This book includes a plain text version that is designed for high accessibility. To use this version please follow this link.
Page 3


 


Cydraddoldeb yng Nghalon NUT ifanc


Mynychodd athrawon ifainc o dros De Cymru gyfan yn y bumed gynhadledd flynyddol i athrawon ifanc yn Abertawe ar 14 a 15 o Hydref.


‘Cydraddoldeb’ oedd y thema a derbyniwyd cyflwyniadau gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, Stonewall Cymru ac Amnesty ar adnoddau dosbarth a gynhyrchwyd ganddynt. Trafodwyd Symud i Reolaeth yn y gynhadledd hefyd, a gyflwynwyd gan aelod gweithredol yr NUT Beth Davies, a Materion Ariannol, yn edrych


ar gynllunio ariannol ac arweiniad i gynnyrch ariannol.


Cynhelir cynhadledd athrawon ifanc Gogledd Cymru yn Llandudno ar 18 a 19 o Dachwedd. Cysylltwch â Lisa Tavener ar 029 2049 1818 am fanylion pellach.


“Roedd y gynhadledd yn wych – yn bleserus ac yn llawn gwybodaeth. Roedd y cyfan a drafodwyd yn berthnasol a gellir ei ddefnyddio yn ein hysgolion. Fe fyddaf yn sicr yn mynychu y flwyddyn nesaf” Michael Williams, Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Newydd






Croeso i’r NUT!


Ymwelodd yr NUT â phob prifysgol yng Nghymru ar ddechrau’ tymor hwn er mwyn recriwtio athrawon sy’n hyfforddi i’r Undeb. Roedd yr ymgyrch bensiynau yn destun trafod mawr. Roedd Ysgrifennydd Cymru David Evans yn dosbarthu pecynnau myfyrwyr. Yn y llun, gwelir David Evans gyda Carly Evans a Ffion Davies, o Brifysgol Fetropolitan Abertawe. Mae aelodaeth myfyrwyr yn rhad ac am ddim, a gall athrawon sydd newydd gymhwyso dderbyn pedwar tymor o aelodaeth lawn am £1 yn unig. Dewch o hyd i fanylion pellach trwy ymweld â www.teachers.org.uk/joinus

Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4