Athrawon Cymru
Rhifyn 37 Tymor yr Hydref 2010
Gan yr NUT ar gyfer holl athrawon Cymru
Croeso i’r NUT!
Ymwelodd NUT Cymru â phob prifysgol yng Nghymru ar ddechrau’r tymor eleni er mwyn recriwtio myfyrwyr i’r undeb. Yn y llun uchod gwelir Steffan ap Dafydd, Ysgrifennydd Rhanbarth Abertawe, a Glesni Jones, Prif Swyddog NUT Cymru, (ar y dde) gydag Anna Deeks (canol chwith) a Sarah Francis, dau aelod newydd ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe.
Mae aelodaeth myfyrwyr i’r NUT yn rhad ac am ddim, a gall athrawon newydd gymhwyso dderbyn aelodaeth lawn ar gyfer pedwar tymor am £1. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth yn
www.teachers.org.uk.
Wrth graidd pwer
Cyfarfu cynrychiolaeth yr NUT gyda’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, Leighton Andrews, yn Nhy Hywel ym Mae Caerdydd, ar yr 28ain o Fedi. Roedd y trafodaethau yn “gadarnhaol iawn ym mron pob agwedd”, yng ngeiriau Ysgrifennydd Cymru yr NUT, David Evans.
Trafododd David ar y cyd gydag aelodau gweithredol dros Gymru Neil Foden, Angela Davies, Beth Davies, a Phrif Sywddog NUT Cymru Stuart Williams. Trafodwyd nifer o bynciau allweddol gan gynnwys ariannu, Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion ac athrawon cyflenwi.
Cadarnhaodd y Gweinidog ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i leihau’r bwlch ariannu y pen rhwng disgyblion yng Nghymru a Lloegr (Gweler tudalen 2). Dangosodd ddealltwriaeth o drafferthion athrawon cyfl enwi ac addawodd ymchwilio i’r mater. Mynegwyd pryder gan y gynrychiolaeth nad oedd yr NUT wedi eu gwahodd i ail ran yr Adolygiad Gwariant Cyhoeddus. Gwahoddwyd yr NUT i baratoi datganiadau ysgrifenedig er mwyn eu hystyried o ganlyniad.
Beth gallwn ni ei gynnig i chi?
Yn ogystal â recriwtio myfyrwyr, mae NUT Cymru wedi sicrhau gwasanaeth pump bwrsar myfyrwyr:
• Carys Lawrence (dde) ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth
• Sarah Conway yn UWIC, Caerdydd
• Beth Lewis ym Mhrifysgol Bangor
• Louise Brown ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe
• Daniel Haman yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Mae pob un wedi sefydlu cymdeithas yn eu prifysgolion ac fe fyddant yn trefnu gweithgareddau cyson er mwyn cynorthwyo myfyrwyr, sy’n aelodau o’r NUT, gyda’u hastudiaethau a chynnig datblygiad proffesiynol iddynt – er enghraifft, cynnig ffug gyfweliadau a chymorth gyda llythyron cais.
Os hoffech chi gysylltu gyda Carys, Sarah, Beth, Louise neu Daniel, ebostiwch
cymru.wales@nut.org.uk.
Tu mewn… ‘Cau’r bwlch ariannu!’ Yn eisiau:Cynrychiolydd ym mhob ysgol. NUT – yr undeb i siaradwyr Cymraeg
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4