Gan yr NUT ar gyfer holl athrawon Cymru
Rhifyn 40 Tymor yr Hydref 2011
Na weinidog! Dywed yr NUT
Mynegodd yr NUT bryder yngl y ^n â chynllun 20 pwynt ar gyfer ysgolion yng Nghymru mewn cyfarfod hir ddisgwyliedig gyda Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru Leighton Andrews.
Cyfarfu swyddogion yr NUT gyda’r Gweinidog ym mis Medi er mwyn trafod eu pryderon am y cynlluniau a gyhoeddwyd ym mis Chwefror.
Rhai pynciau trafod oedd y cynlluniau i fandio ysgolion, profion llythrennedd a rhifedd safonedig, cyfleon DPP, yr Uned Safonau Ysgolion newydd, asesiadau tebyg i asesiadau PISA i ddisgyblion 15 oed, a newidiadau i ddarpariaethau rheoli perfformiad i athrawon yng Nghymru.
Disgrifiwyd y cyfarfod gan Ysgrifennydd Cymru David Evans fel cyfarfod cynhyrchiol. Dywedodd, “Rhoddwyd sicrwydd yngl y ^n â chyfeiriad polisi’r dyfodol ond mae meysydd yr hoffem ni drafod ym mhellach. Rydym yn croesawu nifer o’r newidiadau arfaethedig, megis ad- drefnu’r Adran dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, ac ymrwymiad i dorri’r nifer o fentrau, ond rydym yn gwrthwynebu agweddau eraill o’r cynlluniau. Y gwir brawf bydd sut y darperir y cynlluniau.” Tynnodd David at y ffaith bod angen i’r Gweinidog a’i adran ddeall y gwir sialensiau sy’n wynebu athrawon yng Nghymru. Fe fydd yr NUT yn parhau i ymgynghori gyda’i aelodau yngl y cynlluniau.
Gyda David yn y cyfarfod oedd yr aelodau gweithredol Neil Foden ac Angela Davies a Swyddog Polisi Cymru Owen Hathway.
Heulwen a hapusrwydd
Roedd stondin yr NUT yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni yn brysurach nag erioed o’r blaen a gwelwyd aelodau hen a newydd yn ymweld. Ymwelodd y Prif Weinidog Carwyn Jones. Cefnogodd pob ymwelydd yr ymgyrch Pensiynau Teg i Bawb, gan arwyddo’r ddeiseb (os nad ydych chi wedi ei harwyddo, ewch i www.teachers.org.uk/pensions).
Dywedodd nifer o’r aelodau newydd a recriwtiwyd yn yr Eisteddfod eu bod yn ymuno gan eu bod yn cefnogi’r streic yn erbyn y newidiadau arfaethedig i’n pensiynau.
Atyniad poblogaidd ar y stondin oedd y gêm ‘noughts and crosses’ (gweler y llun i’r chwith), ac fe drïodd dros 500 o bobl i ennill camera digidol trwy ddyfalu sawl ceiniog siocled oedd mewn bocs. Enillydd y gystadleuaeth oedd Kraig Davies o Sir y Fflint a ddyfalodd yn gywir mai 278 ceiniog oedd yno.
Previous Page