa NUT Cymru.






NUT Cymru Ty Sinnott, Llys Neifion, Ffordd Vanguard, Caerdydd CF24 5PJ Ffôn: 029 2049 1818 Ffacs: 029 2049 2491 Ebost: cymru.wales@nut.org.uk


Ysgrifennydd Cymru: David Evans


Swyddogion Cymru: Gareth Lloyd, Debbie Scott


Swyddog Trefnu a Chyfathrebu Cymru: Stuart Williams


Cyfreithiwr Cymru: Sarah Weaver


Swyddog Polisi Cymru: Owen Hathway


Aelodau 'r Pwyllgor Gwaith: Angela Davies, Beth Davies, Neil Foden


 


Prif Swyddfa’r NUT National Union of Teachers, Hamilton House, Mabledon Place, London WC1H 9BD


Ffôn: 020 7388 6191 Ffacs: 020 7387 8458 Gwefan yr NUT: www.teachers.org.uk


Llywydd: Nina Franklin


Ysgrifennydd Cyffredinol: Christine Blower

Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4