This page contains a Flash digital edition of a book.
Tymor yr Hydref 2010 / Athrawon Cymru 4


 


NUT - Yr undeb i siaradwyr Cymraeg


Roedd NUT Cymru yn awyddus iawn i gynorthwyo pan ddaeth golygydd Y Llef – Papur Newydd Cymraeg Undeb Myfyrwyr Bangor i ofyn am gymorth i sefydlu’r papur.


Mae’r NUT wedi datblygu i fod yn brif noddwr i’r papur ac o ganlyniad yn derbyn tudalen hyrwyddo ym mhob rhifyn o’r papur. Yn ogystal argraffwyd ein logo ar grysau-T a roddwyd i bob myfyriwr yn ystod Wythnos y Glas.


Dywedodd Stuart Williams, Swyddog Trefnu a Chyfathrebu NUT Cymru: “Roedd hwn yn gyfle arbennig i hysbysebu’r undeb a phwysleisio ein hymrwymiad i’r iaith Gymraeg – ac i ddangos beth rydym yn ei gynnig fel undeb i athrawon sy’n medru’r Gymraeg.


“Rydym yn gobeithio y bydd pob un o’r myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon ym Mhrifysgol Bangor yn trosglwyddo i aelodaeth lawn wedi iddynt orffen eu cyrsiau amrywiol.”






Athrawon ifanc yn siarad siop


Daeth athrawon ifanc o bob rhan o de Cymru i bedwerydd Cynhadledd i Athrawon Ifanc De Cymru, a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Village, Abertawe ar yr 8fed a’r 9fed o Hydref.


Ar frig yr agenda oedd trafodaeth ar beryglon posib gwefannau megis Facebook a MySpace. Mae’r testun yn peri pryder i nifer fawr o athrawon ifainc. Cododd y sesiwn faterion newydd i’r cynrychiolwyr, ac roedd yn lwyddiant ysgubol. Trafodwyd cod ymddygiad newydd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, a sut y gall athrawon ifainc sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed ar bolisïau’r NUT ac ar ymgyrchoedd.


Cynhelir Cynhadledd Athrawon Ifainc i Ogledd Cymru yng Ngwesty St Sior, Llandudno ar yr 28ain – 29ain o Ionawr. Er mwyn cadw lle neu am fwy o fanylion, cysylltwch â Lisa Taverner yn NUT Cymru ar 029 2049 1818.






Amnesty yn siarad â phlant cynradd


Mae Amnesty, yr elusen dros hawliau dynol, yn cynnig nifer o wersi sydd yn bosib eu lawrlwytho yn y Gymraeg a’r Saesneg. Fe fydd eu hadnodd newydd, Dysgu am hawliau dynol yn yr ysgol gynradd, yn dod a’r cysyniad yn fyw i blant yng Nghyfnod Allweddol 1 a 2.


Mae Amnesty hefyd wedi paratoi adnoddau ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 yn edrych ar y gosb eithaf. Gallwch lawrlwytho Mater o Fyw a Marw a’r adnoddau cynradd o wefan Amnesty, www.amnesty.org.uk/education.


Hoffai’r elusen sefydlu grŵp ffocws yng Nghymru gydag athrawon o ysgolion Cymraeg a Saesneg o’r sector cynradd ac uwchradd. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Lisa Jones, AIUK Cymru, ar lisa.jones@amnesty.org.uk.






Cymorth Cadarn...


Fel yr undeb athrawon mwyaf, gallwn gynnig y gwasanaeth gorau i’n haelodau. Mae ein tîm proffesiynol yn barod i gynnig eu harbenigedd i’n rhwydwaith o gynrychiolwyr mewn ysgolion a cholegau ac ysgrifenyddion cymdeithasau a rhanbarthau. Os oes gennych broblem yn y gwaith neu yr hoffech wybod mwy ynglŷn â gwasanaethau i aelodau’r NUT, cysylltwch â:


• eich cynrychiolydd ysgol neu goleg


• ysgrifennydd eich cymdeithas neu ranbarth


• swyddfa NUT Cymru.


NUT Cymru Ty Sinnott, Llys Neifion Ffordd Vanguard Caerdydd CF24 5PJ


Ffôn: 029 2049 1818


Ffacs: 029 2049 2491


Ebost: cymru.wales@nut.org.uk


Ysgrifennydd Cymru: David Evans


Swyddogion Cymru: Gareth Lloyd, Debbie Scott


Swyddog Trefnu a Chyfathrebu Cymru: Stuart Williams


Cyfreithiwr Cymru: Sarah Morgan


Aelodau ‘r Pwyllgor Gwaith: Angela Davies, Beth Davies, Neil Foden


NUT Head Office National Union of Teachers, Hamilton House, Mabledon Place, London WC1H 9BD


Tel: 020 7388 6191


Fax: 020 7387 8458


NUT website: www.teachers.org.uk


President: Gill Goodswen


General secretary: Christine Blower

Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4