This book includes a plain text version that is designed for high accessibility. To use this version please follow this link.
Achubwch fywyd


 Datblygwyd y cynllun Achubwr Bywyd Ifanc gan St John Cymru-Wales er mwyn eich helpu i ddysgu sgiliau cymorth cyntaf i bob plentyn o saith hyd 16 oed. Fe fyddant yn dysgu sgiliau achub bywyd hanfodol yn ogystal â gwaith tîm a sut i wneud penderfyniadau, sy’n gwella hunan hyder.


Mae’r cynllun yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch chi – cynlluniau gwersi, tafl enni gwaith a gynlluniwyd yn arbennig, gemau a gweithgareddau – er mwyn gwneud dysgu Cymorth Cyntaf yn hwyl.


Gallwch ddod o hyd i fanylion pellach trwy ymweld â www.stjohnwales.org.uk/yls neu trwy alw 029 2044 9622.


 


Darllen gyda Sam


Lansiwyd cymorth dysgu i ysgolion cynradd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn ystod yr haf. Adnodd dysgu aml lwyfan yw Darllen gyda Sam sy’n gwneud dysgu’r Gymraeg yn atyniadol ac yn hwyl.


Defnyddia’r adnodd naratif sy’n seiliedig ar y cymeriad Sam, er mwyn gwella geirfa. Cyfuna addysgu traddodiadol gyda chyfryngau ar y sgrin er mwyn dysgu geiriau a chymalau newydd, sy’n caniatáu i’r disgyblion i godi eu hyder wrth ddarllen yn y Gymraeg.


Mae pum llyfr stori ym mhob un o’r tri set, a CD Rom ag animeiddiadau er mwyn dod a’r cymeriad yn fyw.


Os hoffech fanylion pellach, e bostiwch Llywelyn Tudur post@ dysgugydasam.co.uk






Ar ei ben ei hun... 


 


Ym mis Mawrth ymwelodd grwp a oedd yn cynrychioli Ymddiriedolaeth Lesotho Penarth a’r Cylch â Teyteyaning yn y wlad yn Ne Affrica. Aelodau ymddeoledig yr NUT oedd y rhan fwyaf o’r grwp.


Cyfrannodd swyddfa NUT Cymru beniau i’w rhoi i blant Teyteyaning, ac fe’u derbyniwyd yn ddiolchgar. Defnyddiodd y disgyblion y peniau er mwyn ysgrifennu llythyron i blant ysgolion cynradd yn ardal Penarth.






Un i ddibynnu arno






Dewch o hyd i fanylion am sut y gallwch arbed arian gan ddefnyddio’r cerdyn Countdown trwy ymweld â www.countdown.com


Fel aelod o’r NUT, fe fyddwch yn derbyn cerdyn gostyngiad yn awtomatig. Mae’n eich cysylltu chi â rhwydwaith cenedlaethol o ostyngiadau ar y stryd fawr ac yn lleol – o siopau a gwasanaethau i wyliau a llawer iawn mwy.





 

Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4